Sunday, 15 February 2026

'Celtic from the West' - Y Dadleuon Sylfaenol o'i Phlaid

 

Biceri cloch o Thuringia (Yr Almaen) a Tök2ol (Hwngari) c. 2500-2200 COG

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd erthygl ar wefan MSN, o’r enw ‘Origins of immigrants who replaced Stonehenge’s builders revealed’. Mae rhai wedi defnyddio hyn i wrthbrofi’r ddamcaniaeth ‘ddadleuol’ ‘Celtic from the West’. Dyma fy ymateb i.

====

Mae’n bwysig cofio na all astudiaethau archaeogenetig brofi na gwrthbrofi damcaniaethau ieithyddol yn uniongyrchol. Ond maen nhw
n gallu olrhain symudiadau poblogaethau sydd, o bosib, yn gysylltiedig â shifftiau iaith. Gan hynny, Nid wyf yn credu bod yr astudiaeth archaeogenetig y cyfeirir ato yn erthygl MSN (Sankaran, 2026), yn gwrthbrofi’r ddamcaniaeth ‘Celtic from the West’. Fodd bynnag, maen cwestiynu’r syniad hen ffasiwn i’r bobloedd oedd yn gysylltiedig â’r diwylliant Bicer Gloch, gyrraedd Prydain ac Iwerddon yn uniongyrchol o Iberia, ac, am wn i, nid yw John Koch na Barry Cunliffe, sef golygyddion y gyfrol Celtic from the West
 (2010) erioed wedi honni hynny.