Thursday, 2 February 2023

Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

 


Mae’r post hwn yn dalfyriad o’r papur llawn y gellir ei lawrlwytho yma.

Siom canlyniadau Cyfrifiad 2021 sydd tu ôl i’r papur byr hwn. Ac, wrth imi bori dros ffigurau dysgwyr Cymraeg sy’n dod dan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, teimlais fod rhaid imi ‘roi ysgrifben ar bapur’ i geisio gwerthuso’r sefyllfa.

Cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei sefydlu yn 2015 fel ymateb Llywodraeth Cymru i sawl arolwg y comisiynwyd ganddi hi i’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.

Wrth i gyfnod cychwynnol (Cam 1) contract y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddod i ben, comisiynwyd adolygiad gan Lywodraeth Cymru o’i heffeithiolrwydd. Cyhoeddwyd Adolygiad Cyflym o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2021 (Morris, 2021).

Mae’r adroddiadau hyn yn ffafriol i’r Ganolfan ar y cyfan, ond does dim un ohonynt yn mynd i’r afael â phrif ddiben y Ganolfan, sef cynhyrchu siaradwyr Cymraeg o oedolion ar raddfa y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cyfrifiad 2021

Rhagwelwyd y byddai gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ran allweddol yn ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (Llywodraeth Cymru, 2017). Gan hynny, siomedig iawn fu darllen canlyniadau Cyfrifiad 2021 parthed yr iaith Gymraeg (Llywodraeth Cymru, 2022):


  • Ymatebodd 538,300 o bobl tair oed neu’n hŷn, sydd, fel arfer, yn byw yng Nghymru, eu bod yn gallu siarad Cymraeg, sef 17.8% o’r boblogaeth.
  • Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011, ac 1.2% yn is na Chyfrifiad 2011.
  • Y ganran o bobl tair oed neu’n hŷn a ymatebodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg oedd yr isaf i’w gofnodi mewn cyfrifiad erioed.

Dengys Ffig. 1 nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 1921 a 2021.

Dengys Tabl 1 nifer a chanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n siarad Cymraeg, yn ôl grwpiau oedran rhwng 2011 i 2021.

Ffig 1:     Nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 1921 i 2021


Tabl 1:   Nifer a chanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n siarad Cymraeg, yn ôl grŵp oedran, 2011 i 2021




Rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Sut mae’r gwaith a wneir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ffitio i ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050? Mae Llywodraeth Cymru’n rhagweld y bydd y Ganolfan yn creu 2,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn drwy’r sector Cymraeg i Oedolion (Llywodraeth Cymru, 2017). Mae adroddiadau blynyddol ar gael gan y Ganolfan ers 2016-2017 (Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, 2017). Ond ni cheir ffigurau dysgwyr unigryw ynddynt o 2017-2018 tan 2019‑2020, a cheir ffigurau ar gyfer gweithgareddau dysgu ar gyfer dwy flynedd yn unig, sef 2018‑2019 a 2019‑2020. Dengys Tabl 2 nifer y dysgwyr unigryw, ynghyd â gweithgareddau dysgu a nodwyd rhwng 2017-2018 a 2019-2020, tra bo Ffig. 2 yn dangos y cynnydd yn nifer y dysgwyr unigryw yn ystod yr un cyfnod.


Tabl 2: Nifer y dysgwyr unigryw, ynghyd â gweithgareddau dysgu a nodwyd rhwng 2017-2018 a 2020-2021



Ffig 4: Nifer y dysgwyr unigryw yn ôl dwyster y dysgu a nodwyd rhwng 2017-2018 a 2020-2021

Casgliadau

Fel y nodir yn adroddiad Estyn, ynghyd ag yn yr un a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae camau breision wedi eu gwneud gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers ei sefydlu. Ond, fel y dengys data’r Ganolfan ei hunan, ymddengys nad yw’n llwyddo i gyflawni un o argymhellion craidd Codi Golygon, sef “….[c]gynyddu niferoedd….dysgwyr” (Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion, 2013). Mae’r Ganolfan fel petai’n cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ran creu siaradwyr bob blwyddyn. Ond, yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2021, gellid dadlau fod y targed hwn yn llawer rhy isel i gael unrhyw effaith ar y duedd i lawr a ddangosir yn Nhabl 1 ac yn Ffig. 1. Gan hynny, tybed a yw’n bryd ailystyried rôl y Ganolfan yn gyfan gwbl?

Cyfeirnodau

Estyn. (2021). Adroddiad ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Caerdydd: Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg.

Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion. (2013). Codi Golygon - Adolygiad o Gymraeg i Oedolion. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru. (2017). Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr. Adferwyd o Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-03/cymraeg-2050-strategaeth-y-gymraeg-v1-1.pdf

Morris, S. (2021). Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Cafodd yr Adolygiad Cyflym ei gynnal yn syth ar ôl arolygiad Estyn (Estyn 2021). 


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.