Mae’r ieithoedd Indo-Ewropaidd yn cynnwys y mwyafrif helaeth o’r ieithoedd a siaredir yn Ewrop yn ogystal â llawer a siaredir yng Ngorllewin a De Asia. Yn y gorffennol, cynigiwyd dwy brif ddamcaniaeth i esbonio ymlediad yr ieithoedd hyn:
1. y ddamcaniaeth ‘Paith Pontig-Caspaidd’ (“Steppe hypothesis”) sy’n cysylltu ymlediad Proto-Indo-Ewropeg (PIE) â mudo’r Yamnaya o’r Paith Pontig-Caspaidd ryw 5,000 o flynydd-oedd cyn y presennol; ynghyd â’r
2. y ddamcaniaeth ‘Anatolaidd’ (“Anatolian hypothesis”), sy’n awgrymu tarddiad hŷn sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth gynnar ymhell cyn hynny.
Ond awgryma astudiaeth newydd gan Athrofa Max Planck (Heggarty, 2023) y gall gwreiddiau’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fynd yn ôl mor bell ag 8,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at yr hyn a elwir gan rai ymchwilwyr yn ‘ddamcaniaeth hybrid’ sy’n cysoni tystiolaeth ieithyddol gyfredol â thystiolaeth DNA hynafol.
Dyma brif bwyntiau astudiaeth Heggarty et al.:
- Crewyd cronfa ddata newydd o’r enw IE-CoR, sy’n cwmpasu 161 o ieithoedd, ynghyd â samplo dwysach a mwy cytbwys.
- Bu i ieithoedd Indo-Ewropeaidd ymddangos odduetu 8000 CP.
- Mae canfyddiadau ym meysydd ffylogeneteg iaith a DNA hynafol yn arwain at “ddamcaniaeth hybrid” rhwng hypothesis Anatolaidd a’r un Paith Pontig-Caspaidd.
- Mae ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn tarddu o’r ardal i’r de o Fynyddoedd y Cawcasws, ond wedyn, ymdudodd un gangen i’r gogledd i’r Paith Pontig-Caspaidd.
- Bu i’r dulliau a fabwysiadwyd gan yr astudiaeth ragweld dyddiadau ymwahanu’r ieithoedd Románs yn gywir.
- Mae’r ymwahanu o fewn Indeg ("Indic") wedi ei ddyddio i ~4370 CP, sy’n cyd-fynd â’r ffaith fod Sansgrit eisoes ychydig yn wahanol i hynafiaid ieithoedd Indeg llafar cyfoes.
- Bu i Indo-Iraneg ymrannu ~5520 CP.
- Caiff Groeg ei dosbarthu gydag Armeneg ac Albaneg, tra bo’r prif gytras (“clade”) Ewropeaidd arall yn cynnwys Celteg, Italeg a Germaneg. Ymddengys i gangenau Groeg, Albaneg, Armeneg, ac wrth gwrs Anatoleg, ymddangos yn llawer cynt na’r gweddill.
Gellir lawrlwytho’r papur llawn yma.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.