Thursday, 26 January 2023

Sangiad (Torymadrodd)

 

Gair neu gymal sy’n torri ar rediad arferol ymadrodd drwy ddodi yn ei ganol rywbeth sy'n gysylltiedig o ran ystyr ond heb fod yn rhan ramadegol ohono yw sangiad.[1]

Er enghraifft, yn y Gymraeg, safle arferol adferfol, sef gair neu eiriau sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am y ferf, yw naill ai ar ddiwedd neu ynteu ar ddechrau brawddeg, e.e.

Mae pump o lyfrau yno.

Yno mae pump o lyfrau.

Ond, os y’i rhoir yng nghanol y frawddeg, mae’n mynd yn erbyn rhediad naturiol y frawddeg, ac felly, mae'n achosi treiglad meddal:

Mae yno bump o lyfrau.

Fodd bynnag, mewn brawddeg fel:

Cyrhaeddodd yr heddlu, ac wedyn, lladdwyr tân.

nid yw ac wedyn yn sangiad o’r iawn ryw, gan y gellir rhoi berf rhyngddo a lladdwyr tân:

Cyrhaeddodd yr heddlu, ac wedyn, cyrhaeddodd lladdwyr tân.

ac felly, does dim angen treiglad.

Wednesday, 25 January 2023

Y treiglad cyfarchol

 Pam y mae treiglad yn yr arwydd hon gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd?

Yr arfer, yn y Gymraeg, wrth gyfarch rhywun, neu rywbeth, yw treiglo’r enw, e.g.

Foneddigion a boneddigesau....

Helo bawb!

Bore da blantos!

Farwél bleserau darfodedig.

Yn hanesyddol, canlyniad treiglad cywsllt yn dilyn hen eirynnau cyfarchol fel ha, och a o yw’r treiglad presennol:

Ha ŵyr ardderchog!

Och Fair fyw farw y ferch fwyn.

O Dduw yr wyf yn diolch iti

Tuesday, 24 January 2023

Cynffoneiriau a’r frawddeg enwol a’r frawddeg bwysleisiol

 


Brawddeg enwol yw brawddeg heb ferf, e.e.

Hyfryd gweld yr haul

Nid aur popeth melyn

Mewn brawddegau o’r fath, ceir traethiad, sef hyfryd gweld yn achos yr enghraifft gyntaf, ac wedyn, y goddrych, sef yr haul.

Gellir mynegi amser trwy roi cyplad yn y canol:

Hyfryd yw gweld yr haul (presennol)

Hyfryd oedd gweld yr haul (gorffennol)

Hyfryd fydd gweld yr haul (dyfodol)

Ar y llaw arall, mewn brawddeg bwysleisiol—sy’n gallu bod yn frawddeg enwol neu’n frawddeg ferfol—daw rhan o'r frawddeg, heblaw’r ferf, gyntaf, e.e.

Curodd Cymru Loegr yn hawdd (niwtral)

Cymru a gurodd Loegr yn hawdd (goddrych)

Lloegr a gurodd Cymru yn hawdd (gwrthrych)

Hawdd y curodd Cymru Loegr (adferfol)

Monday, 23 January 2023

Dillad bob dydd v. dillad pob dydd

 

Rhagair

Yn dilyn cwestiwn a ofynnwyd yng y grŵp Gramadeg y Gymraeg ar Facebook ym mis Ionawr, 2023, ynglŷn ag a ddylid treiglo pob mewn ymadrodd enwol fel dillad bob dydd (Jones, 2023), cafwyd un sylw mai da o beth fyddai ceisio pennu a oes unrhyw arwyddocâd daearyddol i’r dosraniad a ddaeth i’r amlwg. Gwyddwn i’r grŵp Iaith ar Facebook gael ei sefydlu i edrych i mewn i ddosraniad geiregol yn y Gymru gyfoes (Rhys, 2020). Mae gan y grŵp Iaith 15,500 o aelodau. Felly, meddyliais mai da o beth fyddai gofyn am eu help nhw yn hyn o beth.

Methodoleg

Ysgrifennais bost yn y grŵp ‘Iaith’ ar Facebook (Brake, 2023), yn gofyn y cwestiwn hwn:

Yn dilyn cwestiwn a ofynnwyd yng y grŵp Gramadeg y Gymraeg, hoffwn i gael gwybod a fyddech chi’n dweud dillad pob dydd neu ynteu dillad bob dydd. Cofiwch nodi ble, os gwelwch yn dda! Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.[1]

Gan wybod fod diddordeb pobl mewn postiau Facebook yn gallu pylu’n gyflym iawn, penderfynais gau ymateb i’r post ar ôl dau ddiwrnod.

Ar gyfer yr astudiaeth dan sylw, penderfynwyd rhannu’r ymatebwyr yn fras yn rhai o’r Gogledd a rhai o’r De. Defnyddiwyd ffin ogleddol Ceredigion fel y ffin rhwng y Gogledd a’r De, gan ei bod hi’n gweithredu fel isoglos i lawer o nodweddion yr ystyrir eu bod yn rhannu tafodieithoedd gogleddol y Gymraeg oddi wrth rai’r De. Yr hypothesis yw nad oes cydberthynas rhwng y defnydd o dillad bob dydd v. dillad pob dydd a man geni/magwraeth yr ymatebwyr.