1 Yr Wyddor
Mae yna 29
llythyren yn yr
wyddor Gymraeg:
a, b, c, ch, d, dd, e, f, ff, g, ng, h, i, j, l, ll, m, n, o, p, ph, r, rh, s, t, th, u, w, y
2 Yr acen bwys
Fel arfer, mewn
geiriau lluosill, mae’r goben, sef y sillaf olaf ond un, yn dwyn yr acen bwys:
cárwr; carẃriaeth; carwriáethau
Ond mae yna ragacen bwys ar sillaf gyntaf geiriau o bedair sillaf a mwy, yn enwedig ar ragddodiaid:
ànnibýniaeth, dìamddíffyn, ỳsgrifenýddes
Gall yr acen bwys fod ar y sillaf olaf yn lle ar y goben. Rhennir y geiriau fel a ganlyn (gw. Stephen J. Williams, 1980, 5-6):
a) Geiriau lle mae’r sillaf olaf yn gywasgiad o ddwy sillaf:
Cymraeg < Cym-ra-eg
cyfleus < cyfle-us
parhad < par-ha-ad
glanhau < glan-ha-au

