Thursday, 17 July 2025

Trydydd Person y Ferf

 


Yn ddiweddar cefais gwestiwn gan ddysgwr oedd am wybod pam nad yw ffurf 3 pers. y ferf yn newid yn ôl rhif pan fo ymadrodd enwol yn gweithredu fel goddrych y ferf. Dyma gyfieithiad o’m hesboniad i.

Iaith analytig[i] yw’r Gymraeg, a chanddi drefn geiriau sefydlog, ond mae'n dal i gadw nodweddion synthetig[ii] fel ffurfiau berf personol. Cymerwch y gorffennol syml er enghraifft, sy'n cael ei ffurfio gan fôn y ferf + ôl-ddodiad personol:

Un.
1. ateb- + -ais (i) (“I answered”)
2. ateb- + -aist (ti) (“you answered” (cyf.))
3. ateb- + -odd (e/o; hi) (“he; she; it answered”)

Ll.
1. ateb- + -(s)on (ni) (“we answered”)
2. ateb- + -(s)och (chi) (“you answered”)
3. ateb- + -(s)on (nhw) (“they answered”)

Monday, 7 July 2025

Y Cymal Enwol

 


Mae llyfrau gramadeg yn disgrifio cymal enwol fel: “cymal sy’n cyflawni swyddogaeth enw.” Yn Gramadeg y Gymraeg (Thomas, 1996), rhennir y rhai dibwyslais fel a ganlyn:
 
i. Cymal berfenwol
ii. Cymal bod[i]
iii. Cymal i
iv. Cymal y
v. Cymal holiadol
 

Tuesday, 1 July 2025

Y Cymal Perthynol

 

Cymal sy’n goleddfu (“modify”) enw (“noun”) neu ymadrodd enwol (“noun clause”) yw cymal perthynol (“relative clause”). Rhagflaenydd (“antecedent”) y gelwir enw neu ymadrodd enwol o’r fath.


Y cymal perthynol union (“The direct relative clause”)
Pan fo’r rhagflaenydd yn oddrych (“subject”), sef yr elfen mewn brawddeg sy’n cyflawni gweithred y ferf, neu’n wrthrych (“object”), sef yr elfen mewn brawddeg sy’n derbyn gweithred y ferf), y cymal, a (sy’n achosi’r treiglad meddal) yw ffurf y geiryn perthynol (“relative particle”):


Fel rheol, nid yw’r geiryn a yn cael ei ynganu mewn Cymraeg llafar, ond mae’r treiglad a achosir ganddo yn aros.

Pan fo’r rhagflaenydd yn oddrych, ffurf 3 pers. un. y ferf a ddewisir, hyd yn oed gydag enwau lluosog:

y ceffylau a garlamai (“the horses who were galloping”)