Tuesday, 15 April 2025

Rhifolion - ffurfiau gwahanol

 

Yn Gramadeg y Gymraeg (Thomas, 1996), gwahaniaethir rhwng dwy ffurf ar rifolion:

      i.  Ffurfiau dyfynnol a ddefnyddir ar eu pennau nhw eu hunain.

     ii.  Ffurfiau cyswllt, a ddefnyddir i oleddfu ymadroddion enwol.

Ar y llaw arall, yn Y Treigladau a’u Cystrawen, defnyddir y termau ‘cysefin’ ac ‘ansoddeiriol’ wrth ddisgrifio’r rhifolion (Morgan, 1952).

Ond tybed ai dyna sy’n digwydd mewn gwirionedd? Cymerer sut y trinnir dweud oedran rhywun yn y Gymraeg (Williams, 1959). Y patrwm llawn yw:


rhifol + blwydd + oed

Er enghraifft:

 pum mlwydd oed

Ond gellir hepgor blwydd, a cheir y ffurf ‘ddyfynnol’ pump:


pump oed

Ac eto, gyda’r rhan fwyaf or rhifolion, yr un yw ffurf y dyfynnol a’r cyswllt, ond ceir ffurfiau gwahanol yn achos y rhai canlynol:
 

Fodd bynnag, gan fod deuddeg/deuddeng a pymtheg/pymtheng yn gyfansoddeiriau sy’n cynnwys deg/deng fel yr ail elfen, hwyrach y gellir lleihau’r nifer o rifolion hyn i bedwar, nid chwech.

Mewn Cymraeg safonol cyfoes, dim ond gyda blynedd/blwydd, ac weithiau diwrnod, y defnyddir deg/deng, deuddeg/deuddeng a pymtheg/pymtheng yn gyson. Gan hynny, a yw’r dosbarthiad hwn yn berthnasol bellach? Er enghraifft, mewn chwiliad yn yr Internet Archive (Internet Archive, 2025), deuthum o hyd i 15 enghraifft o deg merch a 13 enghraifft o deng merch. Yn ddiddorol, tra oedd pob enghraifft o deg merch yn digwydd mewn cyhoeddiadau ‘diweddar’ o’r 1930au ymlaen, roedd pob enghraifft o deng merch yn dod o gyhoeddiadau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac eithrio un enghraifft yn Gramadeg y Gymraeg. Fodd bynnag, weithiau ceir y defnydd o deng o flaen geiriau ar wahân i blynedd/blwydd a diwrnod mewn gweithiau o natur academaidd ac ysgolheigaidd ac mewn barddoniaith:


A deuddeng Abad yn y gro, Yn huno yno’n dawel. T. Gwynn Jones (1926): ‘Ystrad Fflur’.

 

Cymaint mwy wedyn oedd llwyddiant yr ail rifyn fel yr argraffwyd pymtheng mil o gopïau o'r trydydd. Derec Llwyd Morgan (1985): Y Brenhinbren: bywyd a gwaith Thomas Parry 1904-1985, t. 123.

 

Erbyn O.C. 48, bodolasai cymunedau o fodau dynol yn Nghymru....ers deng mil o flynyddoedd a mwy. John Davies (1990): Hanes Cymru, t.2.

Er mwyn ceisio profi’r honiad hwn, trois yn ôl at yr Internet Archive (Internet Archive, 2025) i gynnal arbrawf amrwd i gymharu’r defnydd o deng a deg o flaen gwahanol grwpiau o seiniau mewn geiriau gwahanol i blynedd/blwydd a diwrnod, a dyma’r canlyniadau:


Trwynolion
deng mil 429 (78%); deg mil 118 (22%)
deng milltir 149 (45%); deg milltir 180 (55%)
deng neidr 0; deg neidr 1 (100%)

Ffrwydrolion

deng plwyf 0; deg plwyf 4 (100%)

deng bachgen 0; deg bachgen 5 (100%)


Llafariaid

deng afal 2 (50%); deg afal 2 (50%)

deng ysgol 0; deg ysgol 8 (100%)


Ffrithiolion

deng chwaer 0; deg chwaer 2 (100%)

deng fair 0; deg ffair 1 (100%)

deng llwybr 0; deg llwybr 2 (100%)

Gwelir mai gyda’r rhifol mil y ceir deng fynychaf (78%), ac wedyn milltir (45%). Yn nesaf daw afal (50%). Ym mhob enghraifft arall, mae deng yn sgorio sero.

Gellir esbonio ffigurau uchel yn achos mil a milltir drwy gydweddiad (“analogy”) â ffurfiau fel deng mlynedd/mlwydd, ynghyd â’r defnydd hanesyddol o deng. O ran deng afal, dim ond fel enghraifft yn Gramadeg y Gymraeg y daethpwyd o hyd iddi hi. Gan hynny, rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud mai dim ond olion sustem ‘hanesyddol’ a ddisgrifir yn Gramadeg y Gymraeg .

Ceir trafodaeth gynhwysfawr ar dreigladau’r rhifolion yn Y Treigladau a’u Cystrawen lle yr awgrymir peidio â defnyddio’r treiglad meddal ar ôl saith ragor (Morgan, 1952). Hwyrach y dylid gwneud yr un peth yn achos y treiglad trwynol ar ôl deg/deng, deuddeg/deuddeng a pymtheg/pymtheng mewn geiriau ar wahân i blynedd/blwydd a diwrnod.


Gellir lawrlwytho PDF opapur hwn yma.

Cyfeirnodau
Internet Archive. (2025, Ebrill 14). Adferwyd o Internet Archive: https://archive.org/
Morgan, T. J. (1952). Y Treigladau a'u Cystrawen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Williams, S. J. (1959). Elfennau Gramadeg Cymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

 


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.