Cymal sy’n goleddfu (“modify”) enw (“noun”) neu ymadrodd enwol (“noun clause”) yw cymal perthynol (“relative clause”). Rhagflaenydd (“antecedent”) y gelwir enw neu ymadrodd enwol o’r fath.
Y cymal perthynol union (“The direct relative clause”)
Pan fo’r rhagflaenydd yn oddrych (“subject”), sef yr elfen mewn brawddeg sy’n cyflawni gweithred y ferf, neu’n wrthrych (“object”), sef yr elfen mewn brawddeg sy’n derbyn gweithred y ferf), y cymal, a (sy’n achosi’r treiglad meddal) yw ffurf y geiryn perthynol (“relative particle”):
Fel rheol, nid yw’r geiryn a yn cael ei ynganu mewn Cymraeg llafar, ond mae’r treiglad a achosir ganddo yn aros.
Pan fo’r rhagflaenydd yn oddrych, ffurf 3 pers. un. y ferf a ddewisir, hyd yn oed gydag enwau lluosog:
Y cymal perthynol anunion (“The oblique relatve clause”)
Yn y math hwn o gymal perthynol, nid yw’r rhagflaenydd nac yn oddrych nac yn wrthrych y cymal, y (sydd ddim yn achosi treiglad) yw ffurf y geiryn perthynol. Gellir rhannu’r cymal perthynol anunion fel a ganlyn:
(i) Y rhai lle mae perthynas enidol (“genitive relationship”)(ii) Y rhai lle mae perthynas adferfol (“adverbial relationship”)
(i) Y berthynas enidol (“The genitve relationship”)
Yn y math hwn o gymal perthynol, mae goddrych, neu wrthrych, y cymal yn perthyn i’r rhagflaenydd, ac mae’n cyfateb i gymalau whose yn y Saesneg:
Goddrych
Gwrthrych
Yn y ddwy enghraifft uchod, mae mab yn perthyn i yr heddwas, a mab yr heddwas yw’r ymadrodd genidol isorweddol (“underlying genitive phrase”). Mewn cymal perthynol o’r fath, sylweddolir y berthynas enidol â’r rhagflaenydd gan y rhagenw meddiannol ei. Mewn gwirionedd, mae dau gymal annibynnol yma wedi eu cysylltu gan y geiryn y:
(ii) Y berthynas adferfol (“The adverbial relationship”)
Yn y math hwn o gymal perthynol, mae rhagflaenydd y cymal yn rhan o ymadrodd adferfol, h.y. mae’n cyfateb i is-gymalau Saesneg sy’n dechrau â in which, on which, a.y.b.: Er enghraifft:
y car y gweithiais i arno (“the car on which I worked”)
Yma mae ar yn ‘perthyn’ i y car, ac fe sylweddolir y berthynas adferfol rhwng dau hanner yr ymadrodd gan ffurf bersonol yr arddodiad (arno yn yr achos hwn). Noder fod yr arddodiad bob amser yn y trydydd person, ac mae’r genedl a’r rhif yn cyfateb i’r rhagflaenydd.
