Monday, 25 November 2024

Sgìth, skuizh, esgud (“buan, cyflym”)

 


Wrth imi ddechrau dysgu Llydaweg a Gaeleg yr Alban, fe’m synnwyd gan debygrwydd y geiriau yn y ddwy iaith hynny sy’n cyfateb i’r Cymraeg blinedig, a’i bod hi’n ymddangos nad oes gair cytras yn y Gymraeg. Fodd bynnag, yn ôl etymolegwyr Celtaidd, nid gwir mo hynny, a chynigir mai’r gair darfodedig (ar lafar) esgud (“buan, cyflym”) yw’r gair cytras hwnnw. Dyma etymoleg y tri gair dan sylw:

Sgìth ([sɡʲiː]) (“blinedig”)

O’r Hen Wyddeleg scíth, o’r Proto-Gelteg *skītos, o’r PIE *(s)keh₁t- (“difrod, niwed”).

Skuizh ([skɰiːs]) (“blinedig”)

O’r PG *skītos, o’r PIE *(s)keh₁t- (“difrod, niwed”), cf. Cernyweg skwith, skith (“blinedig”), Gaeleg yr Alban sgíth.

Esgud (“buan, cyflym, heini”)

O’r PG *skītos, o’r PIE *(s)keh₁t- (“difrod, niwed”), cf. Cern. skwith, skith (“blinedig”), Llydaweg skuizh (“blinedig”), Gwyddeleg Canol scíth ‘blinedig’.

Mae ychydig o bwyntiau i’w codi ynglŷn ag etymoleg gonfensiynol esgud:

1. Dadleuir fod esgud wedi magu ystyr wrthgyferbyniol i ystyr Br. skuizh a Gae. sgìth. Mae hyn yn fy nharo i’n od iawn.

2. Mae yna air cytras arall yng Ngaeleg yr Alban a chanddo ystyr debyg iawn i esgud (“buan, cyflym”), sef èasgaidh (“heini”).

3. A derbyn etymoleg gonfensiynol esgud, ymddengys i’r PG *skītos ddatblygu’n ddau air a chanddynt ystyron gwrthgyferbyniol yn yr un iaith Geltaidd, sef Gae. sgìth ac èasgaidh.

Gan hynny, tybed a yw hi’n bosib fod esgud ag èasgaidh yn meddu ar etymolegau gwahanol i sgìth a skuizh? Mae rhai dadleuon o blaid priodoli’r un etymoleg i esgud a sgìth:

1. Fel arfer mae <d> mewn geiriau Cymraeg yn cyfateb i <th> yng ngeiriau Gaeleg:

brawd, bràthair; byd, bith; clwyd, cliath; ffrwd, sruth; gwlad, flath; llydan, leathan; mad, math; modryb, màthair; neidr, nathair; pedwar, cèithir; rhedeg, ruith; ystrad, srath. Eithriadau: cerbyd, carbad; cred, creideamh.

2. Ai ffrind ffals yw esgud ac èasgaidh, gan ei bod hi’n bosib mai o easgann (“llysywen”) y daw’r ansoddair èasaidh?

Casgliadau

Er gwaethaf eu hystyron cyferbyniol, ar gyfartaledd, mae’n edrych yn debyg mai etymoleg gonfensiynol esgud yw’r un fwyaf tebygol.

Gellir lawrlwytho PDF o'r papur hwn yma.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.