Llyfr Du Caerfyrddin
Fel siaradwr y Gymraeg, mae gen i ddiddordeb byw yn hanes yr iaith a’i gwreiddiau. Rwy’n gwneud hyn o safbwynt rhywun sydd â chefndir mewn tafodieitheg fodern a sosio-ieithyddiaeth. Ni allaf lai nad edmygu’r holl waith aruthrol a thrylwyr a wnaed gan ieithegwyr ymroddedig dros y blynyddoedd. Ond, ar ôl ymchwilio’n fanwl i’r pwnc, rwy’n cael fy nenu fwyfwy at y syniad y gall y Gymraeg fod yn ganlyniad i shifft iaith (Wikipedia, 2026). Dyma’r prif ddadleuon dros ddod i’r casgliad hwn:i) Does dim amheuaeth nad yw’r ieithoedd Brythonaidd a Goidelaidd cyfoes yn meddu ar eirfa ‘Geltaidd’ graidd ynghyd â rhannu llawer o nodweddion cystrawennol â’i gilydd.[1]
ii) Fodd bynnag, mae’r ieithoedd cyfoes yn anghyd-ddealladwy. Ystyrir y Gymraeg a’r Llydaweg yn chwaer ieithoedd. Maen nhw’n dal i feddu ar agosrwydd genetig cymharol uchel (24.2) (eLinguistic.net, 2025). Gwyddom i’r ddwy iaith hyn ddechrau ymwahanu oddi wrth ei gilydd tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Ar y llaw arall, mae’r agosrwydd genetig rhwng y Gymraeg (iaith Gelteg P) a Gaeleg yr Alban (iaith Gelteg Q), yn gymharol isel (44.0), ac, er gwaethaf eu tarddiad Celtaidd, maen nhw erbyn hyn yn gwbl anghyd-ddealladwy ar bob lefel – gan gynnwys ansawdd llafariaid, patrymau sain a rhythmau ynganu sy’n gwbl wahanol i’w gilydd. Gan hynny, rwy’n amcangyfrif i’r Oideleg a’r Frythoneg ymwahanu oddi wrth ei gilydd yn ystod Oes yr Efydd neu o leiaf ar ddechrau Oes yr Haearn.
iii) Ond ai dyna a ddigwyddodd mewn gwirionedd? Mwy na thebyg, cafodd PIE Gogledd-orllewinol ei chyflwyno i Brydain ac Iwerddon ynghyd â’r diwylliant Bicer Gloch (Wikipedia, 2026) ar ddechrau Oes yr Efydd (Cassidy, 2016). Byddai’r iaith hon (neu’r ieithoedd hyn) wedi cadw PIE *kʷ.
iv) Dengys ymchwil archaeogenetig i fewnfudo o Ogledd Ffrainc i Dde-ddwyrain Prydain ddigwydd rywbryd yn ystod Oes yr Haearn, a hynny gan bobl a chanddynt haplo-grwpiau Y-DNA neolithig (Cassidy, Continental influx and pervasive matrilocality in Iron Age Britain, 2025). Mae’n bosib mai’r mudo hwn oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r Frythoneg i Dde-orllewin Prydain, ynghyd â’r shifft *kʷ → *p.
v) Yn anffodus, nid oes braidd dim enghreifftiau cydoes wedi eu hardystio o’r ‘Frythoneg’, felly rhaid dibynnu ar ei hail-greu o’r Gymraeg cyfoes, gan ddibynnu’n drwm iawn ar sut y bu i fenthyceiriau Lladin cynnar ddatblygu yn y Gymraeg.
vi) Pan ymadawodd y Rhufeiniaid â Phrydain, gadawyd clytwaith ieithyddol cymhleth iawn ar eu hôl. O’n gwybodaeth o enwau brenhinoedd Eingl-Sacsonaidd cynnar, ymddengys i lawer o’r elît llywodraethol Romano-Frythonaidd ‘newid ochr’, a mabwysiadu iaith a diwylliant yr Eingl-Sacsoniaid (Russell & Laycock, 2011). Ond, ar y cyfan, ymddengys iddynt fabwysiadu iaith y werin bobl a drigai yn y wlad y tu allan i’r setliadau Rhufeinig (Mullen, 2024).
vii) Mae rhai’n dadlau mai dyna oedd yn gyfrifol am y newidiadau cyflym a ddigwyddodd mewn Proto-Frythoneg. Ond – yn achos y Gymraeg – mae’n bosib mai mabwysiadu Proto-Frythoneg gan boblogaeth, oedd yn dal i siarad iaith Gelteg Q (a ddatblygasai o ffurf ar PIE Gogledd-orllewinol), sy’n bennaf gyfrifol am y ffordd y bu i Broto-Frythoneg ddatblygu a throi’n Hen Gymraeg. Byddai hyn yn cyfrif am y tebygrwydd cystrawennol a geirfaol agos rhwng y Gymraeg a Gaeleg yr Alban – sydd, am ryw reswm, yn fwy agos na rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg.[2]
viii) Mae tystiolaeth ieithyddol, archaeolegol ac archaeogenetig ddiweddar yn
awgrymu bod presenoldeb cymunedau oedd yn siarad iaith Gelteg Q yng Nghymru
cyn, ac yn ystod, y bumed ganrif og.
