Thursday, 26 June 2025

Crynodeb o'r Sustem Ferfol mewn Cymraeg Cyfoes

 


Rhennir y sustem ferfol mewn Cymraeg Cyfoes, yn enwedig mewn Cymraeg Llafar Ysgrifenedig, yn ddwy gystrawen:

i. Y gystrawen gryno (“the concise construction”)
ii. Y gystrawen gwmpasog (“the periphrastic construction”)

Digwydd y ddwy gystrawen yn y modd mynegol a’r modd dibynnol, trai mai dim ond y gystrawen gryno a geir yn y modd gorchmynnol.

Y modd mynegol (“The indicative mood”)
Defnyddir y modd mynegol i fynegi gosodiadau ffeithiol. Yn y modd mynegol, mae’r gystrawen gryno’n mynegi amserau syml (“simple tenses”), tra defnyddir y gystrawen gwmpasog i fynegi agwedd (“aspect”).

Y gystrawen gryno
Yr amser dyfodol syml (“The simple future tense”)

Un.
1. -a i
2. -i di
3. -ith e/o (gwr.)
3. -ith hi (ben.)

Llu.
1. -wn ni
2. -wch chi
3. -an nhw

Er enghraifft: Gwela i chi fory. (“I’ll see you tomorrow.”)
 
Yr amser gorffennol syml (“The simple past tense”)

Un.
1. -ais i
2. -aist ti
3. -odd e/o (gwr.)
3. -odd hi (ben.)

Llu.
1. -on ni
2. -och chi
3. -on nhw

Er enghraifft: Gwelais i chi yn y dre ddoe. (“I saw you in town yesterday.”)

Y gystrawen gwmpasog
i. Y presennol (“The present”)

Un.
1. dw i
3. rwyt ti
3. mae e/o (gwr.)
3. mae hi (ben.)

Llu.
1. dyn ni
2. dych chi
3. maen nhw
 
Presennol amherffaith (“Present imperfect”)
Yma defnyddir yn (sydd ddim yn achosi treiglad) fel marciwr agwedd (“aspectual marker”):

    Mae’r awdur yn darllen y llyfr.
    (“The author is reading the book.”)
 
Presennol perffaith (“Present perfect”)
Yma defnyddir wedi fel marciwr agwedd:

    Mae’r awdur wedi darllen y llyfr.
    (“The author has read the book”)
 
Presennol perffaith parhaol (“Continuous past perfect”)
Yma defnyddir wedi bod yn fel marciwr agwedd:

    Mae’r awdur wedi bod yn darllen y llyfr.
    (“The author has been reading the book.”)
 
ii. Y gorffennol (“The past”) 

Un.
1. ro’n i
2. ro’t ti
3. roedd e/o (gwr.)
3. roedd hi (ben.)

Llu.
1. ro’n ni
2. ro’ch chi
3. ro’n nhw
 
Gorffennol amherffaith
Yma defnyddir yn (sydd ddim yn achosi treiglad) fel marciwr agwedd:

    Roedd awdur yn darllen y llyfr
    (“The author was reading the book”)
 
Gorffennol perffaith
Yma defnyddir wedi fel marciwr agwedd:

    Roedd yr awdur wedi darllen y llyfr.
    (“The author had read the book.”)
 
Gorffennol perffaith parhaol
Yma defnyddir wedi bod yn fel marciwr agwedd:

    Roedd yr awdur wedi bod yn darllen y llyfr.
    (“The author had been reading the book.”)
 
iii. Y dyfodol

Un.
1. bydda i
2. byddi di
3. bydd e/o (gwr.)
3. bydd hi (ben.)

Llu.
1. byddwn ni
2. byddwch chi
3. byddan nhw
 
Dyfodol amherffaith
Yma defnyddir yn (sydd ddim yn achosi treiglad) fel marciwr agwedd:

    Bydd awdur yn darllen y llyfr.
    (“The author will (be) read(ing) the book”)
 
Dyfodol perffaith
Yma defnyddir wedi fel marciwr agwedd:

    Bydd yr awdur wedi darllen y llyfr.
    (The author will have read the book.”)

