1. Ni
ellir llai na dyfalu pa iaith/ieithoedd a siaredid ym Mhrydain ac Iwerddon yn
ystod y cyfnod Neolithig. Mae tystiolaeth genetig yn awgrymu i’r amaethwyr Neolithig ddod
o Anatolia. Anatoleg yw’r enw a roir ar y gangen gyntaf i dorri i ffwrdd o
Broto-Indo-Ewropeg (PIE), ac mae rhai ieithyddion yn credu mai dyna oedd iaith yr
amaethwyr Neolithig. Yr unig broblem gyda’r ddadl hon yw’r amseru; mae dros
3,000 o flynyddoedd rhwng ymddangosiad cyntaf amaethwyr yng ngogledd-orllewin
Anatolia a thystiolaeth ardystiedig o ieithoedd Anatolaidd fel Hetheg
(“Hittite”). Bid hynny fel y bo, byddai’r ieithoedd a siaredid ym Mhrydain ac
Iwerddon yn wahanol iawn i’r iaith/ieithoedd a siaredid gan fewnfudwyr yn ystod
Oes yr Efydd.
2. Mae’n
debyg i ryw fath o PIE gyrraedd Prydain ar ddechrau Oes yr Efydd
gyda dyfodiad y diwylliant Bicer Gloch (“Bell Beaker”). Ym Mhrydain gwelwyd
trosiant poblogaeth o ryw 90% (Olalde, 2018), ond dim ond 15–30%
yn Iwerddon (Cassidy, 2016), ac felly, mae’n bosib i’r iaith
frodorol oroesi yno.
3. Mwy na thebyg, iaith Gelteg Q ar y cyfan oedd y math o Gelteg a siaredid ar
Ynys Prydain.
4. Dadleuir mai’r un iaith oedd Celteg Prydeinig a Chelteg Gwyddelig
ar y dechrau (Schrijver, 2013).
5. Dengys ymchwil ar DNA hynafol i haplo-grwpiau Y-DNA a gysylltir â’r
amaethwyr Neolithig ddod yn ôl i Brydain o Ogledd Gâl yn ystod Oes yr Haearn (Dulias, 2022). Mae’n bosib i’r
mewnfudo hwn fod yn sbardun i’r shifft *kʷ > *p.
6. Bu i siaradwyr Celteg Prydeinig fewnfudo i Iwerddon, gan achosi
shifft iaith a gymerodd gannoedd o flynyddoedd i’w gwblhau. Mae’n bosib i
fewnfudiad o siaradwyr Celteg Prydeinig ar ôl y rhyfel rhwng y Rhufeiniaid a’r
Brigantes, roi hwb mawr i’r shifft iaith (Schrijver, 2013).
7. Dadleuir
i’r prif newidiadau i’r ieithoedd Celtaidd Ynysig ddigwydd yn ystod y cyfnod
canoloesol cynnar (oddeutu 400-700 og)
(Schrijver, 2013).
8. Erbyn
diwedd y meddiant Rhufeinig, mwy na thebyg, Lladin llafar fyddai iaith
de-ddwyrain Prydain. Ond pan ymadawodd y Rhufeinwyr, roedd gan y llywodraethwyr
Romano-Frythonaidd ddau ddewis; naill ai ymuno â’r mewnfudwyr Germanaidd. (Mae’n
ddiddorol fod yr hen deyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd yn cyfateb yn fras i
diriogaethau’r llwythau brodorol cyn y goresgyniad Rhufeinig, ac mae llawer o
frenhinoedd cynnar yr Eingl-Sacsonaidd yn meddu ar enwau Celtaidd (Russell, 2011) neu ynteu ddysgu
Celteg Prydeinig. Mae’n bosib mai canlyniad dysgu’r iaith yn amherffaith sydd
tu ôl i’r newid cyflym oddi mewn i un math o Gelteg Prydeinig yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid.
9. Bu
i ddigon o’r siaradwyr newydd hyn symud i’r ardaloedd lle y siaredid Celteg Prydeinig Ucheldirol er mwyn achosi shifft iaith yno, a droes, yn y pen draw, yn
Gymraeg, Cymbrieg, Cernyweg a Llydaweg.
10. Yn Iwerddon, dadleuir i’r iaith
frodorol anhysbys, a gafodd ei chymathu, effeithio ar y newidiadau a
ddigwyddodd i Gelteg Prydeinig yno, gan ei throi’n Wyddeleg.
Dadleuon yn erbyn damcaniaeth Schrijver
1. Dengys
y dystiolaeth DNA hynafol ddiweddaraf i Brydain weld trosiant poblogaeth o oddeutu 90%
yn ystod Oes yr Efydd, ond dim ond 15–30% yn Iwerddon, sy’n golygu ei bod hi’n bosib i iaith ‘frodorol’ Iwerddon oroesi ymhell
i mewn i Oes yr Haearn, ac o bosib tu hwnt.
2. Mae
Schrijver yn dyddio’r prif ddatblygiadau i’r Wyddeleg a’r Gymraeg i oddeutu
400-700 og (Schrijver, 2013). Fel
Cymro Cymraeg, roedd hi’n weddol hawdd imi ddysgu’r Llydaweg. Mae’r patrymau
sain ar eirfa’n debyg iawn i rhai’r Gymraeg. Ond, er bod cystrawen Gymraeg modern—o
leiaf y gystrawen gwmpasog—yn perthyn yn agosach i Aeleg yr Alban nag i Lydaweg
modern, mae dysgu Gaeleg yr Alban yn her aruthrol imi. Rhaid cyfaddef fod y
Gymraeg a Gaeleg yr Alban yn anghyd-ddealladwy, ac felly, rwy’n ei chael hi’n
anodd credu i’r ymwahanu rhyngddynt ddigwydd mor ddiweddar â 400 og.
3. Ynglŷn â chyflwyno *p- i Gelteg Prydeinig, er yr ymddengys
i haplo-grwpiau Y-DNA sy’n gysylltiedig â’r amaethwyr Neolithig, ddiflannu
ymhlith poblogaeth Prydain yn ystod Oes yr Efydd, fe’i hailgyflwynwyd o Ogledd Gâl i raddau yn ystod Oes yr Haearn. A allasai’r mewnfudwyr fod yn gyfrifol am y shifft *kʷ >
*p, a effeithiai ar iaith y de-ddwyrain yn unig?
Cyfeirnodau
Cassidy,
L. M. (2016). Neolithic and Bronze Age migration to Ireland and establishment
of the insular Atlantic genome. Proceedings of the National Academy of
Sciences, 113(2), 368-373.
Dulias,
K. (2022). Ancient DNA at the edge of the world: Continental immigration and
the persistence of Neolithic male lineages in Bronze Age Orkney. Proceedings
of the National Academy of Sciences, t. 119(8).
Olalde,
I. (2018). The beaker phenomenon and the genomic transformation of northwest
Europe. Nature 555 (7695), tt. 190-96.
Russell,
M. (2011). UnRoman Britain: Exposing the Great myth of Britannia. The
History Press.Schrijver,
P. (2013). Language Contact and the Origins of the Germanic Languages.
Routledge.
Gellir cyrchu PDF o'r papur hwn yma.
No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.