Tuesday, 15 April 2025

Rhifolion - ffurfiau gwahanol

 

Yn Gramadeg y Gymraeg (Thomas, 1996), gwahaniaethir rhwng dwy ffurf ar rifolion:

      i.  Ffurfiau dyfynnol a ddefnyddir ar eu pennau nhw eu hunain.

     ii.  Ffurfiau cyswllt, a ddefnyddir i oleddfu ymadroddion enwol.

Ar y llaw arall, yn Y Treigladau a’u Cystrawen, defnyddir y termau ‘cysefin’ ac ‘ansoddeiriol’ wrth ddisgrifio’r rhifolion (Morgan, 1952).

Ond tybed ai dyna sy’n digwydd mewn gwirionedd? Cymerer sut y trinnir dweud oedran rhywun yn y Gymraeg (Williams, 1959). Y patrwm llawn yw:


rhifol + blwydd + oed

Er enghraifft:

 pum mlwydd oed

Ond gellir hepgor blwydd, a cheir y ffurf ‘ddyfynnol’ pump:


pump oed

Tuesday, 8 April 2025

Pam y mae Germaneg mor wahanol i Gelteg ac Italeg?

Ysgrifen rwnig hynafol

Oddi mewn i deulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd, rhoir y tri grŵp gorllewinol, sef Celteg, Germaneg ac Italeg, gyda’i gilydd. Maen nhw ill tair yn cael eu hystyried yn ieithoedd centum (Wikipedia, 2025). Ac eto, mae datblygiadau seinyddol y Germaneg yn wahanol iawn i’r ddau arall. Er eu bod nhw’n rhannu llawer o eirfa â’i gilydd, mae rhai’n credu mai yn y grŵp Balto-Slafeg y dechreuodd hi. Y prif reswm am hyn yw’r ffaith i wledydd Germanaidd cyfoes feddu ar gymysgedd o R1b ac R1a fel eu prif haplo-grwpiau Y-DNA: 

Proto-Germanic language probably developed as a blend of two branches of Indo-European languages, namely the Proto-Balto-Slavic language of the Corded-Ware culture (R1a-Z283) and the later arrival of Proto-Italo-Celto-Germanic people from the Unetice culture (R1b-L11). This is supported by the fact….that Proto-Germanic language is closest to Proto-Italo-Celtic, but also shares similarities with Proto-Slavic. (Hay, History of R1a - The Germanic branch, 2021)


Credir mai R1a oedd yr haplo-grŵp mwyaf cyffredin ymhlith y llwythau Proto-Indo-Ewropeaidd gogleddol a dwyreiniol, a droes yn nhreigl amser yn bobloedd Balto-Slafaidd ac Indo-Iranaidd. Yn Ewrop, mae’n gysylltiedig â’r diwylliant Nwyddau Cnotiog (“Corded Ware culture”) (c. 3000-2350 cog) (Wikipedia, 2025). Gwelir ffiniau ardal y diwylliant Nwyddau Cnotiog yn Ffig. 1. Fodd bynnag, mae’n debyg i goedwigoedd gogleddol anhreiddiadwy rwystro symudiad R1a i’r gorllewin, tra bu i R1b gyrraedd gorllewin Ewrop gyda disgynyddion bugeiliaid Yamnaya trwy Wastadedd Canolbarth Ewrop.