Yn ddiweddar cefais y cwestiwn: “Pam
nad yw Basgeg yn cael ei hystyried yn iaith Indo-Ewropeaidd?” Er mwyn profi’r
ddamcaniaeth fod dwy iaith yn perthyn i’w gilydd, cymherir parau o eiriau y
tybir eu bod yn gytras. Gellir mesur pa mor agos y mae dwy iaith yn perthyn i’w
gilydd oddi wrth y nifer o barau o eiriau cytras sydd rhyngddynt
|
|
|
Heleneg |
Balto-Slafoneg |
Celteg (P) |
Italeg |
Germaneg |
|
Rhif |
PIE |
Groeg |
Latfïeg |
Cymraeg |
Eidaleg |
Almaeneg |
|
1 |
*Hoi-no |
éna (n.) |
viens (g.) |
un |
uno (m.) |
einz |
|
2 |
*d(u)wo- |
dýo |
divi (g.) |
dau |
due |
zwei |
|
3 |
*trei- / *tri- |
tría (n.) |
trīs (g.) |
tri |
tre |
drei |
|
4 |
*kʷetwor- |
téssara (n.) |
četri (g.) |
pedwar |
quattro |
vier |
|
5 |
*penkʷe |
pénte |
pieci (g.) |
pump |
cinque |
fünf |
|
6 |
*s(w)eḱs |
éxi |
seši (g.) |
chwech |
sei |
sechs |
|
7 |
*septm̥ |
eptá |
septin̹i (g.) |
saith |
sette |
sieben |
|
8 |
*oḱtō |
oktṓ |
aston̹i (g.) |
wyth |
otto |
acht |
|
9 |
*(h₁)newn̥ |
enniá |
devin̹i (g.) |
naw |
nove |
neun |
|
10 |
*deḱm̥(t) |
déka |
desmit |
deg |
dieci |
sehn |
Mae'r Armeneg hithau’n cael ei ystyried yn iaith Indo-Ewropeaidd. Ond, oherwydd iddi hi ddatblygu dros filoedd o flynyddoedd wedi ei hamgylchynnu gan ieithoedd sydd ddim yn rhai Indo-Ewropeaidd, mae’r Armeneg wedi datblygu’n wahanol iawn i ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, gan gynnwys ei sustem rifo.[1] Dengys Tabl 2 y rhifolion 1-10 yn yr Armeneg (iaith Indo-Ewropeaidd), y Fasgeg a’r Etrwsgeg (ieithoedd an-Indo-Ewropeaidd).
Tabl
2: Y rhifolion 1-10 yn Armeneg (IE), Basgeg (an-IE) ac Etrwsceg
(an-IE).
|
Rhifol |
Armeneg |
Basgeg |
Etrwsceg |
|
1 |
mek |
bat |
θu |
|
2 |
yerku |
bi |
zal |
|
3 |
yerek |
hiru |
ci |
|
4 |
chors |
lau |
huθ |
|
5 |
hing |
bost |
maχ |
|
6 |
vets |
sei |
śa |
|
7 |
jot |
zazpi |
semφ |
|
8 |
ut |
zortzi |
cezp |
|
9 |
inne |
bederatzi |
nurφ |
|
10 |
tas |
hamar |
śar |
Dengys Tabl 3 y rhifolion 1-10 mewn tair iaith satem[1], sef Hindi (Indo-Iraneg), Pwyleg (Balto-Slafeg) a Latfïeg (Balto-Slafeg). Gwelir bod yna saith pâr cyfatebol amlwg rhyngddynt (70% cyfateb-iaeth). Ar yr olwg gyntaf, ymddengys nad oes unrhyw gyfatebiaeth rhwng y rhifolion 1-10 yn yr Armeneg a’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill. Ond o graffu’n fanylach, mae’n bosib fod ut, inne a tas yn dod o wreiddiau Indo-Ewropeg, ond mae angen gwirio hynny.
Tabl 3: Y rhifolion 1-10 yn Hindi, Pwyleg a Latfïeg.
|
Rhif |
Hindi |
Pwyleg |
Latfïeg |
|
1 |
pahalā |
jedno (n.) |
viens (g.) |
|
2 |
dūsara |
dwa (g.) |
divi (g.) |
|
3 |
tīsarā |
trzy (g.) |
trīs (g.) |
|
4 |
cauthā |
cztry (g.) |
četri (g.) |
|
5 |
pāṅcavāṃ |
pie̜ć |
pieci (g.) |
|
6 |
chaṭhā |
sześć |
seši (g.) |
|
7 |
sātavāṃ |
siedem |
septin̹i (g.) |
|
8 |
āṭhavāṃ |
osiem |
aston̹i (g.) |
|
9 |
nauvāṃ |
dziewięć |
devin̹i (g.) |
|
10 |
dasavāṃ |
dziesięć |
desmit |
Yn yr un modd, rhaid cyfaddef nad oes llawer o gyfatebiaeth rhwng rhifau 1-10 Basgeg a’r rhai Armeneg, ond mae llawer o eiriau tebyg iawn rhwng y ddwy iaith hyn (gw. Tablau 4 a 5).
Tabl 4: Geiriau tebyg rhwng Basgeg ac Armeneg.[3]
|
Basgeg |
Cymraeg |
Armeneg |
Cymraeg |
|
ahula |
gwan |
t’uyl |
gwan |
|
ahuntsa |
gafr |
ayts |
gafr |
|
astuna |
trwm |
tsanr |
trwm |
|
gatza |
halen |
agh |
halen |
|
hartz |
arth |
arj |
arth |
|
hiru |
tri |
yerek’ |
tri |
|
hirugarenna |
traean |
yerrord |
traean |
|
intxaur |
cneuen |
ynkuys |
cneuen |
|
itsasoa |
môr |
tsov |
môr |
|
jarauntsi |
etifeddu |
zharrangel |
etifeddu |
|
katua |
cath |
katu |
cath |
|
txita |
cyw |
tsit |
cyw |
|
txoria |
aderyn |
t’rrch’un |
aderyn |
|
ura |
dŵr |
jur |
dŵr |
|
zaldi |
ceffyl |
dzi |
ceffyl |
|
zuhaiutza |
coeden |
tsarr |
coeden |
Tabl 5: Geiriau Basgeg ac Armeneg sydd i'w gweld yn debyg i'w gilydd.
|
Basgeg |
Cymraeg |
Armeneg |
Cymraeg |
|
harria |
maen |
k’ar |
maen |
|
itsasoa |
môr |
itsov |
môr |
|
txoria |
aderyn |
t’rrch’un |
aderyn |
|
ura |
dŵr |
jur |
dŵr |
|
zaldi |
ceffyl |
dsi |
ceffyl |
|
zezena |
tarw |
tsul |
tarw |
|
zuhaitsa |
coeden |
tsarr |
coeden |
No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.