Monday, 17 June 2024

Treiglo benthyceiriau diweddar sy’n dechrau ag < g >

 


Nid yw benthyceiriau (diweddar) o’r Saesneg sy’n dechrau ag <g> yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod nac ar ôl yn traethiadol chwaith. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru (Prifysgol Cymru, 2024) yn nodi:

 

....ni threiglir t, giât byth yn feddal, e.e. yr Hen Gât

 

Ceir trafodaeth am hyn Y Treigladau a’u Cystrawen (Morgan, 1952). Dyma ychydig enghreifftiau, gan ddefnyddio terminoleg GPC:


Enw

Cenedl

Enghraifft

gât

eb.

y gât lydan

gêm

egb.

y gêm fawr

gini

egb.

dau gini

gitâr

eb.

y gitâr fas

gôl

eb.

y gôl dyngedfennol

golff

eg.

y bêl golff

grŵp

eg.

Mae’n grŵp mawr.

 

Fodd bynnag, mae'r <g> yma yn treiglo’n drwynol:

 
fy ngât
fy ngini
yng ngêm y Gweilch
yng ngrŵp Cymru


Yn draddodiadol, esbonir y penderfyniad dros beidio â threiglo ‘gêm’ ar ôl y fannod fel ymgais i wahaniaethu rhyngddo a gem (“jewel”):

 

y ddwy gêm; ond y ddwy em.


Cyfeirnodau

Morgan, T. (1952). Y Treigladau a'u Cystrawen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Prifysgol Cymru. (2024). Geiriadur Prifysgol Cymru. Adferwyd 6 17, 2024 o Geiriadur Prifysgol Cymru: https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gat


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.