Wednesday, 9 October 2024

Hanes yr ieithoedd Celteg Ynysol

 


Mae’r ieithoedd Brythoneg cyfoes yn swnio mor wahanol i’w cymheiriaid Goedeleg, roeddwn i dan yr argraff eu bod nhw wedi eu gwahanu ymhell cyn y goresgyniad Rhufeinig. Ond, wrth imi ddysgu Gaeleg yr Alban, fe’m synnwyd gan nifer y geiriau cytras rhwng yr Aeleg a’r Gymraeg. Wrth imi ddysgu Gaeleg, rwy’n ceisio gwneud rhestr ohonynt, ac mae 332 o eitemau arni hi erbyn hyn!

Yn aml iawn, defnyddir y termau ‘Celteg P’ a ‘Celteg  Q’ fel arf ddiagnostig i wahaniaethu rhwng yr ieithoedd Celteg (a’r rhai Italeg a Heleneg). Yr wyf wedi cael fy ngheryddu am ddefnyddio’r termau hynny yng nghyswllt yr ieithoedd Brythoneg a Goedeleg. Ni ddeellais pam, gan fy mod i dan yr argraff i Broto-Gelteg gadw *kʷ Proto-Indo-Ewropeg (PIE), ac felly, yn fy meddwl i, rhaid bod ieithoedd Celteg sydd wedi cadw *kʷ yn ‘hŷn’ na’r rhai lle troes *kʷ yn p. Ymddengys hefyd fod yr ieithoedd Celteg a gadwodd *kʷ yn rhai gorllewinol iawn fel yr Wyddeleg a Cheltibereg, sydd, i mi o leiaf, yn awgrymu mai’r arfordir gorllewinol Môr yr Iwerydd yw man geni’r Gelteg (Koch, Celtic from the West, 2013).

Fodd bynnag, yr wyf newydd ddarllen llyfr diddorol gan Peter Schrijver sy’n dadlau fod yr Wyddeleg yn deillio o’r hyn a elwir yn ‘British Celtic’ ganddo, ac y gellir dyddio’r ymwahanu i ddyddiad nad yw’n gynharach na 100 cog (Schrijver, 2013). Mae eraill yn dadlau o blaid dyddio'r ymwahanu i oddeutu dechrau’r Oes Neolithig, yn fuan ar ôl 4000 cog (Renfrew, 1987) ac mae eraill wedi cyflwyno dadleuon o blaid Oes yr Efydd, yn ystod y ddeuddegfed ganrif cog (Koch, Ériu, Alba, and Letha: When was a language ancestral to Gaelic first spoken in Ireland?, 1991). Yn sgil y darganfyddiadau diweddaraf ym meysydd archaeoleg, geneteg a phylogeneteg. Er enghraifft, mae astudiaeth ddiweddar yn awgrymu y bu mudo i Iwerddon yn ystod Oes yr Efydd gan bobl a chanddynt linach o’r Paith Pontig-Caspaidd, oedd yn fwy na thebyg, yn siarad iaith Indo-Ewropeg; dyddiwyd llinach y ddau unigolyn o Ynys Rathlin o linach o’r Paith Pontig-Caspaidd i 2026–1534 cog (Cassidy, 2016). Ac eto, mae astudiaeth phylogeneteg gynhwysfawr diweddar yn honni fod canghennau’r teulu Indo-Ewropeg yn llawer hŷn nag y tybiwyd ynghynt (Heggarty, 2023). Bid hynny fel y bo, ceisiaf grynhoi dadleuon Schrijver o blaid datblygiad ‘diweddar’ yr Wyddeleg:

1. Yr iaith gytras agosaf i’r Wyddeleg (gan ddiystyrru’r ieithoedd Goedeleg eraill) yw’r hyn a elwir yn ‘Highland British Celtic’ gan Schrijver, sef mamiaith y Gymraeg, y Llydaweg a’r Gernyweg.

2. Cododd bron pob un o’r gwahaniaethau rhwng yr Wyddeleg a ‘Highland British Celtic’ o fewn cyfnod cymharol fyr rhwng y bumed a’r seithfed ganrif og, pan effeithiodd llu o newidiadau sain ar y ddwy iaith.

