Wednesday, 31 January 2024

Rhifolion cyfansawdd ac ansoddeiriau

 


Yn ddiweddar, gofynnwyd y cwestiwn canlynol yn y grŵp Facebook Gramadeg y Gymraeg:

Pa un sy’n gywir?

    Y pedair awr ar hugain flaenorol (h.y. unigol, benywaidd)

    Y pedair awr ar hugain blaenorol (h.y. lluosog)

Atebais y cwestiwn fel a ganlyn:

Dyma enghraifft o ymadrodd enwol. Y pen yw’r elfen bwysicaf mewn ymadrodd o’r fath, sef “awr” yn yr achos hwn. (Mae pob elfen arall yn goleddfu’r pen.) Gan mai enw benywaidd yw “awr”, bydd unrhyw ansoddair sy’n ei ddilyn yn treiglo’n feddal.

 

Mewn ymadrodd enwol sy’n cynnwys rhifol cyfansawdd, daw’r ansoddair yn syth ar ôl y pen. Rhoir “dwy ddiod lugoer ar hugain” fel enghraifft o’r cyfluniad hwn yn Gramadeg y Gymraeg, 4.209.  (Thomas, 1996) Fodd bynnag, des i o hyd i un enghraifft o “y pedair awr ar hugain flaenorol” yn Google.

 

Ansoddair sy’n cyfateb i “diwethaf” yw “blaenorol”, a dw i ddim yn sicr fod y rheol a geir yn GyG yn gweithio yn achos gradd eithaf yr ansoddair. Felly, byddwn innau’n ffafrio:

 

y pedair awr ar hugain flaenorol

Saturday, 27 January 2024

Annwyl Athro vs Annwyl yr Athro

 


Yn y grŵp Dw i’n dysgu Cymraeg, gofynnwyd y cwestiwn canlynol:

Can anyone help me out with the correct way to address a professor in an email? Would it be “Annwyl Athro X”?

Gan fod y cwestiwn yn un syml, atebais yn syth ac yn gryno:


Usually the surname is used with the title “professor/athro”, so I would write: Annwyl Athro [Jones].

Monday, 22 January 2024

Y defnydd o'r didolnod yn Gymraeg


Ddefnyddir y didolnod ¨ i ddangos fod llafariad yn sillafog, yn hytrach na ffurfio deusain gyda’r llafariad drws nesaf iddi. Ni fydd ansawdd y llafariad dan y didolnod yn newid:

Defnyddir y didolnod gyda’r llafariaid <i> gan mwyaf:

 

beili > beilïau; copi > copïo; gweddi > gweddïo; parti > partïon; si > sïon;

stori > storïau

 

Ond does dim angen y didolnod pan ddaw <i> yng ngoben geiriau deusill:

 

dianc, diau, dieithr, diod, ciaidd, ffiaidd, piau, priod


Y defnydd o’r didolnod gyda llafariaid eraill

<e>

Dilynir yr un rheolau parthed defnyddio’r didolnod gydag <e> â chydag <i>

 

cyfleu > cyflëwyd; dileu > dilëwyd; ffoi > ffoëdig;

 

Ond caniateir y defnydd o’r didolnod yn y goben mewn gair deusill:

 

creu > crëwyd; gweu > gwëwyd

 

Does dim angen y didolnod i wahanu dwy lafariad unfath, sydd, yn y bôn, yn golygu’r olyniad <ee>:

 

amgáu > amgaeedig; cau > caeedig; > deall > deellir; dileu > dileer