Gair neu gymal sy’n torri ar rediad arferol ymadrodd
drwy ddodi yn ei ganol rywbeth sy'n gysylltiedig o ran ystyr ond heb fod yn
rhan ramadegol ohono yw sangiad.[1]
Er enghraifft, yn y Gymraeg, safle arferol adferfol, sef gair neu eiriau sy’n rhoi
rhagor o wybodaeth am y ferf, yw
naill ai ar ddiwedd neu ynteu ar ddechrau brawddeg, e.e.
Mae pump o lyfrau yno.
Yno mae pump o lyfrau.
Ond, os y’i rhoir yng nghanol y frawddeg, mae’n mynd yn
erbyn rhediad naturiol y frawddeg, ac felly, mae'n achosi treiglad meddal:
Mae yno bump o lyfrau.
Fodd bynnag, mewn brawddeg fel:
Cyrhaeddodd yr heddlu, ac wedyn, lladdwyr tân.
nid yw ac wedyn yn sangiad o’r iawn ryw, gan y
gellir rhoi berf rhyngddo a lladdwyr tân:
Cyrhaeddodd yr heddlu, ac wedyn, cyrhaeddodd
lladdwyr tân.
ac felly, does dim angen treiglad.
Dyma dair enghraifft o sangiadau go iawn:
Mae o leiaf ddwy rywogaeth arall wedi dod i
mewn i Gymru o Loegr dros y chwarter canrif diwethaf….[2]
Cafwyd hefyd gefnogaeth frwd y Gweinidog ar
y pryd.[3]
….tasg a oedd yn golygu ei gludo i Felin-fach, lle roedd eisoes gyflenwad
trydan[4]
A dyma dair enghraifft o ffug sangiadau:
Ymarfer yn ein tŷ ni sawl noson, ac wedyn mynd i
gystadlu yn Eisteddfod Môn….[5]
Ymhen ychydig dyma ailgychwyn ac o’r diwedd, cyrraedd y
copa a thafodau’r cŵn yn hongian allan.[6]
A thrwy’r cyfan, trïo cadw'n brysur.[7]
[1] https://cy.wikipedia.org/wiki/Sangiad
[2] Blwyddyn
Iolo gan Iolo Williams (2003) (t. 133)
[3] Be nesa! gan
Dafydd Wigley (2013) (t. 76)
[4] Fy
Hanes i: hunangofiant gan John Davies (2014) (t. 31)
[5] Charles:
Cofio'r Dyn a’i Ddigrifwch gan Idris Charles (2015) (t. 115)
[6] Tra
bo Dai gan Dai Jones (2016) (t. 138)
[7] Bron yn berffaith gan heulwen Hâf (2011) (t. 139)

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.