Tuesday, 7 March 2023

Orgraff yr iaith Gymraeg

 


1 Yr Wyddor

Mae yna 29 llythyren yn yr wyddor Gymraeg:

a, b, c, ch, d, dd, e, f, ff, g, ng, h, i, j, l, ll, m, n, o, p, ph, r, rh, s, t, th, u, w, y

2   Yr acen bwys

Fel arfer, mewn geiriau lluosill, mae’r goben, sef y sillaf olaf ond un, yn dwyn yr acen bwys:

cárwr; carriaeth; carwriáethau

Ond mae yna ragacen bwys ar sillaf gyntaf geiriau o bedair sillaf a mwy, yn enwedig ar ragddodiaid:

      ànnibýniaeth, dìamddíffyn, sgrifenýddes

Gall yr acen bwys fod ar y sillaf olaf yn lle ar y goben. Rhennir y geiriau fel a ganlyn (gw. Stephen J. Williams, 1980, 5-6):

a)   Geiriau lle mae’r sillaf olaf yn gywasgiad o ddwy sillaf:

            Cymraeg                    <         Cym-ra-eg

            cyfleus                        <         cyfle-us

            parhad                        <         par-ha-ad

            glanhau                      <         glan-ha-au

Ychydig ferfau ag ym- yn y sillaf gyntaf:

      ymdroi, ymroi, ymweld

(c) Rhai cyfansoddeiriau adferfol neu arddodiadol:

         erioed, heblaw, ymlaen, ymysg

(ch)  Geiriau benthyg o’r Saesneg:

         apêl, balŵn, carafán,  perswâd

(dd)  Acennir rhai geiriau o’r Saesneg ar y sillaf olaf ond dwy, fel yn y Saesneg:[1]

          ámbiwlans, cábinet, córidor, páragraff, pólisi, téstament

3 Acenion

Mae yna bedair acen yn y Gymraeg sy’n dylanwadu ar ansawdd y llafariaid y’u hysgrifennir uwch eu pennau:

a)      Yr acen ddyrchafedig (´) sy’n digwydd uwchben <a> ac <o>

b)     Yr acen ddisgynedig (`), sy’n digwydd uwchben <i> ac <o>

c)      Gall yr acen grom (^) ddigwydd uwchben unrhyw lafariad, i ddangos ei bod hi’n hir.

ch)   Y didolnod (¨) a ddefnyddir i ddangos fod llafariad yn cael ei hynganu ar wahân, yn hytrach na ffurfio deusain â’r llafariad drws nesaf iddi; nid yw ansawdd y llafariad yn newid: sïon [ˈsiˑɔn]; storïau [stɔrˈiˑaɪ]

4 Y Llafariaid

Sain leisiol yw llafariad a gynhyrchir heb gyfyngu ar lif y llafar, sef <a>, <e>, <i>, <o>, <u>, <w>, <y>; mae ansawdd llafariad yn dibynnu ar safle’r tafod yn y geg, ynghyd â safle’r gwefusau.

Gall llafariad Gymraeg fod yn ‘hir’ neu’n ‘fyr’. Mae’r llafariad bob amser yn ‘hir’ mewn geiriau unsill sy’n gorffen â:

            <b>, <ch>, <d>, <dd>, <g>, <f>, <ff>, <s>, <th>

Ac felly, nid oes angen rhoi acen grom arni:

            pob, coch, rhad, gradd, cig, twf, saff, cas, peth 

Mae’r collnod () yn cael ei arfer i gynrychioli’r newid <ae> > <â> ac <oe> > <ô> mewn geiriau unsill sy’n digwydd yn rhai o dafodieithoedd y De:

 

            lla’th   <         llaeth                          co’d   <         coed

            tra’d    <         traed                           o’s     <         oes

            ma’n   <         maen                          po’th   <         poeth

 

 A dyna’r rheswm dros roi collnod yn yr adferf ma’s, sy’n dod yn wreiddiol o maes.

