Mewn ‘papur’ diweddar, edrychais i mewn i’r
tebygrwydd honedig rhwng Euskara (“Basgeg”) ac Armeneg. Ystyrir y naill yn
iaith ynysedig (“language isolate”) a’r llall yn aelod o’r teulu Indo-Ewropeg
Mewn ieithoedd a chanddynt aliniad enwol-gwrthrychol, mae goddrych berf gyflawn (“intransitive verb”) yn
gweithredu’n wahanol i wrthrych uniongyrchol berf anghyflawn (“transitive verb”)
1. She walks. (goddrych berf gyflawn)
2. I saw her. (gwrthrych berf anghyflawn)
She yw’r ffurf oddrychol tra mai her yw’r ffurf wrthrychol.
Fodd bynnag, mewn ieithoedd a chanddynt aliniad gweithredus-dirfodus, mae goddrych berf gyflawn yn gweithredu fel gwrthrych uniongyrchol berf anghyflawn.
Ceir yr aliniad hwn mewn ieithoedd gweithredus fel y Fasgeg
Martin heldu da. (“Mae Martin wedi
cyrraeddd.”)
Martin yw’r goddrych. Yn y Fasgeg, ‑ek yw’r furfdroad yn y cyflwr gweithredus, fel yn y frawddeg:
Martinek Diego ikusi du. (“Mae Martin wedi gweld Diego.”)
Ond sylwer fod ffurf y goddrych yn y frawddeg gyntaf yr un peth a’r gwrthrych yn yr ail un.
Cyfeirnodau
Albizu, P.
(2002). Basque verbal morphology: Redefining cases. pp.1-19. Anuario del
Seminario de Filología Vasca Julio de Urquijo, tt. 1-19.
Brake, P. (2023, 11 12). A yw Armeneg a Basgeg yn
ieithoedd Indo-Ewropeg? Adferwyd o Gramadeg y Gymraeg - yn bennaf....:
https://gramadegygymraeg.blogspot.com/2023/11/a-yw-armeneg-basgeg-yn-ieithoedd-indo.html
Wikipedia. (2024, 4 21). Ergative–absolutive alignment.
Adferwyd o Wikipedia:
https://en.wikipedia.org/wiki/Ergative%E2%80%93absolutive_alignment

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.