Dyfodol perffaith parhaol
Yma defnyddir wedi bod yn fel marciwr agwedd:

    Bydd yr awdur wedi bod yn darllen y llyfr.
    ("The author will have been reading the book.”)
 
Y modd dibynnol (“The subjunctive mood”)
Rhennir y modd dibynnol yn:

i. Y dibynnol fformwläig (“The formulaic subjunctive”)
ii. Y dibynnol amodol (“The conditional subjunctive”)
 
Y dibynnol fformwläig
Yn yr iaith lafar, olion y dibynnol presennol llenyddol yw’r dibynnol fformwläig. Fe’i ceir mewn gwirebau a diarhebion, ac, yn aml iawn, mae’n cyfateb i ymadroddion tebyg yn y Saesneg:

    Da boch chi! (“Goodbye!”)
    doed a ddelo (“come what may”)
    boed hynny fel y bo (“be that as it may”)
    Dyn a’n helpo! (“Heaven helpu us!”)

Y dibynnol amodol 
Dichonolrwydd (“Possibility”)
Yn yr iaith lafar, mae set o derfyniadau sy’n mynegi dymuniad, amheuaeth, tybiaeth neu afrealiti; pethau sy’n cael eu mynegi gan ‘would’ a ‘were’ yn y Saesneg:

Un.
1. -wn i
2. -et ti
3. -ai e/o (gwr.)
3. -ai hi (ben.)

Llu.
1. -en ni
2. -ech chi
3. -en nhw

Dywedir fod brawddeg fel:

    Gallwn i fynd i’r gêm heno, pe byddai tocyn gyda fi.
    (“I could go to the match tonight, if I had a    ticket.”)

yn mynegi dichonolrwydd (“possibility, hypotheticality”), gan mai yn y dyfodol y mae’r digwyddiad y cyfeirir ato, sef y ‘gêm’ yn yr achos hwn.

Yn yr iaith lafar, dim ond pum berf moddol (“modal verbs”) sy’n dewis y terfyniadau hyn yn rheolaidd, sef: ‘gallu/medru’, ‘hoffi/licio/caru’ a ‘dylai’; mae’r mwyafrif llethol o ferfau’n dewis y gystrawen gwmpasog:

    Byddwn i’n ystyried hynny. (“I would consider that.”)

Ond, yn nhafodieithoedd y De, gall y ferfau afreolaidd sy’n seiliedig ar ‘mynd’ fod yn gryno hefyd:

    Elwn i’r gêm heno, pe byddai tocyn gyda fi
    (“I would go to the game tonight, if I had tocyn”)
 
Annichonolrwydd (“impossibility”)
Mae brawddeg fel:

    Gallwn i fod wedi mynd i’r gêm (neithiwr), pe byddai tocyn gyda fi.
    (I could have gone to the match (last night), if I had a ticket”)

yn mynegi annichonolrwydd oherwydd fod y digwyddiad, y cyfeirir ato, sef y gêm, eisoes wedi digwydd, ac felly, mae’n amhosib ei fynychu.
 
Y modd gorchmynnol (“The imperative mood”)
Mae’r modd gorchmynnol yn mynegi gorchymyn neu gais, e.e.

    Aros lle rwyt ti! (“Stay where you are!”)
    Cofiwch brynu llaeth! (“Remember to buy milk!”)

Yn y Gymraeg, mae’r modd gorchmynnol yn meddu ar bum ffurf bersonol ac un ffurf amhersonol:

Un.
1. –
2. ø, -a
3. -ed

Llu.
1. -wn
2. -wch
3. -ent

Dim ond ffurfiau’r 2 bers. a ddefnyddir yn gyson mewn Cymraeg llafar. Clywir y 3 pers. un. yn anaml iawn erbyn hyn, a ffurf lenyddol bur yw’r 3 pers. llu.

Mae ffeil PDF o'r 'papur' hen ar gael yma.

Darllen Pellach
Brake. P. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer, Llandysul
Lewis, D.G. (1995) Y Llyfr Berfau, Gwasg Gomer, Llandysul.
Quirk, R., Greenbaum, S., Leech, G. a Svartvik, J. (1972) A Grammar of Contemporary English, Longman, Llundain.
Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y Gymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer, Llandysul.
Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.