Sunday, 12 May 2024

Roedd y lladron ar eu ffordd i Wrecsam

 


Yn ddiweddar, cefais gwestiwn gan rywun syn dysgu Cymraeg ynglŷn â pham roedd un oi atebion ar gwrs Cymraeg Duolingo wedi ei farcion anghywir. Rwyn credu fod yr esboniad a roddais yn berthnasol i siaradwyr rhugl hefyd. Dymar frawddeg dan sylw:

            Roedd y lladron ar eu ffordd nhw i Wrecsam. ✗

Roedd y dysgwr wedi drysu oherwydd ei fod ar ddeall fod rhagenwau ategol yn opsiynol mewn ymadroddion enwol fel ei dad ac ei dad e/o. Fodd bynnag, mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn gwybod yn reddfol i beidio ag ychwanegu rhagenw ategol mewn yn y cyd-destun hwn:

            Roedd y lladron ar eu ffordd i Wrecsam. ✓

Trafodir rhagenwau ategol yn drylwyr yn Gramadeg y Gymraeg gan Peter Wynn Thomas (§§ 4.154-4.161), a’i gasgliad ef yw na ellir dilyn rhagenwau meddiannol sy’n cynrychioli goddrych cymal gan ragenw ategol. Gan fod yr esboniad a geir yn GyG yn gallu peri dryswch, dyma ychydig o enghreifftiau o’r ‘rheol’ hon o’m heiddo i:


PRIF GYMAL
Collodd y gyrrwr ei ffordd. 
(“The driver lost his way.”)

CYMAL PERTHYNOL UNION
Rwy’n adnabod y gyrrwr a gollodd ei ffordd.
(“I know the driver who lost his way.”)

CYMAL PERTHYNOL ANUNION (cystrawen enidol)
Rwy’n gwybod am y cwmni y collodd eu gyrrwr ei ffordd.
(“I know about the company whose driver lost his way.”)

CYSTRAWEN ODDEFOL
Cafodd y gyrrwr (a gollodd ei ffordd) ei eni yng Nghaerdydd.
(“The driver (who lost his way) was born in Cardiff.)