Sunday, 12 November 2023

A yw Armeneg a Basgeg yn ieithoedd Indo-Ewropeg?

 

Yn ddiweddar cefais y cwestiwn: “Pam nad yw Basgeg yn cael ei hystyried yn iaith Indo-Ewropeaidd?” Er mwyn profi’r ddamcaniaeth fod dwy iaith yn perthyn i’w gilydd, cymherir parau o eiriau y tybir eu bod yn gytras. Gellir mesur pa mor agos y mae dwy iaith yn perthyn i’w gilydd oddi wrth y nifer o barau o eiriau cytras sydd rhyngddynt (Wikipedia, 2023). Lle da iawn i ddechrau astudiaeth o’r fath yw’r rhifolion 1-10 (gw. Tabl 1).

 Tabl 1:  Rhifau 1-10 mewn chwe iaith Indo-Ewropeaidd.

 

 

Heleneg

Balto-Slafoneg

Celteg (P)

Italeg

Germaneg

Rhif

PIE

Groeg

Latfïeg

Cymraeg

Eidaleg

Almaeneg

1

*Hoi-no

éna (n.)

viens (g.)

un

uno (m.)

einz

2

*d(u)wo-

dýo

divi (g.)

dau

due

zwei

3

*trei- / *tri-

tría (n.)

trīs (g.)

tri

tre

drei

4

*kʷetwor- 

téssara (n.)

četri (g.)

pedwar

quattro

vier

5

*penkʷe

pénte

pieci (g.)

pump

cinque

fünf

6

*s(w)es

éxi

seši (g.)

chwech

sei

sechs

7

*septm̥

eptá

septin̹i (g.)

saith

sette

sieben

8

*o

oktṓ

aston̹i (g.)

wyth

otto

acht

9

*(h₁)newn̥

enniá

devin̹i (g.)

naw

nove

neun

10

*dem̥(t)

déka

desmit

deg

dieci

sehn


Mae’n ddiddorol nodi bod hyd yn oed y Roeg, sy’n ffurfio grŵp iaith o’r iawn ryw, a chanddi rifau sy’n ymdebygu i’r rhai Italo-Geltaidd.

Mae'r Armeneg hithau’n cael ei ystyried yn iaith Indo-Ewropeaidd. Ond, oherwydd iddi hi ddatblygu dros filoedd o flynyddoedd wedi ei hamgylchynnu gan ieithoedd sydd ddim yn rhai Indo-Ewropeaidd, maer Armeneg wedi datblygu’n wahanol iawn i ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, gan gynnwys ei sustem rifo.[1] Dengys Tabl 2 y rhifolion 1-10 yn yr Armeneg (iaith Indo-Ewropeaidd), y Fasgeg ar Etrwsgeg (ieithoedd an-Indo-Ewropeaidd).


Tabl 2: Y rhifolion 1-10 yn Armeneg (IE), Basgeg (an-IE) ac Etrwsceg (an-IE).

Rhifol

Armeneg

Basgeg

Etrwsceg

1

mek

bat

θu

2

yerku

bi

zal

3

yerek

hiru

ci

4

chors

lau

huθ

5

hing

bost

maχ

6

vets

sei

śa

7

jot

zazpi

semφ

8

ut

zortzi

cezp

9

inne

bederatzi

nurφ

10

tas

hamar

śar

Dengys Tabl 3 y rhifolion 1-10 mewn tair iaith satem[1], sef Hindi (Indo-Iraneg), Pwyleg (Balto-Slafeg) a Latfïeg (Balto-Slafeg). Gwelir bod yna saith pâr cyfatebol amlwg rhyngddynt (70% cyfateb-iaeth). Ar yr olwg gyntaf, ymddengys nad oes unrhyw gyfatebiaeth rhwng y rhifolion 1-10 yn yr Armeneg a’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill. Ond o graffu’n fanylach, mae’n bosib fod ut, inne a tas yn dod o wreiddiau Indo-Ewropeg, ond mae angen gwirio hynny.