Yn y grŵp Dw i’n dysgu Cymraeg, gofynnwyd y cwestiwn canlynol:
Can anyone help me out with the correct way to address a professor in an email? Would it be “Annwyl Athro X”?
Gan fod y cwestiwn yn un syml, atebais yn syth ac yn gryno:
Usually the surname is
used with the title “professor/athro”, so I would write: Annwyl Athro [Jones].
Dengys Ffig. 1 enghraifft o’r fformwla Annwyl Athro X mewn llythyr gan Lywodraeth Cymru.
Ffig. 1 Enghraifft o’r defnydd o Annwyl Athro X
Fodd bynnag, mae’r fformwla Annwyl yr Athro X hefyd yn bosib. Dengys Ffig. 1 enghraifft o Annwyl yr Athro mewn llythyr gan Lywodraeth Cymru:
Ffig. 2 Enghraifft o’r defnydd o Annwyl yr Athro X
Ni ellais ddod o hyd i unrhyw ganllawiau
ynglŷn â’r defnydd o’r fannod yng nghyswllt teitlau mewn cyfarchiad. Yn Y
Golygiadur, cynghorir rhoi’r fannod o flaen teitlau neu swyddi:
Os digwydd y teitl neu’r swydd yn rhan o frawddeg, ni roir priflythyren i’r
fannod.
Yr Athro J. S. Hughes
Y Prif Weithredwr
Y Parchedig T. Jones
Y Prif lenor Robin
Llywelyn
Y Barnwr Elwyn Ashton
Y Fonesig James
Y bonwr Ellis
Y Chwaer Margaret
Daeth y Barnwr Elwyn
Ashton i’r llys yn brydlon
Gallai hyn gyfiawnhau’r defnydd o’r fannod ar ôl annwyl mewn cyfarchiad fel Annwyl yr Athro X. Ond, ceir hyn yn Gramadeg y Gymraeg:
Yn fy marn i, mae cynnwys y fannod ar ôl yr ansoddair cyfarchol annwyl yn swnio’n aflednais – fel petai’n mynd yn groes i reolau’r genidol, ac nas disgwylir gyda swyddi a theitlau eraill, e.e. Annwyl Gapten X. Am y rhesymau hyn, mae’n well gennyf i hepgor y fannod ar ôl annwyl.
Llyfryddiaeth
Ifans, R. (2006) Y Golygiadur –
Llawlyfr i awduron a golygyddion, Cymdeithas Llyfrau Ceredigion.
Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y
Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.
Thorne, D.A. (1996) Gramadeg
Cymraeg, Gwasg Gomer
Williams, S.J. (1980) Elfennau
Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.




No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.