Saturday, 28 June 2025

Crynodeb o'r Sustem Ferfol mewn Cymraeg Llenyddol

 


Rhennir y sustem ferfol mewn Cymraeg Llenyddol yn ddwy gystrawen:

i. Y gystrawen gryno (“the concise construction”)
ii. Y gystrawen gwmpasog (“the periphrastic construction”)

Digwydd y ddwy gystrawen yn y modd mynegol a’r modd dibynnol, tra mai dim ond y gystrawen gryno a geir yn y modd gorchmynnol.
 
Y modd mynegol (“The indicative mood”)
Defnyddir y modd mynegol i fynegi gosodiadau ffeithiol. Yn y modd mynegol, mae’r gystrawen gryno’n mynegi amserau syml (“simple tenses”), tra defnyddir y gystrawen gwmpasog i fynegi agwedd (“aspect”).
 
Y gystrawen gryno
Yr amser presennol/dyfodol syml (“The simple present/future tense”)

Un.
1. -af (i)
2. -i (di)
3. ø, -a (ef) (gwr.)
3. ø, -a (ef) (ben.)

Llu.
1. -wn (ni)
2. -wch (chwi)
3. -ant (hwy)

Er enghraifft: Cân yr ehedydd (The lark is singing”), Fe’ch gwelaf yfory (“I’ll see you tomorrow”)

Yr amser gorffennol syml (“The simple past tense”)

Un.
1. -ais (i)
2. -aist (ti)
3. -odd (ef) (gwr.)
3. -odd hi (ben.)

Llu.
1. -asom (ni)
2. -asoch (chwi)
3. -asant (hwy)

Er enghraifft: Fe’ch gwelais yn y dref ddoe (“I saw you in town yesterday”)

Amser gorffennol syml ‘bod’ (“The simple past tense of ‘bod’”)

Un.
1. bûm (i)
2. buost (ti)
3. bu (ef) (gwr.)
3. bu hi (ben.)
 
Llu.
1. buom (ni)
2. buoch (chwi)
3. buont (hwy)

Er enghraifft: Bûm yn y tafarn neithiwr (“I was in the pub last night”)

Yr amser amherffaith (“The imperfect tense”)

Un.
1. -wn (i)
2. -it (ti)
3. -ai (ef) (gwr.)
3. -ai (hi) (ben.)

Llu.
1. -em (ni)
2. -ech (chwi)
3. -ent (hwy)

Er enghraifft: Gwelem y mynydd yn y pellter. (“We saw (could see) the mountain in the distance”)

Yr amser gorberffaith (“The pluperfect tense”)

Un.
1. -(a)swn (i)
2. -(a)sit (ti)
3. -(a)sai (ef) (gwr.)
3. -(a)sai (hi) (ben.)

Llu.
1. -(a)sem (ni)
2. -(a)sech (chwi)
3. -(a)sent (hwy)

Er enghraifft: Gwelsem y mynydd yn y pellter. (“We had seen the mountain in the distance”)
 
Y gystrawen gwmpasog
i. Y presennol (“The present”)

Un.
1. yr wyf (i)
2. yr wyt (ti)
3. y mae ef (gwr.)
3. y mae hi (ben.)

Llu.
1. yr ydym (ni)
2. yr ydych (chwi)
3. y maent (hwy)
 
Presennol amherffaith (“Present imperfect”)
Yma defnyddir yn (sydd ddim yn achosi treiglad) fel marciwr agwedd (“aspectual marker”):

Y mae’r awdur yn darllen y llyfr.
(“The author is reading the book.”)
 
Presennol perffaith (“Present perfect”)
Yma defnyddir wedi fel marciwr agwedd:

Y mae’r awdur wedi darllen y llyfr.
(“The author has read the book.”)
 
Presennol perffaith parhaol (“Continuous past perfect”)
Yma defnyddir wedi bod yn fel marciwr agwedd:

Y mae’r awdur wedi bod yn darllen y llyfr.
(“The author has been reading the book.”)
 
ii. Y gorffennol (“The past”)

Un.
1. yr oeddwn (i)
2. yr oeddit (ti)
3. yr oedd (ef) (gwr.)
3. yr oedd (hi) (ben.)

Llu.
1. yr oeddem (ni)
2. yr oeddech (chwi)
3. yr oeddynt (hwy)
 
Gorffennol amherffaith
Yma defnyddir yn (sydd ddim yn achosi treiglad) fel marciwr agwedd:

Yr oedd awdur yn darllen y llyfr.
(“The author was reading the book.”)
 
