Friday, 16 August 2024

Ansoddeiriau enwol

 

Enwau ansoddeiriol yw enwau (“nouns”) sy’n gweithredu fel ansoddeiriau wrth oleddfu enw arall. Ar y cyfan, maen nhw’n gweithredu fel ansoddeiriau o’r iawn ryw, ac yn treiglo’n feddal ar ôl enwau benywaidd unigol: 

modrwy briodas, rhaglen ddogfen, rhaglen ddysgu, siop bapurau, siop fara, siop farbwr, siop lyfrau, tafarn goffi, ysgol fonedd, ystafell ddysgu

Eithriadau: siop cigydd, siop doctor[1]

 Os ymadrodd genidol yw’r goleddfydd, nis treiglir, hyd yn oed ar ôl enw benywaidd:

         system cynghori ffermwyr, system cynnal bywyd, system rheoli dogfennau[2]

 Gall ymadrodd enwol yntau fod yn rhan o ymadrodd genidol:

         Gŵyl Erddi ǁ Glynebwy

Dengys y treiglad meddwl mai goleddfu gŵyl yw swyddogaeth gerddi yma, ac nid gŵyl yn ymwneud â gerddi Glynebwy yn benodol mohoni!

Gwelir y patrwm hwn yn glir yn y teitl canlynol lle mae’r ymadrodd genidol, dysgu Cymraeg, yn goleddfu’r ymadrodd enwol Y Ganolfan Genedlaethol:

 

Y Ganolfan ǁ Dysgu Cymraeg ǁ Genedlaethol

Ceir trafodaeth drylwyr o’r hyn a elwir yn ymadroddion enwol dibynnol yn Gramadeg y Gymraeg (§§ 4.216-4.219)



[1] O Geiriadur Prifysgol Cymru y daw’r enghreifftiau hyn.

[2] O’r wefan BydTermCymru.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.