Monday, 17 June 2024

Treiglo benthyceiriau diweddar sy’n dechrau ag < g >

 


Nid yw benthyceiriau (diweddar) o’r Saesneg sy’n dechrau ag <g> yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod nac ar ôl yn traethiadol chwaith. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru (Prifysgol Cymru, 2024) yn nodi:

 

....ni threiglir t, giât byth yn feddal, e.e. yr Hen Gât

 

Ceir trafodaeth am hyn Y Treigladau a’u Cystrawen (Morgan, 1952). Dyma ychydig enghreifftiau, gan ddefnyddio terminoleg GPC:


Enw

Cenedl

Enghraifft

gât

eb.

y gât lydan

gêm

egb.

y gêm fawr

gini

egb.

dau gini

gitâr

eb.

y gitâr fas

gôl

eb.

y gôl dyngedfennol

golff

eg.

y bêl golff

grŵp

eg.

Mae’n grŵp mawr.

 

Fodd bynnag, mae'r <g> yma yn treiglo’n drwynol:

 
fy ngât
fy ngini
yng ngêm y Gweilch
yng ngrŵp Cymru

Wednesday, 5 June 2024

Beth yw aliniad gweithredus-dirfodus? (“What is an ergative-absolutive alignment?”)

 

Mewn ‘papur’ diweddar, edrychais i mewn i’r tebygrwydd honedig rhwng Euskara (“Basgeg”) ac Armeneg. Ystyrir y naill yn iaith ynysedig (“language isolate”) a’r llall yn aelod o’r teulu Indo-Ewropeg (Brake, 2023). Un nodwedd o’r Fasgeg sy’n ei gwneud yn wahanol i’r ieithoedd o’i chwmpas yw fod ganddi hi aliniad gweithredus-dirfodus (“ergative-absolutive alignment”)  o’i gymharu ag aliniad enwol-gwrthrychol (“nominative-accusative alignment”) gan ieithoedd Indo-Ewropeg Ewropeaidd. Yma, ceisiaf esbonio’r hyn y mae hyn yn ei olygu.

Mewn ieithoedd a chanddynt aliniad enwol-gwrthrychol, mae goddrych berf gyflawn (“intransitive verb”) yn gweithredu’n wahanol i wrthrych uniongyrchol berf anghyflawn (“transitive verb”) (Wikipedia, 2024). Er enghraifft, yn y Saesneg, gwelir hyn yn y defnydd o ragenwau. Cymerer y ddwy frawddeg ganlynol:

1.    She walks. (goddrych berf gyflawn)

2.    I saw her. (gwrthrych berf anghyflawn)

She yw’r ffurf oddrychol tra mai her yw’r ffurf wrthrychol.

Fodd bynnag, mewn ieithoedd a chanddynt aliniad gweithredus-dirfodus, mae goddrych berf gyflawn yn gweithredu fel gwrthrych uniongyrchol berf anghyflawn.

Monday, 3 June 2024

Tarddiad 'Chdi'

 


Yn nhafodieithoedd Gogledd Cymru, chdi ([χdi]) yw ffurf 2 bers. un. y rhagenw annibynnol. Ar yr olwg gyntaf, mae’n swnio fel cyfuniad o chi a ti, sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi. Ond, wrth edrych yn ddyfnach i’r mater, mae un ddamcaniaeth yn arbennig wedi dod i’r brig, sef datblygiad ffurf dreigledig ar y rhagenw dibynnol dwbl tydi ydyw. Sonnir am th’di gan John Morris-Jones:

(3) The forms my fy, tydi sometimes lose their unaccented y after a, na or no, giving a m’fi, a th’di, etc.; as megys ys ymydawssam a’th ti ‘as we forsook thee’.

                                    (Morris-Jones, 1913)

Llwyddais i ddod o hyd i’r enghreifftiau canlynol ar-lein:


Wedi’r cwbwl, be ydi’r gwhaniaeth rhyngot ti a fine? Nid fod th’di yn gyfalu dim mwy na fine

(Rees, 1853)

           A phe cyttunwn i a th’di i fyn’d yn wr a gwraig yn fuan,

I fyn’d yn wr a gwraig yn fuan

Deio’r Gwas a Betti’r Waen (Jones, 1902)


Cael cywasgu â’th di

Na chyweth brenhinieth, gwen eneth, gen i!

Moliant Merch gan Huw Morris (Mair, 2002)