Mae’r hyd hefyd yn amrywio o flaen <l>, <n> neu <r>. Fel arfer, mae angen acen grom uwchben <a>, <e>, <o> ac <w> pan fyddant yn hir mewn gair unsill sy’n gorffen ag <l>, <n> neu <r>:

            pâr, cân, gên, stên, côr, môr, stôl, tôn, sŵn, tŵr

Fel arfer, mae <i> ac <u> yn hir o flaen y cytseiniaid hyn, ac felly, nid oes angen acen acen grom i ddynodi hynny:

            hir, ffin, hil, sgil, llun, sur

Eithriadau: prin, swil, bil, pin 

Yn achos y gair benthyg sgìl, defnyddir yr acen ddisgynedig i ddangos fod y llafariad yn fyr, cf. clos a clòs.

Os bydd dwy gytsain yn dilyn y llafariad mewn gair unsill, bydd y llafariad, fel arfer, yn fyr:

            bant, brwnt, corff, pert, punt

Mae’r llafariad yn hir o flaen -ant (-an nhw), ac ysgrifennir acen grom (^) uwch ei phen i ddangos hynny:

            cânt (cân nhw), ânt (ân nhw), gwnânt (gwnân nhw), dônt (dôn nhw)

Yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yw fod dwy lafariad fer yn cael eu cywasgu, gan greu un llafariad hir:

 

      cânt          <   ca-                  (bôn amser dyfodol y ferf  ‘cael’)

      (cân nhw)      +

                              -ant                (terfyniad 3 pers. llu. yr amser presennol)

                              (-an nhw)


Os bydd gair unsill yn gorffen â llafariad, mae’r llafariad yn hir:

 

                        da, ffa, lle, llu, llw, si, to

 

Ac felly, nid oes rhaid rhoi acen grom ar eiriau fel y rhain.

 

Eithriad:

Mae’r llythyren <y> yn gallu dynodi dwy sain:

(i)  Y sain flaen gaeedig /i/ (yn y De; /é/ yn y Gogledd); yr un sain ag <u>:

            cryf, dyn

(ii) Y sain ganolig /«/, sy’n digwydd yn aml iawn mewn geiriau lluosill, ac eithrio yn y sillaf olaf:

            cynnig, glynu, prynu, mynyddoedd

Y sain ganolig hefyd sydd mewn geiriau diacen fel:

             dy, fy, y, yr, yn (ym, yng)

ac mewn rhai geiriau benthyg unsill fel ffrynt a syr.

Dyma sut y mae’r llafariaid Cymraeg yn ymddangos (rhoir y symbol seinegol sy’n cyfateb rhwng dwy linell ar oledd):

a (byr)             tan                                          /a/

á                      tristáu                                     /a/

a (hir)             tad                                          /ɑː/

â                      tân                                           /ɑː/

e (byr)             pen                                         /ɛ/

e (hir)             hen                                         /eː/

ê                      gêm                                         /eː/

i (byr)             pin                                          /ɪ/

ì                       sgìl                                          /ɪ/

i (hir)              ffin                                          /iː/

î                       sgrîn                                       /iː/

o (byr)             toc                                          /ə/

ò                      clòs                                         /ə/

o (hir)             clos                                         /oː/

ô                      môr                                         /oː/

*u (byr)          tun                                          /ɪ/

*u (hir)           grug                                        /iː/

                    cytûn                                      /iː/

w (byr)           dwrn                                       /ʊ/

w (hir)            sw                                           /uː/

ŵ                     dŵr                                         /uː/

*y (byr)          llyn                                         /ɪ/

*y (hir)           dyn                                         /iː/

                    ŷd                                            /iː/

**y                  cynnig                                    /ə/

*    Yng Ngogledd Cymru, mae’r llafariaid hyn yn cael eu cynhyrchu drwy godi canol y tafod i gyfeiriad y daflod.

