Sunday, 20 October 2024

Datblygiad posib yr ieithoedd Celtaidd Ynysig



1.  Ni ellir llai na dyfalu pa iaith/ieithoedd a siaredid ym Mhrydain ac Iwerddon yn ystod y cyfnod Neolithig. Mae tystiolaeth genetig yn awgrymu i’r amaethwyr Neolithig ddod o Anatolia. Anatoleg yw’r enw a roir ar y gangen gyntaf i dorri i ffwrdd o Broto-Indo-Ewropeg (PIE), ac mae rhai ieithyddion yn credu mai dyna oedd iaith yr amaethwyr Neolithig. Yr unig broblem gyda’r ddadl hon yw’r amseru; mae dros 3,000 o flynyddoedd rhwng ymddangosiad cyntaf amaethwyr yng ngogledd-orllewin Anatolia a thystiolaeth ardystiedig o ieithoedd Anatolaidd fel Hetheg (“Hittite”). Bid hynny fel y bo, byddai’r ieithoedd a siaredid ym Mhrydain ac Iwerddon yn wahanol iawn i’r iaith/ieithoedd a siaredid gan fewnfudwyr yn ystod Oes yr Efydd.

Sunday, 13 October 2024

Dyddiau'r Wythnos

 

Heb gael y cyfle i astudio Lladin yn ffurfiol, roeddwn i’n syn i ddysgu pa mor debyg yw dyddiau’r wythnos yn y Gymraeg i’r rhai Lladin Clasurol. Mae’r siart isod yn cynnwys y Ffrangeg a Gaeleg yr Alban yn ogystal â’r Gymraeg a’r Lladin:


Cymraeg

Lladin

Ffrangeg

Gaeleg yr Alban

dydd Llun

dies Lunae

Lundi

Diluain

dydd Mawrth

dies Martis

Mardi

Dimàrt

dydd Mercher

dies Mercurii

Mercredi

Diciadain

dydd Iau

dies Iovis

Jeudi

Diardaoin

dydd Gwener

dies Veneris

Vendredi

Dihaoine

dydd Sadwrn

dies Saturni

Samedi

Disathairne

dydd Sul

dies Solis

Dimanche

Didòmhnaich

Iaith Gelteg P yw’r Gymraeg a gâi ei dylanwadu’n fawr iawn gan y Lladin (iaith Italeg Q) a siaredid ym Mhrydain adeg y meddiant Rhufeinig.

Wednesday, 9 October 2024

Hanes yr ieithoedd Celteg Ynysol

 


Mae’r ieithoedd Brythoneg cyfoes yn swnio mor wahanol i’w cymheiriaid Goedeleg, roeddwn i dan yr argraff eu bod nhw wedi eu gwahanu ymhell cyn y goresgyniad Rhufeinig. Ond, wrth imi ddysgu Gaeleg yr Alban, fe’m synnwyd gan nifer y geiriau cytras rhwng yr Aeleg a’r Gymraeg. Wrth imi ddysgu Gaeleg, rwy’n ceisio gwneud rhestr ohonynt, ac mae 332 o eitemau arni hi erbyn hyn!

Yn aml iawn, defnyddir y termau ‘Celteg P’ a ‘Celteg  Q’ fel arf ddiagnostig i wahaniaethu rhwng yr ieithoedd Celteg (a’r rhai Italeg a Heleneg). Yr wyf wedi cael fy ngheryddu am ddefnyddio’r termau hynny yng nghyswllt yr ieithoedd Brythoneg a Goedeleg. Ni ddeellais pam, gan fy mod i dan yr argraff i Broto-Gelteg gadw *kʷ Proto-Indo-Ewropeg (PIE), ac felly, yn fy meddwl i, rhaid bod ieithoedd Celteg sydd wedi cadw *kʷ yn ‘hŷn’ na’r rhai lle troes *kʷ yn p. Ymddengys hefyd fod yr ieithoedd Celteg a gadwodd *kʷ yn rhai gorllewinol iawn fel yr Wyddeleg a Cheltibereg, sydd, i mi o leiaf, yn awgrymu mai’r arfordir gorllewinol Môr yr Iwerydd yw man geni’r Gelteg (Koch, Celtic from the West, 2013).