3. Yn ystod y cyfnod Rhufeinig, mae Schrijver yn dadlau fod y Gelteg a siaredid yn Iwerddon a’r Gelteg a siaredid ym Mhrydain mor debyg fel na châi siaradwyr Celteg y naill ochr i Fôr Iwerddon fawr o anhawster i ddeall iaith ei gilydd.

4. Yn ôl Schrijver, yr unig eithriad posib yw datblygiad Proto-Gelteg *kʷ yn ‘British Celtic’ p, tra cadwai’r Wyddeleg  tan o leiaf y bumed ganrif og, ac yna’n ei droi’n /k/ (wedi ei sillafu fel <c>).

5. Gan fod ‘British Celtic’ a Gwyddeleg yn union yr un fath ym mhob ffordd arall, mae’r labeli Celteg P a Celteg Q yn rhai diagnostig yn unig, sy’n eu gwneud nhw bron yn ddiwerth, yn ôl Schrijver. Ar ben hynny, Celteg P yw Galeg yn bennaf, ond ceir geiriau Galeg sy’n awgrymu fod tafodieithoedd Celteg Q yn bodoli oddi mewn iddi hi (e.e. eqos ‘horse’ yng Nghalendr Coligny a’r enw afon Sequana ‘Seine’).

Dyma grynoneb o’r hyn a all fod wedi digwydd, yn ôl Schrijver:

1. The first linguistic evidence for the presence of Celtic in Ireland dates from as late as the second century AD (Ptolemy’s map of Ireland): while Irish may have arrived much earlier, there is no reason to believe that it actually did. British Celtic and Irish are so closely related to one another that their common ancestor must have been spoken as recently as the first century AD; this cannot be squared with a much earlier arrival of Irish in Ireland.

2. Similar developments in British Celtic suggest that the rapid and deep sound changes that affected Irish between approximately 400 and 600 can be explained by a language switch to Celtic by an originally non-Irish population; this recent switch suggests that the spread of Irish in Ireland is a recent event.

3. The evidence that a pre-Irish, possibly non-Indo-European language survived in Ireland until at least the sixth century AD but subsequently disappeared from the radar during the Old and Middle Irish periods (600–1200) suggests that the language was in the course of disappearing by the early medieval period; this implies a contemporary switch of its speakers to Irish, which in turn suggests that the spread of Irish in Ireland is a recent event.

4. The absence of any dialectal differences in Irish that predate the Old Irish period shows that Old Irish is Proto-Irish; this strongly suggests that Old Irish resulted from a recent spread. (Schrijver, 2013)

Dyma grynodeb o’m dehongliad i o ddadleuon Schrijver:

1. Cyn oddeutu 100 og, roedd ‘British Celtic’ ac ‘Irish Celtic’ yn gyd-ddealladwy, ac, i bob pwrpas, yr un iaith oeddynt.

2. Ymddengys i griw sylweddol o siaradwyr ‘British Celtic’ fudo i Iwerddon yn dilyn y rhyfel rhwng y Rhufeiniaid a’r Brigantes yng ngogledd Lloegr a allai fod wedi cyflwyno’r Wyddeleg i Iwerddon.

3. Ryw ffordd, rywsut, mabwysiadwyd ‘British Celtic’ gan boblogaeth frodorol Iwerddon. Ond cafodd iaith y bobl hynny ddylanwad fawr ar y ffordd y bu i’r Wyddeleg ddatblygu, gan gynnwys yr holl newidiadau sain, rhwng oddeutu 200 a 700 og. Os iaith Gelteg P oedd ‘British Celtic’ ar y pryd, rhaid bod y newidiadau hyn yn cynnwys *p > .

4. Yn y cyfamser, Ym Mhrydain, ar ddiwedd y meddiant Rhufeinig, mudodd niferoedd digonol o siaradwyr ‘British Latin’ i mewn i ardaloedd gorllewinol lle y siaredid ‘Highland British Celtic’, gan fabwysiadu’r iaith Geltaidd honno, a chan ddod â llawer o nodweddion ‘British Latin’ gyda nhw. Y canlyniad fu mabwysiadu llawer o newidiadau sain a geiregol gan ‘Highland British Celtic’, a droes, yn nhreigl amser (rhwng oddeutu 400-700 og), yn Gymraeg, Llydaweg a Chernyweg.