Gorffennol perffaith
Yma defnyddir wedi fel marciwr agwedd:

Yr oedd yr awdur wedi darllen y llyfr.
(“The author had read the book.”)
 
Gorffennol perffaith parhaol
Yma defnyddir wedi bod yn fel marciwr agwedd:

Yr oedd yr awdur wedi bod yn darllen y llyfr.
(“The author had been reading the book.”)
 
iii. Y dyfodol

Un.
1. byddaf (i)
2. byddi (di)
3. bydd ef (gwr.)
3. bydd hi (ben.)

Llu.
1. byddwn (ni)
2. byddwch (chwi)
3. byddant (hwy)
 
Dyfodol amherffaith
Yma defnyddir yn (sydd ddim yn achosi treiglad) fel marciwr agwedd:

Bydd awdur yn darllen y llyfr.
(“The author will be reading the book.”)
 
Dyfodol perffaith
Yma defnyddir wedi fel marciwr agwedd:

Bydd yr awdur wedi darllen y llyfr.
(“The author will have read the book.”)
 
Dyfodol perffaith parhaol
Yma defnyddir wedi bod yn fel marciwr agwedd:

Bydd yr awdur wedi bod yn darllen y llyfr.
(“The author will have been reading the book.”)
 
Y modd dibynnol (“The subjunctive mood”)
Rhennir y modd dibynnol yn:

i. Y dibynnol presennol (“The present subjunctive”)
ii. Y dibynnol amodol (“The conditional subjunctive”)
 
Y dibynnol presennol
Mae’r ffurfiau hyn yn cyfleu’r dyfodol tebygol neu at weithred neu gyflwr damcaniaethol.

Un.
1. -wyf
2. -ych
3. -o

Llu.
1. -om
2. -och
3. -ont

Er enghraifft:

Dyfodol tebygol:

‘Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,
Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt’
        Cofio gan Waldo Williams

Cyflwr damcaniaethol:

‘Pan rodiwyf ddaear Ystrad Fflur
O’m dolur ymdawelaf.
        Ystrad Fflur gan T Gwyn Jones

Maen nhw hefyd yn gyffredin ar ôl y cysylltair pan:

Bydd llawer yn marw pan fo’r tywydd yn oer.

Y dibynnol amodol
Dichonolrwydd (“Possibility, hypotheticality”)

Yn yr iaith lenyddol, defnyddir terfyniadau mynegol i fynegi’r dibynnol amodol; y gystrawen sy’n cael eu mynegi gan ‘would’ a ‘would have’ yn y Saesneg:

Y dibynnol amodol dichonadwy (“The possible conditional subjunctive”)

Un.
1. -wn (i)
2. -it (ti)
3. -ai (ef) (gwr.)
3. -ai (hi) (ben.)

Llu.
1. -em (ni)
2. -ech (chwi)
3. -ent (hwy)

Er enghraifft: Medrem fynd ymlaen ac ymlaen (“We could go on and on”)
 
Y dibynnol amodol annichonadwy (“The impossible conditional subjunctive”)

Un.
1. -(a)swn (i)
2. -(a)sit (ti)
3. -(a)sai (ef) (gwr.)
3. -(a)sai (hi) (ben.)

Llu.
1. -(a)sem (ni)
2. -(a)sech (chwi)
3. -(a)sent (hwy)

Er enghraifft: Medrasem fynd ymlaen ac ymlaen (“We could have gone on and on”)
 
Y modd gorchmynnol (“The imperative mood”)
Mae’r modd gorchmynnol yn mynegi gorchymyn neu gais, e.e.

Aros lle rwyt ti! (“Stay where you are!”)
Cofiwch brynu llaeth! (“Remember to buy milk!”)

Mewn Cymraeg Llenyddol, mae’r modd gorchmynnol yn meddu ar bum ffurf bersonol ac un ffurf amhersonol:

Un.
1. –
2. ø, -a
3. -ed

Llu.
1. -wn
2. -wch
3. -ent

Er enghraifft: Aros lle rwyt ti! (“Stay where you are!”); Cofiwch brynu llaeth! (“Remember to buy milk!”); O bydded i’r hen iaith barhau! (“Oh Let the old language live!”)

Gellir lawrlwytho PDf or papur hwn yma.

Darllen Pellach
Brake. P. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer, Llandysul
Lewis, D.G. (1995) Y Llyfr Berfau, Gwasg Gomer, Llandysul.
Quirk, R., Greenbaum, S., Leech, G. a Svartvik, J. (1972) A Grammar of Contemporary English, Longman, Llundain.
Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y Gymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer, Llandysul.
Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.