Tuesday, 24 January 2023

Cynffoneiriau a’r frawddeg enwol a’r frawddeg bwysleisiol

 


Brawddeg enwol yw brawddeg heb ferf, e.e.

Hyfryd gweld yr haul

Nid aur popeth melyn

Mewn brawddegau o’r fath, ceir traethiad, sef hyfryd gweld yn achos yr enghraifft gyntaf, ac wedyn, y goddrych, sef yr haul.

Gellir mynegi amser trwy roi cyplad yn y canol:

Hyfryd yw gweld yr haul (presennol)

Hyfryd oedd gweld yr haul (gorffennol)

Hyfryd fydd gweld yr haul (dyfodol)

Ar y llaw arall, mewn brawddeg bwysleisiol—sy’n gallu bod yn frawddeg enwol neu’n frawddeg ferfol—daw rhan o'r frawddeg, heblaw’r ferf, gyntaf, e.e.

Curodd Cymru Loegr yn hawdd (niwtral)

Cymru a gurodd Loegr yn hawdd (goddrych)

Lloegr a gurodd Cymru yn hawdd (gwrthrych)

Hawdd y curodd Cymru Loegr (adferfol)

Yn yr iaith lenyddol, mewn brawddegau o’r fath, ai e? yw’r cynffonnair cadarnhaol ac onid e? yw’r cynffonnair negyddol. e.e.

Brawddeg Enwol

Siôn yw’r tiwtor newydd, ai e? (cynffonnair cadarnhaol)

Siôn yw’r tiwtor newydd, onid e? (cynffonnair negyddol)

Brawddeg Bwysleisiol

Cymru a gurodd Loegr, ai e? (cynffonnair cadarnhaol)

Cymru a gurodd Loegr, onid e? (cyffonnair negyddol)

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.