Thursday, 8 August 2024

Pam nad oes rhagenw ategol ar ôl y berfenw mewn cwestiynau fel “Beth wyt ti’n ei feddwl o...?”

  

 Yma trafodir Cymraeg llafar ysgrifenedig.

Cystrawen enidol berfenwau

Yn achos berfau rhediadol syml’, rhagenwau annibynnol syn gweithredu fel y gwrthrych:

         Gwelais i ti (cyf.), fe, hi, chi, nhw. (“I saw you, him, you, them.”)

Fodd bynnag, golyga’r defnydd o ferfenwau (“verbal nouns”) yn y gystrawen gwmpasog fod angen defnyddio rhagenwau blaen meddiannol yn lle rhagenwau annibynnol  (Williams, 1980), (Lewis, 2018). Ystyrier y frawddeg ganlynol:


Dw i’n gweld Siôn. (“I am seeing Siôn.”)

Yma ymadrodd genidol yw gweld Siôn. Os cyfnewidir Siôn â rhagenw, ceir:

Dw i’n ei weld. (“I am seeing him.”) (lit. “I am his seeing.”)

Y defnydd o ragenwau ategol ar lafar

Mewn Cymraeg llafar, fel arfer, dilynir yr berfenw gan ragenw ategol, sef e yn yr enghraifft dan sylw.

 Dw i’n ei weld e.

 Gall hyn arwain at y rhagenw blaen yn diflannu’n llwyr, cf.

 yn tŷ ni (“in our house”)

Ond, os yw’r rhagenw blaen yn achosi treiglad, mae’r treiglad yn aros:[1]


Dw i’n weld e. (“I am seeing him/it.”)

Maen nhw’n chanu hi. (“They are singing it.”)


Pam nad oes rhagenw ategol ar ôl y berfenw mewn cwestiynau fel “Beth wyt ti’n ei feddwl o...?”

Tybed a oes a wnelo’r ffaith na chaniateir rhagenwau ategol mewn cwestiynau fel:


Beth wyt ti’n (ei) feddwl o...?

Beth mae e’n (ei) wneud?

â’r gwahaniaeth rhwng berfau cyflawn (“intransitive”) a rhai anghyflawn (“transitive”)? Berf gyflawn yw berf sydd ddim yn cymryd gwrthrych uniongyrchol, tra bo berf anghyflawn yn cymryd gwrthrych. Mae gweld a canu yn enghreifftiau o ferfau anghyflawn, tra bo meddwl yn enghraifft o ferf gyflawn. Ac eto, weithiau mae’r un ferf yn gallu bod yn gyflawn neu’n anghyflawn, e.g. fel arfer mae rhedeg yn cael ei ystyried yn ferf gyflawn:


Dw i’n rhedeg bob bore.

Ond, erbyn hyn. mae’n gallu cymryd gwrthrych uniongyrchol hefyd:


Dw i’n rhedeg Marathon Llundain bob blwyddyn.


Y goddefol

Diddorol nodi na chaniateir rhagenwau ategol ar ôl berfenwau yn y gystrawen oddefol:

 Cafodd e ei eni yng Nghaerdydd.

*Cafodd e ei eni e yng Nghaerdydd.[2]

Crybwyllir hyn yn fras yn Gramadeg y Gymraeg (Thomas, 1996) wrth drafod y gwahaniaeth rhwng yr amhersonol a’r goddefol. Mae cyfyngiadau ar y defnydd o’r goddefol; ni chaniateir ei ddefnydd gyda berfau cyflawn. Dyma’r enghreifftiau a roir yn GyG:


math o ferf

enghraifft

gweithredol

Siaradodd y myfyrwyr Esperanto drwy’r dydd.

goddefol

*Cafodd Esperanto ei siarad drwy’r dydd gan y myfyrwyr.

amhersonol

Siaradwyd Esperanto drwy’r dydd gan y myfyrwyr.


Ystyr  hyn yw na chaniateir y defnydd o’r goddefol gyda berfenwau a ddilynir gan arddodiaid. Dyma rai enghreifftiau:

 

math o ferf

enghraifft

amhersonol

Aethpwyd â Siôn i’r ysbyty mewn ambiwlans.

goddefol

*Cafodd Siôn ei fynd ag e i’r ysbyty mewn ambiwlans.

amhersonol

Gofynnwyd imi am gyfraniad.

goddefol

*Ces i fy ngofyn am gyfraniad.

amhersonol

Galwyd ar Eirlys i siarad.

goddefol

*Cafodd Eirlys ei galw arni hi i siarad.


Casgliadau

Ni chaniateir y defnydd o ferfau cyflawn yn y goddefol. Tybed ai estyniad o’r rheol honno sy’n cyfrif am am beidio â chaniatáu’r defnydd o ragenwau ategol mewn cwestiynau fel


Beth wyt ti’n ei wneud?

yn ogystal? Cofiwch, yn aml iawn, mai talfyriad o:


Beth wyt ti’n ei wneud ag e/hi/nhw?

ydyw yn llawn, cf.

 Beth rwyt ti’n ei feddwl (o....)? 

 

Cyfeirnodau

Lewis, D.G. (2018) D.I.Y. Welsh, Llandysul: Gwasg Gomer.

Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg, 2il arg., Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

====

 [1] Wrth ysgrifennu, dylid cynnwys y rhagenw blaen:

Dw i’n ei weld e.

Dw i’n ei chario hi.

 [2] Mae * yn golygu patrwm ‘amhosib’.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.