Mewn arddodiad cyfansawdd (“composite preposition”), sylweddolir y berthynas adferfol â’r rhagflaenydd gan ragenw meddiannol:
y barnwr yr ymddangosodd Siôn o’i flaen (< o flaen)(“the judge before whom Siôn appeared”)y lladron yr euthum ar eu hôl (< ar ôl)(“the thieves whom I chased”)
y bobl yr eisteddaf wrth eu hochr (< wrth ochr)(“the people next to whom I will sit”)
Ffurfiau perthynol anunion ‘bod’
Oherwydd natur y gystrawen gwmpasog (“periphrastic construction”), rhaid wrth ffurfiau anunion ‘bod’ mewn cymalau perthynol. Yn y 3 pers. un. pres., fe’i sylweddolir gan mae:
Oherwydd natur y gystrawen gwmpasog (“periphrastic construction”), rhaid wrth ffurfiau anunion ‘bod’ mewn cymalau perthynol. Yn y 3 pers. un. pres., fe’i sylweddolir gan mae:
y bardd y mae ei awdl yn gofiadwy(“the bard whose (long) poem is memorable”)
Gall berfenwau (“verbal nouns”) fel eistedd a cadeirio hwythau weithredu fel enwau:
y bardd y gwelais ei gadeirio(“the bard whose chairing I saw”)
Yn achos y ferf ‘bod’, mae cymalau perthynol o’r fath yn cael eu mynegi fel a ganlyn:
y llyfr y mae Emyr yn ei ddarllen(“the book that Emyr is reading”)
Yr ymadrodd genidol isorweddol yw darllen llyfr. Oherwydd bod y gystrawen gwmpasog yn mynegi agwedd (“aspect”), yr unig wahaniaeth strwythurol rhwng “y bardd y gwelais ei gadeirio” ac “y llyfr y mae Emyr yn ei ddarllen” yw’r marciwr agweddol (“aspectual marker”) yn. Dyma rai enghreifftiau eraill:
PRESENNOL PERFFAITHy llyfr y mae Emyr wedi ei ddarllen(“the book Emyr has read”)
GORFFENOL AMHERFFAITHy llyfr yr oedd Emyr yn ei ddarllen(“the book Emyr was reading”)
GORFFENNOL PERFFAITHy llyfr yr oedd Emyr wedi ddarllen(“the book Emyr had read”)
DYFODOL AMHERFFAITHy llyfr y bydd Emyr yn ei ddarllen(“the book Emyr will (be) read(ing)”)
DYFODOL PERFFAITHy llyfr y bydd Emyr wedi ei ddarllen(“the book Emyr will have read”)
Yn yr enghreifftiau uchod, mae ei yn cyfeirio’n ôl at y rhagflaenydd (llyfr yn yr achos hwn), ac mae’n cytuno ag ef o ran cenedl a rhif. Mae llyfr yn enw gwrywaidd unigol, ac felly, mae’r rhagenw meddiannol yntau’n wrywaidd ac yn unigol, sef ei (“his, its”), sy’n achosi’r treiglad meddal. Petai’r rhagflaenydd yn enw benywaidd unigol, dyweder ystafell, byddai’r rhagenw’n fenywaidd ac yn unigol hefyd, sef ei (“her, its”), sy’n achosi’r treiglad llaes:
yr ystafell y mae Sioned yn ei phaentio (< paentio)(“the room Sioned is painting”)
Petai’r rhagflaenydd yn enw lluosog, byddai’r rhagenw blaen cyfatebol yntau’n lluosog, sef eu ‘their’:
y llyfrau y mae Sioned yn eu darllen(“the books Sioned is reading”)
yr ystafelloedd y mae Sioned yn eu paentio(“the rooms Siân is painting”)
Ceir yr un gystrawen mewn cwestiynau fel:
Beth yr ydych chi’n ei wneud?(“What are you doing?”)
Pwy y maent yn ei gefnogi?(“Who do they support?”)
Mewn Cymraeg cyfoes, does dim angen y geiryn perthynol y oherwydd ei fod yn ddiacen:
Beth dych chi’n ei wneud?Pwy maen nhw’n ei gefnogi?
Negyddu’r cymal perthynol
Fel yn achos is-gymalau eraill, defnyddir y geiryn negyddol na (sy’n achosi’r treiglad cymysg) (nad o flaen llafariad) i negyddu pob math o’r cymal perthynol:
Gellir lawrlwytho’r ffeil PDF yma.
Fel yn achos is-gymalau eraill, defnyddir y geiryn negyddol na (sy’n achosi’r treiglad cymysg) (nad o flaen llafariad) i negyddu pob math o’r cymal perthynol:
Darllen Pellach
Brake. P. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer, Llandysul
Lewis, D.G. (1993) Y Treigliadur, Gwasg Gomer, Llandysul.
Lewis, D.G. (1995) Y Llyfr Berfau, Gwasg Gomer, Llandysul.
Morgan, T.J. (1952) Y Treigladau a’u Cystrawen, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Quirk, R., Greenbaum, S., Leech, G. a Svartvik, J. (1972) A Grammar of Contemporary English, Longman, Llundain.
Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y Gymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Thorne, D.A. (1993) A Comprehensive Welsh Grammar, Blackwell, Rhydychen.
Torne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer, Llandysul.
Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Thorne, D.A. (1993) A Comprehensive Welsh Grammar, Blackwell, Rhydychen.
Torne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer, Llandysul.
Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.






No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.