Dylanwadwyd yn drwm ar Gelteg Prydeinig gan
fewnlifiad o siaradwyr Lladin Prydeinig, yn enwedig y llywodraethwyr Romano-Brythonaidd,
wrth i’r milwyr Rhufeinig gael eu tynnu’n ôl o Brydain ar ddechrau’r bumed
ganrif cog. Digwyddodd y
newidiadau hyn ym morffoleg, cystrawen a geirfa Celteg Prydeinig. Benthyciwyd
llawer o eiriau Lladin yn ystod y cyfnod hwn, a thybir mai braich oedd un
ohonynt. Ond, gan fod brac yn digwydd yng Ngaeleg yr Alban ac yr Wyddeleg,
a allai braich fod yn air Celteg mewn gwirionedd?
Yn Geiriadur Prifysgol Cymru,
cofnodir braich fel
benthycair Lladin[1]:
[bnth. Llad. bracchium, H. Grn. brech, gl. brachium, Crn. C. bregh, Llyd. C. brech, Llyd. Diw. brec’h, breac’h] (Geiriadur Prifysgol Cymru, 2014)
Mae Wiktionary yn cytuno:
From
Middle Welsh breich, from Proto-Brythonic *brėx, from Latin bracchium.
Compare Cornish bregh, Breton brec'h.
Rwy’n cymryd fod yr etymoleg hon yn seiliedig ar fenthyceiriau Lladin fel:
diffaith, o’r Ll defectus; effaith, o’r Ll effectus; perffaith, o’r Ll perfectus
Dyma etymoleg (debygol) diffaith (“desolate”):
o’r Gymraeg Canol diffeith
/k/ > /χ/ > /i/
Mae hen ddigon o eiriau o darddiad Celtaidd sy’n dangos yr un datblygiad:
craith, o’r Proto-Gelteg *krenxtus; gwaith,
o’r PG *wextā; iaith, o’r PG *yextis; llaith, o’r PG
*lexto-; maith, o’r PG *mag-tio-; rhaith, o’r PG *rektu-; saith,
o’r PG *sextem; taith, o’r PG *tixtā
Ond, ac eithrio maith, daw’r geiriau Cymraeg uchod o eiriau ac ynddynt e neu i yn y goben, ond a sydd yng ngoben bracchium. Gan fod brac i'w gael yn yr Wyddeleg a Gaeleg yr Alban, a yw’n bosib fod braich yn ganlyniad i gydgyfeiriant â geiriau benthyg Lladin hysbys fel diffaith ac effaith? Mae’r Llydaweg brec’h a’r Cernyweg bregh yn awgrymu mai ffurf ac ynddi e yn y goben yw’r hynafiad cyffredin agosaf i’r tair iaith.
Mae dau bwynt i’w cadw mewn cof:
1. Ceir doe (“upper arm”) mewn Hen Wyddeleg (Wiktionary, doe, 2024). Credir i doe fod yn gytras â’r Galeg *dowsants (“bôn braich”) o’r PIE dóws (“braich”). Fodd bynnag, nid yw *dowsants wedi ei ardystio’n helaeth.
2. Credir i’r Lladin bracchium ei hunan ddod o’r Groeg Hynafol brachion, gan mai *armos oedd ‘braich’ mewn Proto-Italeg.
Mae Tabl 1 yn cymharu ‘braich’ mewn gwahanol ieithoedd Ewropeaidd, ynghyd a rhai Indo-Ewropeaidd tu allan i Ewrop.
Tabl 1: Y gair am ‘braich’ oddi mewn i ieithoedd Ewropeaidd, ieithoedd Ewropeaidd, ynghyd ag ieithoedd Indo-Ewropeaidd tu allan i Ewrop.