5. Mae Schrijver hefyd yn awgrymu y gallai’r umlaut a ddatblygasai mewn Hen Saesneg fod yn is-haen Celteg, gan ei gymharu â’r taflodoli (“palatization”) a ddatblygasai yn yr Wyddeleg. Ond, cyfeddyf mai’r unig ffordd y gallai hynny fod wedi digwydd yw os mai ‘Lowland British Celtic’ oedd yr iaith is-haenol, ac mai honno oedd hefyd yn sail i’r Wyddeleg.

Fel tafodieithegydd sy’n astudio iaith yn syncronig, mae gennyf sawl gwestiwn i’w gofyn ynglŷn â dadleuon Schijver:

1. Ysgrifennwyd y llyfr dan sylw, sef Language Contact and the Origins of the Germanic Languages, yn 2013. Yn sgil yr holl ddatblygiadau ym meysydd archaeoleg, geneteg a phylogeneteg sydd wedi digwydd ers hynny, a yw'r awdur wedi newid ei feddwl?

2. Er gwaethaf yr holl eiriau cytras rhwng, dyweder, yr Wyddeleg â’r Gymraeg, maen nhw’n ddwy iaith gwbl anghyd-ddealladwy erbyn hyn. Anodd iawn credu i’r broses o ymwahanu ddigwydd mewn cyfnod mor fyr â 300 mlynedd (400-700 og).

3. Tarddiad yr haplo-grŵp Y-DNA R1b yw’r Paith Pontig-Caspaidd, ac fe’i cysylltir â’r Yamnaya y cydnabyddir eu bod nhw wedi dod â Phroto-Indo-Ewropeg (PIE) i orllewin Ewrop (Hay, 2023). Heddiw, yng ngorllewin Ewrop y ceir y canrannau uchaf o R1b, yn enwedig yn y gwledydd hynny lle y delir i siarad ieithoedd Celtaidd. Mae tystiolaeth aDNA yn dangos i’r haplo-grŵp dan sylw gyrraedd Iwerddon yn ystod Oes yr Efydd. Felly, mae’n dra phosib fod iaith Indo-Ewropeg yn cael ei siarad ar yr Ynys Werdd mor gynnar â 2300 cog (Cassidy, 2016).

4. Cydnabyddir i Broto-Gelteg gadw PIE *kʷ, a sylweddolir gan /k/ mewn Gwyddeleg cyfoes. Fe’i cedwir hefyd yn ieithoedd Celteg Iberia. Ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel petai’n nodwedd weddilliol (“vistigial feature”) sy’n cyd-fynd â’r ddamcaniaeth ‘Celtic from the West’. Nid wyf yn cytuno mai nodwedd ‘trivial’ mohoni. A yw’n bosib mai iaith Celteg Q a siaredid ar Ynys Prydain ac Iwerddon nes i fewnfudiad o ogledd Ffrainc yn ystod Oes yr Haearn (Wikipedia, Genetic history of the British Isles, 2023) newid yr ynganiad i *p?

5. Mae David Stifter wedi  tynnu sylw at nifer fawr o wahaniaethau morffoffonolegol a chystrawennol rhwng yr ieithoedd Celteg Ynysol (CY) a Chelteg Cyfandirol (CC), sydd wedi dod ag ef i’r casgliad mai in situ y bu i’r ieithoedd Celteg Ynysol ddatblygu, a bod yna wahaniaethau sylfaenol rhyngddynt (Stifter, 2012). Ond rhaid cofio am y bwlch amser rhwng tystiolaeth ardystiedig yr ieithoedd CC a’r rhai CY, ynghyd â natur fratiog tystiolaeth yr ieithoedd CC. Er enghraifft, mae enwau lleoedd fel Hallein a Hallstadt yn dangos i’r newid s > h ddigwydd ar y cyfandir yn ogystal ag mewn ‘British Celtic’.

6. Tybed ai agosrwydd daearyddol, ynghyd â’r rhyngweithio cymdeithasol, crefyddol a masnachol a fodolai rhwng siaradwyr ‘British Celtic’ ac ‘Irish Celtic’ sa allai fod yn rhannol gyfrifol am y tebygrwydd rhwng geirfaoedd a phatrymau gramadegol rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg?

