Thursday, 29 August 2024

Etymoleg ‘about’ ac ‘obeutu’

 

Ar yr olwg gyntaf, mae fersiynau tafodieithoedd Cymraeg y De o’r cysylltair obeutu, yn swnio’n debyg iawn i’r Saesneg about. Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn? Dyma etymoleg y ddau air hyn:

Etymoleg ‘about’

Ceir yr etymoleg ganlynol yn Wiktionary:


Preposition and adverb from Middle English aboute, abouten, from Old English abūtan, onbūtan, from on (“in, on”) +‎ būtan (“outside of”), itself from be (“by”) +‎ ūtan (“outside”). Cognate with Old Frisian abûta (“outside; except”).

 (https://en.wiktionary.org/wiki/about)

Etymoleg ‘obeutu’

Ceir yr etymoleg ganlynol yn Wiktionary:

From o (“of, from”) +‎ peutu (“every side”); the second element is related to the historical pronoun beu- (“every”) (as in beunydd (“everyday”), Breton bemdez (“every day”); see pob (“each, every”)). 

(https://en.wiktionary.org/wiki/obeutu)

Mae’r awdur yr etymoleg yn Wiktionary, yn awgrymu’n gryf i obeutu gael ei ddylanwadu’n gan y gair Saesneg about. Nid wyf fi’n sicr o hynny, ond mae’r ffurfiau llafar yn swnio’n debyg iawn i’r gair Saesneg dan sylw:


De-orllewin Cymru

[oˈbʊɪti]/[oˈbɪti]/[ɐmˈbʊɪti]/[ɐmˈbɪti]

 

De-ddwyrain Cymru

[oˈbəθdi]/[oˈbɔθdi]/[ɐmˈbəθdi]/[ɐmˈbɔθdi]

Ceir hyn yn Geiriadur Prifysgol Cymru:

Ar lafar yng Nghered. a’r De mewn nifer o ff. megis obithdu, obothdu, obythdu, oboutu, ymboutu, (o)butu, bwtu, bytu; ‘obutu filltir’, ‘cerdded oboutu’, ‘Ma’r bwyd bytu bod yn barod’.”

(https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?beutu)

Sut y trodd ‘obeutu’ yn [oˈbɔθdi]?

Mae’r cam rhwng obeutu ac [oˈbʊɪti]/[oˈbɪti] yn golygu newid llafarog yn unig. Ond beth am [oˈbəθdi]/[oˈbɔθdi], ac wedyn, [ɐmˈbəθdi]/[ɐmˈbɔθdi] ac [ɐmˈbʊɪti]/[ɐmˈbɪti]? Rydym yn gwybod y gall [θ] droi’n [χ] fel yn natblygiad chdi:

 a thydi > a th’di > th’di > chdi (Willis, 2015)

Ond beth am [θ] yn tyfu o flaen [t]? Tybed ai’r un mecanwaith sydd ar waith yma ag sy’n achosi rhaganadlu (“preaspiration”) yng Ngaeleg yr Alban mewn geiriau fel cat ([kaʰt]) (“cath”) a mac ([maʰk]) (“mab”)?

 [o'bəɪti] > [o'bəʰti] > [o'bəχdi] > [o'bəθdi]

Yn ôl y dadansoddiad hwn, byddai’r ffrithiolen wfwlar ddi-lais [χ] yn troi’n ffrithiolen ddeintiol ddi-lais [θ] dan ddylanwad y ffrwydrolyn deintiol/gorfannol dilynol.

Sut bynnag y bu i [am'bəθdi]/[o'bəθdi] ddatblygu o obeutu, credaf ei fod yn ddigon gwahanol i’r gair Saesneg about i wrthod y ddamcaniaeth iddo gael dylanwad ar y gair Cymraeg, ac mai achos o gydgyfeirio damweiniol (“accidental convergence”) ydyw, cf. nawr/now.

Cyfeirnodau

Willis, D. (2015, 12 21). Apollo - University of Cambridge Repository. Adferwyd o Investigating geospatial models of the diffusion of morphosyntactic innovations: The Welsh strong second-person singular pronoun chdi: https://www.repository.cam.ac.uk/items/e343c202-e4c6-4976-accc-8b14755ad744

 

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.