Tuesday, 4 October 2022

Treiglo ar ôl rhifau

Rhifolion


Mae rhai rhifolion yn achosi treigladau. Ond, yn lle disgrifio pob un yn unigol, dyma siart o 1 i 10 ynghyd ag enghreifftiau:


Rhifol

Cenedl

Treiglad

 Enghraifft

1     un

       un

2     dau

       dwy

3     tri

       tair

4     pedwar

       pedair

5     pump

       pump

6     chwech

       chwech

7     saith

       saith

8     wyth

       wyth

9     naw

       naw

10   deg

       deg 

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

gwrywaidd

benywaidd

dim

Treiglad Meddal

Treiglad Meddal

Treiglad Meddal

Treiglad Llaes

dim

dim

dim

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

Treiglad Llaes

Treiglad Llaes

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

dim (fel rheol)

un dyn

un ferch

dau fab

dwy fenyw

tri chi

tair cath

pedwar ceffyl

pedair caseg

pum tarw

pum buwch

chwe cheffyl

chwephunt

saith pentre

saith tre

wyth drws

wyth cegin

naw parti

naw dawns

deg pwll

deg cronfa

Yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, nodir blynedd fel enw benywaidd, ond ffurf luosog ydyw yn y bôn, a dyna pam na fydd ansoddeiriau sy’n ei ddilyn, yn treiglo:

         y tair blynedd cyntaf, pedair blynedd caled, chwe blynedd creulon

Ond mae ansoddeiriau sy’n dilyn dwy flynedd yn treiglo’n feddal:

         y ddwy flynedd gyntaf, dwy flynedd lawn, dwy flynedd gyfan

Mae’r siart ganlynol yn dangos sut y mae blynedd, a blwydd, yn treiglo:

Rhifol

Treiglad

Enghraifft

un

dwy

tair

pedair

pump

chwech

saith

wyth

naw

deg

deuddeg

pymtheg

deunaw

ugain

cant

Treiglad Meddal

Treiglad Meddal

dim

dim

Treiglad Trwynol

dim

Treiglad Trwynol 

Treiglad Trwynol 

Treiglad Trwynol 

Treiglad Trwynol

Treiglad Trwynol

Treiglad Trwynol

Treiglad Trwynol

Treiglad Trwynol

Treiglad Trwynol

un flwyddyn, un flwydd

dwy flynedd, dwy flwydd

tair blynedd, tair blwydd

pedair blynedd, pedair blwydd

pum mlynedd, pum mlwydd

chwe blynedd, chwe blwydd

saith mlynedd, saith mlwydd

wyth mlynedd, wyth mlwydd

naw mlynedd, naw mlwydd

deng mlynedd, deng mlwydd

deuddeng mlynedd, deuddeng mlwydd

pymtheng mlynedd, pymtheng mlwydd

deunaw mlynedd, deunaw mlwydd

ugain mlynedd, ugain mlwydd

can mlynedd, can mlwydd 



Treiglo ar ôl y Trefnolion

Fel dau a dwy, mae ail yn achosi’r treiglad meddal yn llythyren gyntaf yr enw sy’n ei ddilyn:

         ail fachgen, ail ferch, ail gi, ail gath

Mae’r trefnolion eraill yn achosi treiglad meddal yn llythyren gyntaf enw benywaidd:

Trefnol

Cenedl

Treiglad

Enghraifft

cyntaf

gyntaf

ail

ail

trydydd

trydedd

pedwerydd

pedwaredd

pumed

pumed

chweched

chweched

seithfed

seithfed

wythfed

wythfed

nawfed

nawfed

degfed

degfed 

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwryaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

Gwrywaidd

Benywaidd

dim

Treiglad Meddal

Treiglad Meddal

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

dim

Treiglad Meddal

y bachgen cyntaf

y ferch gyntaf

yr ail fatiwr

yr ail long

y trydydd dyn

y drydedd wraig

y pedwerydd car

y bedwaredd gert

y pumed ci

y bumed gath

y chweched miliynydd

y chweched filiwnyddes

y seithfed blisman

y seithfed blismones

yr wythfed tafarnwr

yr wythfed dafarnwraig

y nawfed drws

y nawfed ris

y degfed canwr

y ddegfed gantores

Ac, wrth gwrs, mae ansoddeiriau’n treiglo’n feddal ar ôl enwau benywaidd:

       y gantores dalentog, y gath ddu, y gaseg winau, y siop fwyd

Llyfryddiaeth

  • Brake, Ph. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.
  • Brake, Ph., Brake J. (2020) Welsh in 12 Weeks, Gwasg Carreg Gwalch.
  • Lewis, D.G. (1993) Y Treigliadur, Gwasg Gomer.
  • Lewis, D.G., Lewis, N.  (2022) Y Gweiadur - y Geiriadur Cymraeg-Saesneg, ar gael: https://www.gweiadur.com/geiriadur-cymraeg (Cyrchwyd 01/10/2022).
  • Morgan, T.J, (1952) Y Treigladau a’u Cystrawen, Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Thomas, P.W (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
  • Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.