Monday, 7 August 2023

Y goddefol vs yr amhersonol

 

Y STAD ODDEFOL

Yn gyntaf, hwyrach mai da o beth fyddai esbonio’r gwahaniaeth rhwng y stad oddefol (“passive voice”) a’r stad weithredol (“active voice”):

 

Y STAD WEITHREDOL

Yma y goddrych sy’n cyflawni gweithred y ferf, e.e.

 

Berf

Goddrych

Gwrthrych

Trawodd  

car

gerddwr

 

Y STAD ODDEFOL

Yma y goddrych sy’n derbyn gweithred y ferf, e.e.

 

Berf

Gwrthrych

Berf

Adferfol

Cafodd

cerddwr

ei daro

gan gar

 

YR AMHERSONOL

Fodd bynnag, fel yr ieithoedd Celtaidd eraill, mae’r Gymraeg yn meddu ar derfyniadau ‘amhersonol’, sy’n cyfateb i’r stad oddefol mewn ieithoedd eraill, ac felly, gellir mynegi’r frawddeg ddiwethaf fel:

 

Berf <godd.>

Gwrthrych

Adferfol

Trawyd

cerddwr

gan gar

 

Yma mae’r goddrych yn rhan o’r terfyniad ‘amhersonol’, a gwrthrych y ferf yw cerddwr. Gan ei fod yn rhan o’r adferfol, goddrych anuniongyrchol yw ‘car’.

 

Golyga hyn nad oes modd cyfieithu ffurfiau amhersonol y Gymraeg i’r Saesneg yn llythrennol:

 

Gellir gweld Ynys Manaw o gopa’r Wyddfa.

(“The Isle of Man can be seen from the summit of yr Wyddfa.)

 

Am wybodaeth bellach, gw. Gramadeg y Gymraeg (§ 6.200-6.210). Ynddo, defnyddir y term diberson sydd, yn fy marn i, yn fwy addas nag amhersonol.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.