Hywel Dda
Dau ymadrodd enwol olynol sy’n rhoi gwybodaeth am yr un person, neu am
yr un peth, yw ymadrodd enwol cyfosodol. Yn y Gymraeg, dangosir y berthynas
gyfosodol drwy dreiglo’r ail ymadrodd enwol yn feddal. Yn Gramadeg y Gymraeg
1. Y mesurau amhenodol digon, llawer a llu ar ôl enwau lluosog neu enwau torfol, e.e.
gwin lawer, llyfrau lawer, llongau lu, rhaglenni ddigon, siocled ddigon
brenhinoedd dri, llongyfarchion fil
3. Enwau ac ansoddeiriau ar ôl enw priod gwrywaidd unigol. Cyfleu un o nodweddion diffiniol yr elfen gyntaf y bydd yr ail. Yn Gramadeg y Gymraeg, rhennir y cyd-destunau hyn yn bedwar math:
i.) Mewn cyd-destunau crefyddol, e.e.
yr Arglwydd Dduw, Dafydd Frenin, Duw Dad, Herod Frenin, Iesu Grist, Ioan Fedyddiwr
ii.) Gydag enwau sy’n dynodi galwedigaeth, e.e.
Ieuan Fardd, Rhys Brydydd Dafydd Fychan, Hywel Dda, Ieuan Brydydd Hir, Iolo Goch, Llywelyn Bren
iii.) Enwau a rhagenwolion ar ôl ffurfiau personol berfau, e.e.
Fi fawr, Trugarha wrthyf, bechadur, Yr ydym bawb yn gytûn
Ni allaf lai na chanmol y dadansoddiad cynhwyfawr hwn. Fodd bynnag, mae gennyf un cwestiwn sylfaenol. Yn 3ii uchod, ansoddair sy’n dilyn y pen yw’r rhan fwyaf o’r enghreifftiau, nid ymadrodd enwol arall. Tybed felly ai ymdebygu i ymadrodd enwol cyfosodol sy’n digwydd yma? Cofier fod yna eithriadau nodedig i’r ‘rheol’ hon:
Owain Glyndŵr, Paul gwas Duw, Owain Gwynedd
Awgrymir mai’r rheswm am y
diffyg treiglo yn yr enghreifftiau hyn yw fod y berthynas rhwng yr enw priod a’r
enw cyffredin yn llacio pan fydd enw genidol yn dilyn
Gellir lawrlwytho'r PDF yma.
Llyfryddiaeth
Morgan,
T. J. (1952). Y Treigladau a'u Cystrawen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.