**  Mae <y> yn swnio fel hyn pan fo’n digwydd yn y goben.

5 Y deuseiniaid

Mae deusain yn gyfuniad o ddwy lafariad mewn un sillaf, ond dim ond un ohonynt a all ddwyn yr acen bwys. Pan ddaw’r llafariad bwysleisiol gyntaf, ceir deusain ddisgynedig, a phan ddaw’n ail, ceir deusain ddyrchafedig.

(i) Y deuseiniaid disgynedig:

ai, ae, au, áu, âu:                                                                                           /aɪ/

            sain, traed, dau, casáu, dramâu

ei, eu, ey:                                                                                                /əɪ/, /eɪ/

            seiniau, lleuad, teyrnas

ew:                                                                                                           /ɛʊ/

            tew, rhew

iw, yw:                                                                                                   /ɪʊ/

rhiw, cyw 

oe, oi, ou:                                                                                              /oʊ/

            troed, lloi, cyffrous

wy, ŵy:                                                                                                  /ʊɪ/ 

(a) Geiriau unsill lle nad oes angen acen grom:

       bwyd, dwy, dwys, hwy, llwy, llwyr, mwy, rhwyd, rhwyf, swydd, swyn, twym, wy, wyt, wyth

 (b) Geiriau unsill lle mae angen acen grom (i ddangos y gwahaniaeth rhyngddynt a geiriau eraill):

      (dy) gŵyn, (ei) chŵyn, gŵydd, gŵyl, gŵyr, ŵyn, ŵyr, (y) gŵys, (a) chŵys

(c) Geiriau lluosill lle na roir acen grom: 

annwyd, arwydd, cadwyn, cannwyll, cwyno, egwyddor, galwyn, llwyddo, nodwydd, wylo

(ii) Y deuseiniaid dyrchafedig:

Yn dechrau ag <i>:                                                                                 /j/

            cofio, gweithiwr, iâ, iach, iâr, Iesu, iet, peintiwr, tanio

Yn dechrau â <w>:                                                                                 /w/

(a)  Geiriau unsill heb acen grom:

      y fer:       chwyn, gwyn, gwynt, gwyrth                                                /wɪ/

       y hir:       chwys                                                                                       /wiː/

(b) Geiriau unsill ag acen grom uwchben <y>:                                         /wiː/

            gwŷr, gwŷs

(c) Yn sillaf olaf geiriau, heb acen grom:                                                    /wɪ/ 

            arwyr, enwyn, palmwydd, pinwydd, tywydd

(ch) Gydag <y> ganolig mewn unrhyw sillaf ond yr un olaf:                /wə/

            gwyntoedd, gwyrddion, chwynnu, gwynnaf, tywyllwch

6 Y cytseiniaid

Sain yw cytsain sy’n a gynhyrchir trwy rwystro llif y llafar, e.e. <p>, <b>, <ch>, <ll>, <r>. 

Ar y cyfan, mae cytseiniaid Cymraeg yn swnio fel y rhai Saesneg cyfatebol. Ond cofiwch y pwyntiau canlynol:

<c>     ci, cap                                                                                                 /k/

<ch>   bach, chwaer                                                                                     /χ/

<dd>  gradd, ddoe                                                                                       /ð/

<f>      haf, felly                                                                                             /v/

<ff>    rhaff, ffair                                                                                          /f/

<ll>     lle, allan                                                                                             /ɬ/

<ph>  ei phen                                                                                               /f/

<rh>   rhad, rhwyf                                                                                       /r̻/

7 Llythrennau Dwbl

Ar wahân i’r cytseiniaid a ddynodir gan ddwy graffem:

      <ch>, <dd>, <ff>, <ng>, <ll>, <ph>, <rh>, <th>

Dim ond dwy lythyren sy’n cael eu dyblu yn y Gymraeg, sef <n> ac <r>, a hynny yn bennaf pan fyddant yn digwydd rhwng y goben a’r sillaf olaf mewn gair lluosill.

