Monday, 4 November 2024

Etymoleg 'cilydd'

 


Yn wreiddiol ‘cymar’ oedd ystyr cilydd:


a chymot Kynan gan i gilyd

(Evans, 1977)

Ond erbyn hyn, fe’i cyfyngir i’r ffurf dreigledig gilydd sy’n cyfateb i’r Saesneg ‘each other’: U3 ei gilydd, Ll1 ein gilydd, Ll2 eich gilydd (Thomas, 1996).

Etymoleg ‘Cilydd’

O’r Cymraeg Canol kilid ([ˈkilɨð]), o’r Celteg Prydeinig Diweddar *kilɨð, o’r Proto-Gelteg *keiliyos.

Mae cilydd yn gytras â’r Llydaweg egile (“other”), y Gwyddeleg céile  (“companion, neighbour”), a Gaeleg yr Alban cèile (“fellow, partner”).

Ymddengys fod yr [ð] ar ddiwedd cilydd yn ganlyniad i’r shifft Proto-Celteg *-y- > Celteg Prydeinig Diweddar *-ð, cf.

Cymraeg Diweddar

Celteg Prydeinig Diweddar

Proto-Gelteg

cilydd

*kilɨð

*keilyos

dydd

*dɨð

*dyīus

mynydd

*mönɨð

*moniyos

pridd

*prið

*kʷrīyess

Er gwybodaeth, mewn Cymraeg Diweddar, mae [ð] ddiweddol yn diflannu yn nhafodieithoedd Sir Benfro a de-orllewin Ceredigion:


Y Ddyfedeg

Cymraeg Safonol

adle

adladd

angla

angladd

mini

mynydd


ynghyd ag yn y adferf safonol i fyny.

Cyfeirnodau

Evans, D. S. (1977). Gramadeg Cymraeg Canol. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru.

 


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.