Ar yr olwg gyntaf, mae’r enw priod Cymraeg, Rhodri,
yn swnio’n debyg iawn i’r Sbaeneg Rodrigo[1], ynghyd â’i darddair, Rodriguez
(“mab i Rodrigo”). Yr hyn a’m symbylodd i feddwl am y cysylltiad yw llysenw
chwaraewr pêl-droed o Sbaen, sy’n chwarae i Glwb Pêl-droed Dinas Manceinion, Rodri,
sy’n swnio hyd yn oed yn fwy tebyg i Rhodri. Dyma etymolegau’r ddau air
dan sylw:
Rhodri
rhod: o’r Proto-Frythoneg *rrod, o’r Proto-Gelteg *rotos, o’r PIE *Hreth2-.
rhi: o’r Cymraeg Canol a’r Hen Gymraeg ri, o’r Proto-Frythoneg *rriɣ, o’r Proto-Gelteg *rīxs, o’r PIE *h3regs.
Rodrigo
*hrōþiz: o’r Cyn-Germaneg *kréh2tis or *kréh3tis, o’r PIE *kreH- (“galw, llefain”).
*rīks: benthycair o’r Proto-Gelteg *rīxs, o’r PIE *h3re᷄gs, cf. y gair Almaeneg cyfoes, Reich (“ymerodraeth”).
Felly, er yr ymddengys mai cydgyfeirio (“convergence”) sy’n gyfrifol am y tebygrwydd rhwng elfennau cyntaf Rhodri a Rodrigo, mae’r ail elfen yn y ddau enw’n gytras y gellir eu holrhain yn ôl i famiaith yr ieithoedd Celtaidd, sef Proto-Gelteg.
[1] Rhaid
imi gyfaddef fy mod i’n dwlu ar Concierto de Aranjuez a ysgrifennwyd gan
Joaquin Rodrigo yn 1939.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.