Friday, 16 September 2022

Rhifolion a threfnolion

Rhifolion

Mae rhifolion bob amser yn dod o flaen enw:

un dyn, tair merch, deuddeg buwch, un milwr ar bymtheg

Sylwer taw enw unigol sy’n dilyn rhifol. Ond mae yna un ffurf luosog sy’n cael ei defnyddio gyda rhifolion, sef blynedd sy’n afreolaidd iawn o ran treiglo yn ogystal.


***PWYSIG***

Enw lluosog yw blynedd yn y bôn, a dyna sy’n esbonio pam nad yw ansoddeiriau yn treiglo ar ei ôl, ac eithrio ar ôl dwy:

        y tair blynedd diwethaf, pedair blynedd caled

Ond:

       y ddwy flynedd ddiwethaf, dwy flynedd gofiadwy


Yn achos rhifolion cyfansawdd, dylid rhoi
r enw yn syth ar ôl yr elfen gyntaf:

tair merch ar ddeg
pedwar llyfr ar bymtheg
dau dudalen ar hugain

Yn yr iaith lenyddol, defnyddir pum, chwe, a can o flaen enw:

pum dyn, chwe merch, can punt, pum afon, chwe awr, can mlynedd

Ar lafar yn Ne Cymru ceir pump, hwech 
[(h)weːχ] of flaen pob enw:

pump (h)ewl; (h)wech punt; pump bachgen, (h)wech merch

Tuesday, 13 September 2022

Y lluosog yn y Gymraeg

Yn y Gymraeg, ffurfir y lluosog o’r unigol mewn pedair prif ffordd:

  1. Newid llafariad
  2. Ychwanegu terfyniad lluosog
  3. Gollwng terfyniad unigol
  4. Cyfnewid terfyniad unigol am un lluosog

1. Newid Llafariad

<a> yn troi’n <ai>                       <a> yn troi’n <ei>

brân                brain                           iâr                   ieir

llygad              llygaid                        car                   ceir

<a> yn troi’n <y>                       <e> yn troi’n <y>

alarch             elyrch                         castell             cestyll

paladr             pelydr                         cyllell              cyllyll

Monday, 12 September 2022

Y presennol llenyddol

Mewn Cymraeg llenyddol, gall y dyfodol cryno gyfleu’r presennol:

A dyna’r lle eisteddaf yn magu fy mrawd ieuengaf, Dafydd, mewn siôl. 

(Y Lôn Wen gan Kate Roberts)

Eisteddaf =  Yr wyf yn eistedd

Penderfynaf ddilyn fy rheswm er bod ofn arnaf. (Y Lôn Wen gan Kate Roberts)

Penderfynaf  =  Yr wyf yn penderfynu

P’run bynnag, edrychaf ymlaen yn eiddgar iawn at eu weld. (Annwyl D.J. gan Emyr Hywel)

Edrychaf = Yr wyf yn edrych 

Presennol/Dyfodol Rheolaidd, e.e. ‘Gweld’

Un.

1. Gwelaf          I see/will see

2. Gweli           You see/will see    

3. Gwêl*           He/she/it sees/will see

Llu.

1. Gwelwn        We see/will see

2. Gwelwch      You see/will see

3. Gwelant       They see/will see

* Mae llawer o amrywiaeth yn ffurfiau’r trydydd person.

Sunday, 11 September 2022

Modd, agwedd ac amser

Wrth drafod system ferfol ieithoedd, cydnabyddir pwysigrwydd y tri chysyniad canlynol:

  1. Modd (mood)
  2. Agwedd (aspect)
  3. Amser (tense)

1. MODD

Mae modd gramadegol (“grammatical mood”) yn ymwneud â sut y mae brawddeg yn cael ei llunio i adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei gyfleu o ran agwedd neu fwriad. Gellir gwneud hyn naill ai trwy’r defnydd o ffurfdroadau berfol neu ynteu drwy fynegiant cystrawennol o foddolrwydd (modality).

Yn y Gymraeg, cydnabyddir fod yna dri modd:

i) Y mynegol (“the indicative”)
ii) Y dibynnol (“the subjunctive”)
iii) Y gorchmynnol (“the imperative”)

1. Y modd mynegol sy’n mynegi gosodiadau ffeithiol neu ynteu rai a drinnir fel gosodiadau ffeithiol, e.e. “Mae’r môr yn las.”

2. Y modd gorchmynnol sy’n mynegi gorchymyn neu gais, e.e. “Aros lle rwyt ti!”

3. Y modd dibynnol sy’n mynegi dymuniad, ansicrwydd, posibilrwydd neu afrealiti, e.e. “O na fyddai’n haf o hyd.”

==============================================

Saturday, 10 September 2022

Llafariaid ac acenion

Beth yw llafariad?

