Monday, 7 July 2025

Y Cymal Enwol

 


Mae llyfrau gramadeg yn disgrifio cymal enwol fel: “cymal sy’n cyflawni swyddogaeth enw.” Yn Gramadeg y Gymraeg (Thomas, 1996), rhennir y rhai dibwyslais fel a ganlyn:
 
i. Cymal berfenwol
ii. Cymal bod[i]
iii. Cymal i
iv. Cymal y
v. Cymal holiadol
 
i. Cymal berfenwol
Yma mae’n amlwg mai cyflawni swyddogaeth enw (“noun”) (gwrthrych y prif gymal) yw’r cymal enwol, e.e.

PRIF GYMAL ¦ CYMAL ENWOL
Mae Siân yn hoffi ¦ siopa yn yng nghanol y ddinas.
(“Siân likes shopping in the city centre.”)

ii. Cymal bod
Yma mae’r berfenw bod ei hunan yn gweithredu fel cymal enwol, e.e.

Adroddwyd bod y tŷ ar dân.
(“It was reported that the house was on fire.”)

Gan mai berfenw yw bod, ni all gyfleu amser (“tense”), dim ond agwedd (“aspect”), pan y’i dilynir gan yn (sy’n mynegi’r amherffeithiol (“imperfective”)) ac wedi (sy’n mynegi’r perfeithiol (“perfective”)). Gan hynny, mae’n gyfyngedig i’r presennol a’r gorffennol:

PRESENNOL SYML
Deallaf fod llawer o bobl yn ffonio i mewn.
(“I understand that a lot of people are phoning in.”)

PRESENNOL AMHERFFAITH
Rwy’n deall bod llawer o bobl yn ffonio i mewn.
(“I understand that a lot of people are phoning in.”)

PRESENNOL PERFFAITH
Rwy’n deall bod llawer o bobl wedi ffonio i mewn.
(“I understand that a lot of people have phoned in.”)

GORFFENNOL SYML
Deellais fod llawer o bobl yn ffonio i mewn.
(“I understood that a lot of people phoned in.”)

GORFFENNOL AMHERFFAITH
Roeddwn i’n deall bod llawer o bobl yn ffonio i mewn.
(“I understood that a lot of people were phoning in.”)

GORFFENNOL PERFFAITH
Roeddwn i’n deall bod llawer o bobl wedi ffonio i mewn.
(“I understood that a lot of people had phoned in.”)

iii. Cymal i
Dim ond yn y gorffennol y caniateir y cymal i. Hynodrwydd arall sy’n perthyn iddo yw ei fod yn cyflwyno goddrych rhesymegol y cymal. Gan na all yr arddodiad i fynegi amser nac agwedd, ac mae’n dibynnu’n gyfan gwbl ar y prif gymal am yr wybodaeth honno:

GORFFENNOL SYML
Clywais ir tŷ gael ei losgi i’r llawr.
(“I heard that the house was burnt down.”)

iv. Cymal y
Defnyddir y cymal y i fynegi’r dyfodol a’r dibynnol amodol (“conditional subjunctive”):

DYFODOL
Gobeithio y bydd y tywydd yn braf yfory.
(“I hope that the weather will be fine tomorrow.”)

DIBYNNOL AMODOL
Roeddwn i'n gobeithio y byddai’r tywydd yn braf trannoeth.
(“I hoped that the weather would be fine the next day.”)

v. Cymal holiadol
Yma defnyddir y geiryn holiadol a i gyflwyno cwestiwn anuniongyrchol:

Tybed a gafodd unrhyw un ei ladd?
(“I wonder whether anyone was killed?”)

Cymal enwol pwysleisiol
I bwysleisio cymal enwol, defnyddir y geiryn pwysleisiol mai/taw:

i. BRAWDDEG ENWOL
DIBWYSLAIS
Rwy’n gwybod bod Emyr yn athro.

PWYSLEISIOL
Rwy’n gwybod mai/taw athro yw Emyr.

ii. BRAWDDEG FERFOL
DIBWYSLAIS
Rwy’n gwybod bod Siân yn medru’r Ffrangeg.

PWYSLEISIOL
Rwy’n gwybod mai/taw medru’r Ffrangeg y mae Siân.

Negyddu’r Cymal Enwol
Fel yn achos is-gymalau eraill, defnyddir y geiryn negyddol na (sy’n achosi’r treiglad cymysg[ii]) (nad o flaen llafariad) i negyddu pob math o’r cymal enwol:

CYMAL BOD
CAD. Adroddwyd bod y tŷ ar dân.
NEG. Adroddwyd nad yw’r tŷ ar dân.

CYMAL I
CAD. Clywais i’r tŷ gael ei losgi i’r llawr.
NEG. Clywais na chafodd y tŷ ei losgi i’r llawr.

CYMAL Y
CAD. Gobeithio y bydd y tywydd yn braf yfory.
NEG. Gobeithio na fydd y tywydd yn braf yfory.

CYMAL HOLIADOL
CAD. Tybed a gafodd unrhyw un ei ladd?
NEG. Gobeithio na chafodd neb ei ladd.

CYMAL ENWOL PWYSLEISIOL
i. BRAWDDEG ENWOL
CAD. Rwy’n gwybod mai/taw athro yw Emyr.
NEG. Rwy’n gwybod nad athro yw Emyr.

ii. BRAWDDEG FERFOL
CAD. Rwy’n gwybod mai/taw mynd y mae Siân.
NEG. Rwy’n gwybod nad mynd y mae Siân.

Gellir lawrlwytho ffeil PDF or papur hwn yma.

Cyfeirnodau
Brake, P. (1998). Cymraeg Graenus. Llandysul: Gwasg Gomer.
Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Darllen Pellach
Thorne, D.A. (1993) A Comprehensive Welsh Grammar, Blackwell, Rhydychen.
Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer, Llandysul.
Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

====

[i] Dyma esboniad amgen ar sut y gall mae ac roedd droi’n bod mewn cymalau enwol (Brake, 1998).

Fel rheol, mae ymadrodd adferfol (“adverbial phrase”) yn dod olaf mewn brawddeg yn y Gymraeg:


Ond, os rhoir enghreifftiau o adferfol 2 ar ddechrau’r frawddeg, mae roedd yn cael ei ddisodli gan bod:


Mae hyn yn wir yn y presennol a’r gorffennol yn y gystrawen gwmpasog, lle mae bod/fod yn cymryd lle mae ac roedd:


Mae cystrawen y cymal bod i’w chael ar ôl y rhannau ymadrodd canlynol:


Dyma rai enghreifftiau:

Rwy’n siopa yn Tesco am/o achos/gan/oherwydd ei bod hi’n gyfleus.
Rwy’n siopa yn y pentref er ei bod hi’n ddrutach.
Oni bai fy mod i’n gweithio, awn i i’r gêm.
Efallai/hwyrach bod hynny’n wir.
Trueni ei bod hi mor wlyb.

 [ii] Dyma’r treiglad cymysg: <p, t, c, b, d, g, ll, rh → ph, th, ch, f, dd, , l, r>.






No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.