Yr wyf wedi defnyddio’r ansoddair helpfawr
(“helpful”) erioed, ac felly, roeddwn i’n syn i ddysgu nad yw’n digwydd fel cofnod
yn Geiriadur Prifysgol Cymru, Geiriadur yr Academi, Geiriadur
Cymraeg Gomer nac yn Y Gweiadur chwaith. Yn Geiriadur yr Academi,
cyfieithir helpful fel:
helpful a. [-]
1. parod eich cymwynas, gwasanaethgar, cymwynasgar to
be helpful bod yn/o gymorth to be helpful around the house bod yn
dda yn y tŷ 2. defnyddiol, cynorthwyol
Mae’r gair helpfawr i’w gael ar lafar, felly Nid wyf yn deall beth sydd gan bobl sy’n cynhyrchu geiriaduron yn ei erbyn. Ceir digon o ansoddeiriau cyfansawdd sy’n dilyn y patrwm:
ENW / ANS. + mawr:
anferthfawr, cynhwysfawr, dirfawr, dwysfawr, hynodfawr
I ddarganfod pa mor helaeth yw’r defnydd o helpfawr, gwneuthum chwiliadau cyflym yn yr Internet Archive a Google Search. Dewisais chwe phosibiliad:
1. helpfawr (ansoddair cyfansawdd)
2. help fawr (ansoddair cyfansawdd wedi ei sillafu fel dau air)[1]
3. help
mawr
4. helpfawr
iawn
5. help
fawr iawn
6. help
mawr iawn
|
|
Nifer y tocynnau |
|
|
Amrywiolyn
1 |
Internet Archive |
Google Search |
|
helpfawr |
0 |
23 |
|
help
fawr |
12 |
34 |
|
help
mawr |
452 |
|
|
Amrywiolyn
2 |
|
|
|
helpfawr
iawn |
0 |
3 |
|
help
fawr iawn |
0 |
0 |
|
help
mawr iawn |
12 |
54 |
Diddorol nodi na nodwyd yr un enghraifft o helpfawr yn yr IA, a help mawr yw’r amrywiolyn mwyaf cyffredin o heol, a dim ond gyda help mawr y digwydd y dwysäydd iawn.
Gyda Google Search, er mai help mawr yw’r amrywiolyn mwyaf cyffredin, nodwyd digon o enghreifftiau o helpfawr a helpfawr iawn.
Gan hynny, yr wyf i o’r farn fod helpfawr wedi hen ennill ei blwyf, a dylai geiriadurwyr ystyried ei ychwanegu at eiriaduron Cymraeg.
Gellir lawrlytho PDF o'r papur hwn yma.
[1] Yn GPC ceir eg.b. yn y disgrifiad o help, sy’n golygu ei fod yn gallu bod yn wrywaidd neu’n fenywaidd.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.