|
IAITH |
GRŴP IAITH |
IAITH FYW NEU FARW |
BRAICH |
|
Armeneg |
Armeneg |
byw |
arm |
|
Proto-Armeneg |
Armeneg |
marw |
*arm |
|
Rwsieg |
Balto-Slafoneg |
byw |
ruka |
|
Latfieg |
Balto-Slafoneg |
byw |
roka |
|
Tsieceg |
Balto-Slafoneg |
byw |
rameno |
|
Serbeg |
Balto-Slafoneg |
byw |
ruka |
|
Slofeneg |
Balto-Slafoneg |
byw |
roka |
|
Proto-Slafoneg |
Balto-Slafoneg |
marw |
*rame |
|
Proto-Balteg |
Balto-Slafoneg |
marw |
*roka |
|
Proto-Gelteg |
Celteg |
marw |
*dows- |
|
Cymraeg |
Celteg (P) |
byw |
braich |
|
Galeg |
Celteg (P) |
marw |
*dousants |
|
Gaeleg yr Alban |
Celteg (Q) |
byw |
brac (anghyffredin) |
|
Gwyddeleg |
Celteg (Q) |
byw |
brac (llenyddol)[2] |
|
Saesneg |
Germaneg |
byw |
arm |
|
Almaeneg |
Germaneg |
byw |
Arm |
|
Iseldireg |
Germaneg |
byw |
arm |
|
Daneg |
Germaneg |
byw |
arm |
|
Swedeg |
Germaneg |
byw |
ärm |
|
Islandeg |
Germaneg |
byw |
armur |
|
Proto-Heleneg |
Heleneg |
marw |
*brachion |
|
Groeg |
Heleneg (P) |
byw |
brátso |
|
Groeg Hynafol |
Heleneg (P) |
marw |
brachion |
|
Basgeg |
Iaith
ynysedig |
byw |
eskua |
|
Proto-Indo-Iraneg |
Indo-Iraneg |
marw |
*arm |
|
Persieg |
Indo-Iraneg |
byw |
bāja |
|
Hindi |
Indo-Iraneg |
byw |
bāz |
|
Wrdw |
Indo-Iraneg |
byw |
bazu |
|
Proto-Italeg |
Italeg |
marw |
*armos |
|
Wmbreg |
Italeg (P) |
marw |
*karu |
|
Lladin |
Italeg (Q) |
marw |
bracchium |
|
Romaneg |
Italeg (Q) |
byw |
braț |
|
Sbaeneg |
Italeg (Q) |
byw |
brazo |
|
Catalaneg |
Italeg (Q) |
byw |
braç |
|
Eidaleg |
Italeg (Q) |
byw |
braccio |
|
Portiwgaleg |
Italeg (Q) |
byw |
braço |
|
Galisieg |
Italeg (Q) |
byw |
brazo |
|
Albaneg |
Palaeo-Balcan |
byw |
krah |
|
Proto-Albaneg |
Palaeo-Balcan |
marw |
*arm |
|
Twrceg |
Twrceg |
byw |
kol |
|
Proto-Dwrceg |
Twrceg |
marw |
*elig |
|
Ffinneg |
Wraleg |
byw |
käsi |
|
Estoneg |
Wraleg |
byw |
käsi |
|
Hwngareg |
Wraleg |
byw |
kar |
|
Proto-Wraleg |
Wraleg |
marw |
*käte |
|
Saami |
Wraleg |
byw |
geahtie |
Cyfyd y tabl hwn ddau gwestiwn:
1. Mae’r geiriau cyfoes yn yr ieithoedd Germaneg a Balto-Slafoneg yn debyg iawn i’r ffurfiau yn eu proto-ieithoedd. Mae’r cysylltiad a Phroto-Armeneg hefyd yn ddidorol.
2. Mae’r geiriau Indo-Iraneg am ‘braich’, yn edrych yn debyg iawn i’r gair Proto-Heleneg, ac eto, *arm yw’r ffurf mewn Proto-Indo-Iraneg. Ai benthyceiriau Groeg yw’r rheiny?
Casgliadau
Gwyddys i lawer iawn o eiriau Lladin gael eu mabwysiadu gan Gelteg
Prydeinig, a droes, yn nhreigl amser, yn y Gymraeg. Credir fod braich yn
un o’r benthyceiriau hyn, ac, er bod a yn y goben, trwy gydgyfeiriant, bu
iddo ddatblygu’n debyg i eiriau Lladin a Brythoneg a chanddynt e yn y
goben, hwyrach trwy affeithiad-i.
Cyfeirnodau
Brut y Tywysogion. (2017). Adferwyd 11 21,
2024 o Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425:
http://www.rhyddiaithganoloesol.cardiff.ac.uk/cy/ms-page.php?ms=Pen19&page=102v&srch=diffeith
Geiriadur Prifysgol Cymru. (2014). Adferwyd 11 17, 2024 o Geiriadur Prifysgol Cymru: https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?braich
Wiktionary. (2023, 9 2). Reconstruction:Proto-Celtic/dowsants.
Adferwyd Tachwedd 17, 2024 o Wiktionary:
https://en.wiktionary.org/wiki/Reconstruction:Proto-Celtic/dowsants
Wiktionary. (2024, 11 17). braich.
Adferwyd o Wiktionary: https://en.wiktionary.org/wiki/braich
Wiktionary. (2024, 11 3). doe.
Adferwyd o Wiktionary: https://en.wiktionary.org/wiki/doe#Etymology_5
Gellir lawrlytho PDF o’r papur hwn yma.
====
[1] O’r Groeg Hynafol βραχίων (brakhíōn), o’r Proto-Heleneg *brəkʰús, o'r PIE *mréɡ́ʰus (“byr”).
[2] Gellir cymharu’r defnydd hwn o brac â’r defnydd o grudd yn y Gymraeg, sy’n cael ei ysytyried yn air barddol erbyn hyn. Mae grudd yn gytras â Gaeleg yr Alban gruaidh (“boch”), o’r Proto-Gelteg *groudos (“boch”).

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.