7. Yn ôl Tacitus (Wikipedia, Celts, 2023), yn ei fywgraffiad o’r ymeradwr Agricola, roedd gan y Silures, a drigai yn Ne Cymru, wedd dywyll a gwallt cyrliog. Yn anffodus, nid yw’n sôn am eu hiaith. Fodd bynnag, oherwydd eu pryd a’u gwedd, (Wikipedia, 2024) siaredid yng ngogledd a gorllewin penrhyn Iberia ar y pryd. Ai cyd-ddigwyddiad yn unig yw hwn?

8. A yw’r tebygrwydd rhwng cystrawen gwmpasog y Gymraeg a’r Wyddeleg (ac yn fwy byth â Gaeleg yr Alban), ynghyd â’r holl fenthyceiriau, yn awgrymu is-haen ‘Irish Celtic’ yn y Gymraeg?

Casgliadau

Fel rhywun sy’n ymddiddori mewn sut y mae iaith yn gweithio’n gymdeithasol ac yn ddaearyddol, yr wyf wedi amau mai creoliaith yw’r Gymraeg erioed. Dyma yw’r diffiniad cydnabyddedig o ‘creoliaith’:

A creole language, or simply creole, is a stable natural language that develops from the process of different languages simplifying and mixing into a new form (often a pidgin), and then that form expanding and elaborating into a full-fledged language with native speakers, all within a fairly brief period. (Wikipedia, 2024)


Er nad oes gennym braidd dim enghreifftiau o ‘British Celtic’ (ac nad ydym yn sicr ai ‘British Celtic’ yw’r ‘Bath Curse Tablets’ beth bynnag  (Wikipedia, 2024)), deellir iddi di gael ei symleiddio gryn dipyn ar ei ffordd i droi’n Gymraeg. Yn ogystal, wrth greu creoliaith, ceir shifft iaith o iaith statws isel i gyfeiriad iaith statws uchel. Os dyna a ddigwyddodd yn achos y Gymraeg beth oedd yr iaith statws isel? Does dim ffordd profi hyn, ond yr wyf fi o’r farn mai iaith Gelteg Q ydoedd, a digwyddodd y newidiadau sain a gyfeiriwyd atynt gan Schrijver o ganlyniad i:

1. siaradwyr ‘British Latin’ yn troi at ‘British Celtic’, gan gynnwys y llywodraethwyr Romano-Frythonig; ac i

2. ddigon ohonynt yn mudo i’r ardaloedd ‘British Celtic’ i achosi shifft ieithyddol i gyfeiriad y Gymraeg.

Gallai’r ddwy ffactor hyn esbonio sut y bu i ‘British Celtic’ droi’n Gymraeg, tra parhâi ‘Irish Celtic’ i ddatblygu’n wahanol, yn enwedig o ran newidiadau sain.


Gellir lawrlwythor PDF yma.

Cyfeirnodau

Cassidy, L. M. (2016). Neolithic and Bronze Age migration to Ireland and establishment of the insular Atlantic genome. Proceedings of the National Academy of Sciences, 113(2), 368-373.

Hay, M. (2023, Gorffennaf). Haplogroup R1b (Y-DNA). Adferwyd 10 09, 2024 o Eupedia: https://www.eupedia.com/europe/Haplogroup_R1b_Y-DNA.shtml

Heggarty, P. (2023). Language trees with sampled ancestors support a hybrid model for the origin of Indo-European languages. Science, 381 (6656).

Koch, J. (1991). Ériu, Alba, and Letha: When was a language ancestral to Gaelic first spoken in Ireland? Emania 9, 17-27.

Koch, J. (2013). Celtic from the West. Rhydychen: Oxbow Books.

Renfrew, C. (1987). Archaeology and Language: The Puzzle of Indo-European Origins. Llundain: Jonathan Cape.

Schrijver, P. (2013). Language Contact and the Origins of the Germanic Languages. Routledge.

Stifter, D. (2012, Gorffennaf 18). Old Celtic Languages. Adferwyd o University of København: https://rootsofeurope.ku.dk/kalender/arkiv_2012/celtic_spring/Altkeltisch_-_Allgemeines_WS_2010.pdf

Wikipedia. (2023, Mehefin 23). Celts. Adferwyd o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Celts

Wikipedia. (2023, Mehefin 23). Genetic history of the British Isles. Adferwyd o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Genetic_history_of_the_British_Isles

Wikipedia. (2024, Medi 30). Creole language. Adferwyd o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Creole_language

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.