Monday, 3 June 2024

Tarddiad 'Chdi'

 


Yn nhafodieithoedd Gogledd Cymru, chdi ([χdi]) yw ffurf 2 bers. un. y rhagenw annibynnol. Ar yr olwg gyntaf, mae’n swnio fel cyfuniad o chi a ti, sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi. Ond, wrth edrych yn ddyfnach i’r mater, mae un ddamcaniaeth yn arbennig wedi dod i’r brig, sef datblygiad ffurf dreigledig ar y rhagenw dibynnol dwbl tydi ydyw. Sonnir am th’di gan John Morris-Jones:

(3) The forms my fy, tydi sometimes lose their unaccented y after a, na or no, giving a m’fi, a th’di, etc.; as megys ys ymydawssam a’th ti ‘as we forsook thee’.

                                    (Morris-Jones, 1913)

Llwyddais i ddod o hyd i’r enghreifftiau canlynol ar-lein:


Wedi’r cwbwl, be ydi’r gwhaniaeth rhyngot ti a fine? Nid fod th’di yn gyfalu dim mwy na fine

(Rees, 1853)

           A phe cyttunwn i a th’di i fyn’d yn wr a gwraig yn fuan,

I fyn’d yn wr a gwraig yn fuan

Deio’r Gwas a Betti’r Waen (Jones, 1902)


Cael cywasgu â’th di

Na chyweth brenhinieth, gwen eneth, gen i!

Moliant Merch gan Huw Morris (Mair, 2002)

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, trodd y ffrithiolen ddeintiol ddi-lais [θ]—a achosir gan y cysylltair a—yn ffrithiolen wfwlar ddi-lais [χ]:

a thydi > a th’di > th’di > chdi

Er bod y clwm cytseiniol [θd] yn eithaf prin yn y Gymraeg, fe’i ceir yn y ffurf dafodieithol obythdu (“about”) yn y De-ddwyrain. Os derbynnir y ddadl mai o o boptu y daw y gair hwn, rhaid derbyn y newid canlynol hefyd:

          [p] > [f] > [θ]

Yn hyn o beth, hwyrach mai da o beth fyddai troi at iaith Geltaidd arall, sef Gaeleg yr Alban, lle ceir enghreifftiau o <th> yn y ffurf ysgrifenedig, sy’n cael eu hynagau fel [ç, x]:

ithe ([içə]) (“bwyta”), gu bràth ([gʉ braːx]) (“am byth”).

Daw ithe o’r Hen Wyddeleg ithid, o’r Proto-Gelteg *essi, o’r PIE *h₁ed-[1], ac mae sillafiad y gair modern yn adlewyrchu’r ynganiad hanesyddol, sy’n rhoi’r newid:

          [θ] > [ç, x]

sy’n debyg iawn i’r hyn y credir iddo ddigwydd yn achos datblygiad chdi.

Mae tarddiad posib arall i chdi sy’n ymwneud â’r modd dibynnol. Dyma baradeim y dibynnol fformwlaïg:


Un.
1. bwyf (i)       
2. bych (di)       
3. bo (ef/hi)        

Llu.
1. bôm (ni)
2. boch (chi)
3. bônt (hwy)

Sylwer bod ffurf yr 2 bers. un. yn gorffen ag <ch>, a bod y rhagenw ategol cysylltiedig yn dechrau â <d>. Mae rhai’n credu mai dyna darddiad chdi. ond, i mi, mae dwy brif ddadl yn erbyn yr hypothesis hon:

1. Fel yr awgryma’r gair ‘fformwlaïg’, nid yw’r ffurfiau hyn yn gynhyrchiol yn yr iaith lafar bellach. Fe’u ceir mewn diarhebion, gwirebau ac ymbilion, ac fe’u cyfyngir i’r 3 pers. un. yn unig, e.e. Duw cato pawb! (“God save us all!”)

2. 2. Ffurf ferfol yw bych di. Ni wn am yr un mecanwaith a fyddai’n ei throi’n rhagenw annibynnol.

Mae’n arwyddocal hefyd mai dim ond yn nhafodieithoedd y Gogledd y digwydd chdi; ti a geir ym mhob rhan arall o Gymru.

A chymryd y dadleuon uchod i ystyriaeth, ar gydbwysedd tebygolrwydd, rwy’n tueddu i ffafrio’r ddadl mai o a thydi y daw chdi. Da gennyf ddweud i’r casgliad hwn gael ei gadarnhau gan ymchwil ieithyddol o’r radd flaenaf (Willis, 2015). Nodir enghraifft o chdi yn Yr Amserau, dyddiedig 24 Chwefror, 1848:

Bob bach, cerdd i’r society da chdi....

Cyfeirnodau

Jones, T. (1902). Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill. Cambridge, Massachusetts: Prifysgol Havard.

Mair, B. (2002). Hoff Gerddi Serch Cymru. Llandysul: Gwasg Gomer.

Morris-Jones, J. (1913). A Welsh Grammar, Hhistorical and Comparative. Rhydychen: Clarendon.

Rees, W. (1853). Aelwyd f'Ewythr Robert neu Hanes Caban f'Ewythr Tomos. Cambridge, Massachusetts: Prifysgol Havard.

Willis, D. (2015, 12 21). Apollo - University of Cambridge Repository. Adferwyd o Investigating geospatial models of the diffusion of morphosyntactic innovations: The Welsh strong second-person singular pronoun chdi: https://www.repository.cam.ac.uk/items/e343c202-e4c6-4976-accc-8b14755ad744



[1]   Dyma hefyd darddiad y gair eat yn Saesneg.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.