Eithriadau: tyn > tynn (wrth dreiglo, e.e. yn dynn), ynn

7a Dyblu <n>

Mae <n> yn cael ei dyblu o dan yr amgylchiadau canlynol:

1.   Yn y goben ar ôl llafariad fer:

      cannu, diflannu, ffynnu, mynnu, pennu, synnu, tennyn, tynnu, a.y.b. 

      Eithriadau:       (i)        crynu, penderfynu, prynu (lle mae’r gytsain yn

                                                ‘hanesyddol’ hir) 

                                    (ii)       menyn (lle mae’r llafariad yn dal yn hir mewn rhai                 tafodieithoedd cyfoes) 

                                    (iii)      lle mae deusain ddisgynedig yn y goben (sydd bob amser                                                 yn hir):

                                                llwyni, meini, poeni, taenu, a.y.b.

                                    (iv)      lle ceir cytsain o flaen yr <n>:

                                                llwydni, partner, trefnus, a.y.b.

2.   Yn y sillaf gyntaf lle mae’r rhagddodiad negyddol an- (sy’n achosi’r treiglad trwynol yn achos <p>, <t>, <c>, <b>, <d> a’r treiglad meddal yn achos <g> ac <m>) yn dod ar ddechrau gair sy’n dechrau â <t> neu <d>:

            annheilwng < teilwng, annisgwyl < disgwyl, a.y.b.

Eithriadau:    lle dilynir <t> neu <d> gan gytsain neu lle mae’r gair yn dechrau â                                                     llafariad neu <h>:

            anhrefn < trefn, anhrwsiadus < trwsiadus, a.y.b.

            anofnus < ofnus, anhapus < hapus, a.y.b.

Yn ogystal, rhaid i’r llafariad sy’n rhagflaenu fod yn fyr:

    ennill, gyrru, diflannu, torri, dibennu, synnu

Eithriadau: crynu, glynu, penderfynu, prynu 

Mae <r> yn cael ei dyblu yn y goben ar ôl llafariad fer: 

          fferru, torri, tyrru, a.y.b. 

Eithriadau: pori (lle mae’r gytsain yn dal yn hir mewn rhai tafodieithoedd)                           

Ond pan fydd yr acen bwys yn symud o ganlyniad i ychwanegu sillaf fel, er enghraifft, derfyniad berfol personol, collir un o’r llythrennau dwbl:

           ennill (ennill) + -ais                   =   enillais (enillais)

          cyrraedd (crraedd) + -iadau   =      cyraeddiadau (cyraeddiadau)

8 h-acennog

Fel arfer, pan fydd <n> neu <r> yn rhagflaenu’r sillaf acennog, yn enwedig y terfyniad berfenwol ‑au, ceir <h> ar ei hôl. Gan fod yr <h> yma yn dynodi’r acen bwys, fe’i gelwir h-acennog:

          crynhoi, cyrhaeddais, edifarhau, glanhau, mwynhau, parhau, sicrhau, tynhau,     sarhau

Ond, ar ôl cytsain ddi-lais, fel <t> ac <s>, nid ysgrifennir <h>, a dynodir yr acen bwys gan acen ddyrchafedig:

      casáu, dwysáu, gwacáu, nesáu, tristáu

9   Ynganu’r Wyddor Gymraeg

A         (a)                   B         (bi)                  C            (èc)                 CH        (èch)

D         (di)                  DD      (èdd)               E            (e)                   F          (èf)

FF       (èff)                 G         (èg)                 NG        (èng)               H         (aitsh)

I          (i-dot)             J          (je)                  L            (èl)                  LL       (èll)

M        (èm)                N         (èn)                 O            (o)                   P          (pi)

PH      (ffi)                 R         (èr)                  RH         (rhi)                S          (ès)

T          (ti)                   TH      (èth)               U            (i-bedol)         W        (w)

Y          (fel ‘her’ Saesneg heb yr <h>)



[1] Dim ond yn achos córidor yr ysgrifennir yr acen ddyrchafedig.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.