Sain leisiol yw llafariad sy’n cael ei chynhyrchu heb gyfyngu ar lif y llafar. Yn y Gymraeg, mae saith llafariad: <a>, <e>, <i>, <o>, <u>, <w>, <y>. Mae ansawdd llafariad yn dibynnu ar safle’r tafod yn y geg ynghyd â safle’r gwefusau.


Beth yw Acenion?

Marc diacritig yw acen sy’n dynodi newid yn ansawdd neu brosodi'r llafariad y bo ymddangos drosti hi.

Mae yna bedair acen yn Gymraeg sy’n dylanwadu ar ansawdd y llafariaid sy’n gysylltiedig â nhw:

1. Yr acen ddyrchafedig (´) sy’n digwydd uwchben <a>

2. Yr acen ddisgynedig (`), sy’n digwydd uwchben <i> ac <o>

3. Gall yr acen grom (^) ddigwydd uwchben unrhyw lafariad, i ddangos ei bod hi’n hir.

4. Y didolnod (¨) a ddefnyddir i ddangos fod llafariaid drws nesaf iw gilydd yn cael ei hynganu ar wahân.

Thursday, 8 September 2022

Yr Wyddor Seinegol Ryngwladol

 

Yr International Phonetics Association (IPA) yw’r prif sefydliad sy’n gyfrifol am hyrwyddo astudiaeth wyddonol o seineg. Yr IPA sydd hefyd yn gyfrifol am fathu, cyhoeddi a datblygu’r Wyddor Seinegol Ryngwladol.

Er mai blog am ramadeg y Gymraeg yw hon, weithiau mae trawsgrifiadau IPA yn ddefnyddiol.

Cyhoeddwyd fersiwn diweddaraf  Gwyddor yr IPA yn 2015, ac mae siartiau IPA yn cael eu hailgyhoeddi bob blwyddyn. Fe welir fersiwn Cymraeg o’r WSR ar Wikiwand. Dw innau wedi creu PDF y gellir mynediad iddo yma.


Y Wenhwyseg

Y Wenhwyseg yw’r enw ar dafodieithoedd Cymraeg De-ddwyrain Cymru. Mae ffiniau’r Wenhwyseg fel petaent yn cyfateb i Faes Glo De Cymru (Ffig. 1); o Afon Llwyd yn y dwyrain i Gwm Gwendraeth yn y gorllewin[1]. Ond, yn hanesyddol, siaredid y Wenhwyseg hefyd ym Mro Morgannwg a De Sir Fynwy.

Ffig. 1 Maes Glo De Cymru

Helpu i, cytuno i, llwyddo i

 

Berf gyflawn yw un sydd ddim yn cymryd gwrthrych, tra bo berf anghyflawn yn un sy’n cymryd gwrthrych:

  • Mae’r haul yn disgleirio. (cyflawn)
  • Mae’r tŷ bwyta yn derbyn American Express. (anghyflawn)

Mae llawer o ferfau’n gallu gweithredu fel berfau cyflawn a berfau anghyflawn, e.e. mae ‘helpu’ yn ferf anghyflawn ac yn ferf gyflawn:

  • Mae’r myfyrwyr yn helpu’r tiwtor. (anghyflawn)
  • Mae’r myfyrwyr yn helpu. (cyflawn)

Ar y llaw arall, mae cytuno a llwyddo yn ferfau cyflawn:

  • Mae’r myfyrwyr yn cytuno.*
  • Yr wyf wedi llwyddo.
* Mae cytuno yn gallu cymryd gwrthrych anuniongyrchol trwy'r defnydd o'r arddodiad â: Maer myfyrwyr yn cytuno â'r darlithydd.

Ond, o flaen BERFENW, mae’r tair berf hyn yn cael eu dilyn gan yr arddodiad ‘i’:

  • (Yr wyf yn) helpu i ysgrifennu llyfr.
  • (Yr wyf wedi) cytuno i fynd.
  • (Yr wyf wedi) llwyddo i dalu’r bil.

Ond mae’r patrwm yn wahanol pan fo ‘helpu’, ‘cytuno’ a ‘llwyddo’ yn dod o flaen ymadrodd enwol:

  • Mae’r myfyrwyr yn helpu’r tiwtor.
  • Mae’r myfyrwyr yn cytuno â’r tiwtor.
  • Mae’r myfyrwyr wedi llwyddo mewn / yn yr arholiad.

 


Dyblu n ac r


Ar wahân i’r cytseiniaid a ddynodir gan ddwy graffem:

dim ond dwy lythyren sy’n cael eu dyblu yn y Gymraeg, sef <n> ac <r>, a hynny yn bennaf pan fyddan nhw’n digwydd rhwng y goben a’r sillaf olaf mewn gair lluosill.

