Thursday, 2 February 2023

Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

 


Mae’r post hwn yn dalfyriad o’r papur llawn y gellir ei lawrlwytho yma.

Siom canlyniadau Cyfrifiad 2021 sydd tu ôl i’r papur byr hwn. Ac, wrth imi bori dros ffigurau dysgwyr Cymraeg sy’n dod dan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, teimlais fod rhaid imi ‘roi ysgrifben ar bapur’ i geisio gwerthuso’r sefyllfa.

Cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei sefydlu yn 2015 fel ymateb Llywodraeth Cymru i sawl arolwg y comisiynwyd ganddi hi i’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.

Wrth i gyfnod cychwynnol (Cam 1) contract y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddod i ben, comisiynwyd adolygiad gan Lywodraeth Cymru o’i heffeithiolrwydd. Cyhoeddwyd Adolygiad Cyflym o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2021 (Morris, 2021).

Mae’r adroddiadau hyn yn ffafriol i’r Ganolfan ar y cyfan, ond does dim un ohonynt yn mynd i’r afael â phrif ddiben y Ganolfan, sef cynhyrchu siaradwyr Cymraeg o oedolion ar raddfa y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.