Monday, 24 October 2022

Y Gwahaniaeth rhwng y presennol perffaith a’r gorffennol syml yn y Gymraeg

1. Y presennol perffaith

i)  Defnyddir y presennol perffaith i sôn am brofiadau bywyd, h.y. os ydych chi wedi gwneud rhywbeth neu beidio, e.e.


“Ydych chi wedi darllen Enoc Huws gan Daniel Owen?”

“Nac ydw. Dw i erioed wedi darllen nofel gan Daniel Owen.”


Yma nid pryd y digwyddodd y weithred sy’n bwysig – dim ond y ffaith eich bod wedi darllen y nofel.


ii) Defnyddir y presennol perffaith i sôn am bethau a ddigwyddodd yn y gorffennol, ond eu bod yn dal yn berthnasol, e.e.


“Dw i wedi gwneud teisen iti.”


Digwyddodd y weithred o wneud y deisen yn y gorffennol, ond dyma hi nawr.


“Dw i wedi torri fy mys.” (Ac mae’n dal i waedu nawr.)

Wednesday, 5 October 2022

Y fannod (y/yr/’r)

Mae yna dair ffurf ar y fannod yn y Gymraeg:

             yr, y, ’r

(i)  Y ffurf lawn yw yr

Mae hon yn digwydd:

a)   O flaen llafariad:

            yr afon, yr enw, yr afal, yr eryr

b)  O flaen deusain:

            yr aur, yr eira, yr oen, yr Wyddfa, yr wy, yr iaith

c)   O flaen <h>:

            yr haf, yr heol, yr haul

(ii) Ceir <y> rhwng dwy gytsain, neu ynteu rwng cytsain ac w-gytsain:

            Ffald-y-brenin, Pen-y-bryn, Tal-y-bont, wrth y wal, ymyl y cae, yn y wlad

Fel arfer, ceir ’r ar ôl geiriau sy’n gorffen â llafariad:

            dwylo’r ferch, tŷ’r prifathro, propaganda’r llywodraeth

Tuesday, 4 October 2022

Treiglo ar ôl rhifau

Rhifolion


Mae rhai rhifolion yn achosi treigladau. Ond, yn lle disgrifio pob un yn unigol, dyma siart o 1 i 10 ynghyd ag enghreifftiau:


Rhifol

Cenedl

Treiglad

 Enghraifft

1     un

       un

2     dau

       dwy

3     tri

       tair

4     pedwar

       pedair

5     pump

       pump

6     chwech

       chwech

7     saith

       saith

8     wyth

       wyth

9     naw

       naw

10   deg

       deg 

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

dim

Treiglad Meddal

Treiglad Meddal

Treiglad Meddal

Treiglad Llaes

dim

dim

dim

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

Treiglad Llaes

Treiglad Llaes

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

un dyn

un ferch

dau fab

dwy fenyw

tri chi

tair cath

pedwar ceffyl

pedair caseg

pum tarw

pum buwch

chwe cheffyl

chwephunt

saith pentre

saith tre

wyth drws

wyth cegin

naw parti

naw dawns

deg pwll

deg cronfa

Monday, 3 October 2022

Geiriau Cymraeg a Gaeleg yr Alban tebyg


Gan fod llawer o amser gennyf y dyddiau hyn, penderfynais wneud ymdrech arbennig i geisio dysgu Gaeleg yr Alban. Mae sawl rheswm am wneud hyn:


  1. Rwy’n ffan mawr iawn o’r grŵp roc Runrig, a hoffwn ddeall geiriau eu caneuon Gaeleg yr Alban.
  2. Er nad wyf yn esgus bod yn arbenigwr yn y maes, rwy’n hoff iawn o etymoleg, yn enwedig etymoleg gymharol yr ieithoedd Celtaidd.
  3. Rwy’n deall fod orgraff Gaeleg yr Alban yn fwy cyson na’r Wyddeleg. Rwy’n dioddef o ddyslecsia, ac felly, byddai ceisio dysgu Gwyddeleg ar fy mhen fy hunan bron yn amhosib i mi.
  4. O Barraigh (Ynys Barra) mae teulu tad fy ngwraig yn dod.

 

O ran dysgu’r iaith ei hunan, rwy’n gwneud uned o Gwrs Gaeleg yr Alban ar-lein Duolingo bob dydd ers blwyddyn, ac rwyf hefyd yn gwneud fy ffordd trwy Scots Gaelic in Twelve Weeks gan Roibeard Ó Maolalaigh.