Eithriad: tyn > tynn (wrth dreiglo, e.e. ‘yn dynn’), ynn

DYBLU <n>

Mae <n> yn cael ei dyblu dan yr amgylchiadau canlynol:

1. Yn y goben ar ôl llafariad fer:

cannu, diflannu, ffynnu, mynnu, pennu, tennyn, tynnu, synnu, a.y.b.

Eithriadau:

(i) crynu, penderfynu, prynu (lle mae’r gytsain yn ‘hanesyddol’ hir)

(ii) menyn (lle mae’r llafariad yn dal yn hir mewn rhai tafodieithoedd cyfoes)

(iii) lle mae deusain ddisgynedig yn y goben (sydd bob amser yn hir):

llwyni, meini, poeni, taenu, a.y.b.

(iv) lle ceir cytsain o flaen yr <n>:

llwydni, partner, trefnus, a.y.b.

Wednesday, 7 September 2022

Termau Gramadegol y Gymraeg: Canolbwyntio ar yr Ymadrodd Berfol

Credaf fod Gramadeg y Gymraeg yn gyfeirlyfr heb ei ail i unrhyw un sy’n ymddiddori yng ngramadeg y Gymraeg. rwy’n ei ddefnyddio fel cyfeirlyfr yn gyson. Ond rhaid imi gyfaddef nad wyf erioed wedi pori trwyddo fel yr wy’n hoffi ei wneud gyda llyfrau gramadeg eraill. Un rheswm am hynny yw’r termau gramadegol idiosyncratig a ddefnyddir yn y gyfrol. Gan fod rhai ohonynt wedi eu mabwysiadu gan ychydig o ramadegwyr eraill, Credaf ei bod hi’n heb bryd cymharu’r gwahanol dermau gramadegol a geir yn y Gymraeg erbyn hyn. Penderfynais wneud hyn trwy ganolbwyntio ar Adran 3 o Gramadeg y Gymraeg, sef ‘Yr Ymadrodd Berfol’. 

1. Moddau Gramadegol: Gwadu Bodolaeth y Modd Gorchmynnol

Yn y Gymraeg, fel mewn llawer o ieithoedd eraill, cydnabyddir bod yna dri modd:

  1. Y modd mynegol
  2. Y modd gorchmynnol
  3. Y modd dibynnol

1. Ffurfiau berfol arbennig yw’r modd mynegol sy’n mynegi gosodiadau ffeithiol neu ynteu osodiadau a drinnir fel gosodiadau ffeithiol: Mae’r môr yn las.

2. Ffurfiau berfol arbennig yw’r modd gorchmynnol sy’n mynegi gorchymyn neu gais: Aros lle rwyt ti!

3. Ffurfiau berfol arbennig yw’r modd dibynnol sy’n mynegi dymuniad, ansicrwydd, posibilrwydd neu afrealiti, e.e. “O na fyddai’n haf o hyd.”

Y Modd Gorchmynnol

“The imperative mood is a grammatical mood that forms a command or request.” Wikipedia (2022)

Fodd bynnag, mae Gramadeg y Gymraeg yn ymwrthod â’r cysyniad mai modd o’r iawn ryw yw’r gorchmynnol:

“Rhan o waddol disgrifio’r Gymraeg yn nhermau ieithoedd eraill yw’r dosbarthiad traddodiadol, sydd yn cynnwys y Modd Gorchmynnol. Fodd bynnag, nid Modd ond casgliad o ffurfiau Mynegol a Dibynnol a ddefnyddir at bwrpas arbennig – sef gorchymyn neu ddyheu – yw’r berfau hynny.” Thomas (1996) (§ 3.5)

Fodd bynnag, rwy’n gryf bod yr hyn sydd gennym yn y Gymraeg yn gweddu i’r diffiniad cydnabyddedig i’r dim; mae’r gorchmynnol yn meddu ar un amser, sef y presennol, ynghyd â chwe ffurf bersonol ac amhersonol. Cymerer y ferf aros:

      Un.

  1. ----
  2. aros (di)
  3. arhosed (ef/hi)

      Llu.

  1. arhoswn (ni)
  2. arhoswch (chi)
  3. arhosent (hwy)

      Amhers.: arhoser

Yn achos yr 2 bers. un., fel arfer, bôn y ferf yw’r ffurf orchmynnol. Dim ond yn y modd gorchmynnol y gall bôn y ferf sefyll ar ei ben ei hunan fel ffurf ferfol gyflawn. Gellid dadlau, o bosib, fod yr arfer o ychwanegu’r terfyniad personol -a, sy’n gysylltiedig â berfenwau: defnyddia < defnydd (e.g.), ar gynnydd, ond mae ffurfiau fel Aros! a Saf! yn dal yn gyffredin iawn yn nhafodieithoedd y De. Ymhellach, nid oes amheuaeth nad ffurfiau gorchmynnol yn unig yw rhai’r 3. pers. a’r amhersonol.