Ac ystyried bod y Gymraeg yn cynnwys haen nodedig o eirfa graidd o darddiad Goideleg,
ynghyd â chystrawen gwmpasog sy’n hynod debyg i un Gaeleg yr Alban, mae’n
rhesymol ystyried model lle y bu i gyswllt dwfn, a newid iaith posib, rhwng y boblogaeth
Gelteg Q ac un Broto‑Frythoneg, chwarae rhan ganolog yn natblygiad
Proto-Frythoneg, a droes yn nhreigl amser yn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol yn
nes ymlaen. Yn y model hwn, gellid gweld Cymraeg modern nid yn unig fel
esblygiad mewnol o’r Frythoneg, ond hefyd fel canlyniad i broses gymhleth lle y
bu i boblogaeth Gelteg Q fabwysiadu iaith Gelteg P, gan gadw elfennau
strwythurol a geiriol sylweddol o’u hiaith wreiddiol.
Gellir lawrlwytho PDF o'r papur hwn yma.
Cyfeirnodau
Cassidy, L. (2016). Neolithic and Bronze Age migration to Ireland and establishment of the insular Atlantic genome. Proceedings of the National Academy of Sciences, 113(2), tt. 368-373.
Cassidy, L. (2025). Continental influx and pervasive matrilocality in Iron Age Britain. Nature, 637(8048), tt. 1136-114.
eLinguistic.net. (2025). eLinguistic.net - Quantifying the relatedness between languages. (V. Beaufils, Golygydd) Adferwyd 4 8, 2026 o eLinguistic.net: http://elinguistics.net/Compare_Languages.aspx
Koch, J. (1992). Gallo-Brittonic vs. Insular Celtic: The Interrelationships of the Celtic Languages Reconsidered.
Morgan, G. (2016). Ar Drywydd Dewi Sant. Tal-y-bont: Y lolfa.
Mullen, A. (2024). Languages and Literacies in Roman Britain. Yn A. Mullen, & A. Willi (Gol.), Latinization, Local Languages, and Literacies in the Roman West (tt. 355-). Oxford University Press.

Olalde, I. (2018). The
Beaker Phenomenon and the Genomic Transformation of Northwest Europe. Nature,
555(7695), tt. 190-196.
Russell, M., & Laycock, S. (2011). UnRoman Britain: Exposing the great myth of Britannia. The History Press.
Wikipedia. (2025, 8 31). Cunedda. Adferwyd 4 9, 2026 o Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Cunedda
Wikipedia. (2026, Ebrill 8). Bell Beaker culture. Adferwyd Ebrill 10, 2026 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Bell_Beaker_culture
Wikipedia. (2026, Mawrth 19). Diglossia. Adferwyd Ebrill 10, 2026 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Diglossia
Wikipedia. (2026, Mawrth 26). Language shift. Adferwyd 4 9, 2026 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Language_shift
Wikipedia. (2026, Ionawr 15). Ogham inscription. Adferwyd Ebrill 9, 2026 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Ogham_inscription

Nodiadau
[1] The archaic Welsh SV(O) construction of the type tyrch torrynt toruoel taleu ‘boars broke brows of brigades’ (BT n.4-5) is common in early poetry. This type occurs also in Middle Cornish : e.g. an prysners galsons yn weth ‘the prisoners have gone also,’ Ihesu dasserghys a’n beth ‘Jesus reascended from the grave’. Cf. also OB platan hoiamlub gueied ‘the “iron-herb" plant suits,’ i.e. ‘is applicable as a cure’. The overwhelming preponderance of attested Gaulish sentences show a NP-initial V-medial order : e.g.,
MARTIALIS DANNOTALI IEVRV VCVETE SOSIN CELICNON
‘Martialis son of Dannotalos bestowed upon Ucuetis this chalice’ (Koch, 1992)
[2] Mae hen ddigon o dystiolaeth bod iaith Gelteg Q yn cael ei siarad yng Nghymru ar ddiwedd y cyfnod Rhufeinig: cerrig ogam dwyieithog (Wikipedia, 2026), enwau rhanbarthau tiriogaethol o darddiad Goidelaidd, cof gwerin am y ‘Gwyddelod’ yn cael eu trechu gan Dewi Sant (Morgan, 2016), a’u ‘gyrru’ o Wynedd gan Cunedda Wledig (Wikipedia, 2025). Beth bynnag oedd tarddiad y ‘Gwyddelod’ hyn, mae’n amlwg bod yr iaith a siaradent yn cael ei hatgyfnerthu gan gysylltiadau teuluol a masnach ag Iwerddon, a bod digon o siaradwyr yr iaith honno yng Nghymru i ffurfio is-stratwm Goideleg cryf yn y Proto-Frythoneg a ddatblygodd yno.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.