Wednesday, 31 January 2024

Rhifolion cyfansawdd ac ansoddeiriau

 


Yn ddiweddar, gofynnwyd y cwestiwn canlynol yn y grŵp Facebook Gramadeg y Gymraeg:

Pa un sy’n gywir?

    Y pedair awr ar hugain flaenorol (h.y. unigol, benywaidd)

    Y pedair awr ar hugain blaenorol (h.y. lluosog)

Atebais y cwestiwn fel a ganlyn:

Dyma enghraifft o ymadrodd enwol. Y pen yw’r elfen bwysicaf mewn ymadrodd o’r fath, sef “awr” yn yr achos hwn. (Mae pob elfen arall yn goleddfu’r pen.) Gan mai enw benywaidd yw “awr”, bydd unrhyw ansoddair sy’n ei ddilyn yn treiglo’n feddal.

 

Mewn ymadrodd enwol sy’n cynnwys rhifol cyfansawdd, daw’r ansoddair yn syth ar ôl y pen. Rhoir “dwy ddiod lugoer ar hugain” fel enghraifft o’r cyfluniad hwn yn Gramadeg y Gymraeg, 4.209.  (Thomas, 1996) Fodd bynnag, des i o hyd i un enghraifft o “y pedair awr ar hugain flaenorol” yn Google.

 

Ansoddair sy’n cyfateb i “diwethaf” yw “blaenorol”, a dw i ddim yn sicr fod y rheol a geir yn GyG yn gweithio yn achos gradd eithaf yr ansoddair. Felly, byddwn innau’n ffafrio:

 

y pedair awr ar hugain flaenorol

Cafodd yr un cwestiwn ei ateb gan David Willis, Athro Celteg Prifysgol Rhydychen, sydd, ymhlith ei gyflawniadau eraill, yn cael ei ystyried yn arbenigwr ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg. Dyma ei ateb cwta ef:


Erbyn heddiw, y gyntaf yw’r unig opsiwn mwy neu lai (heblaw ar ôl blynedd), ond roedd yr ail yn bosib yn y gorffennol (y ddau yn ymddangos yng nghyfieithiad gwreiddiol Beibl 1588).

Cymerais fod yr Athro Willis yn cyfeirio at ymadroddion rhifol cyfansawdd, a gofynnais iddo am enghreifftiau. Yn y cyfamser, euthum ati fy hunan i geisio dod o hyd i enghreifftiau o ymadroddion o’r fath o lyfrau printiedig ac o’r we fyd-eang. Methais yn lân â dod o hyd i enghreifftiau o ymadroddion rhifol cyfansawdd oedd yn cynnwys ansoddair mewn cyhoeddiadau printiedeg ac eithrio i’r un yn Gramadeg y Gymraeg: “dwy ddiod lugoer ar hugain” (Thomas, 1996). Llwyddais i ddod o hyd i’r enghreifftiau canlynol ar-lein, sy’n cynnwys awr sydd, wrth gwrs, yn enw benywaidd, ac sy’n achosi treiglad meddal mewn ansoddeiriau sy’n ei ddilyn:

pedair awr ar hugain cyffrous

(http://www.theatre-wales.co.uk/news/newsdetail.asp?newsID=3703)

pedair awr ar hugain cyffrous

(https://journals.library.wales/view/1134021/1157073/8#?cv=8&xywh=-340%2C-219%2C3529%2C4378)

pedair awr ar hugain ddiwethaf

(https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/23075038)

pedair awr ar hugain diwethaf

(https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/23075038)

pedair awr ar hugain olaf ei bywyd

(https://llyfrgell.porth.ac.uk/)

pedair awr ar hugain cwbl gyfrinachol

https://www.ysgolcalon.cymru/wellbeing-resources-for-pupils

Diddorol nodi safle olaf yr ansoddair ym mhob un o’r enghreifftiau, nid yn syth ar ôl y pen―yn wahanol i’r gyfarwyddyd a roir yn GyG―ac, allan o’r pedair enghraiift lle y disgwylid treiglad, dim ond un sy’n gwneud.

Fodd bynnag, wrth imi bori ar-lein, deuthum o hyd i erthygl yn Gwerddon gan yr Athro Willis ei hunan o’r enw ‘Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg’ (Willis, 2019). Er nad oes a wnelo’r erthgyl yn uniongyrchol â’r ymadrodd rhifol cyfansawdd, mae’n cynnig damcaniaethau darbwyllol iawn ar sut y bu i’r ymadrodd rhifol ddatblygu yn y Gymraeg, a chredaf mai casgliadau’r erthygl yw sail i’w ateb ar Facebook uchod. Dyma grynodeb o’r erthygl yn Gwerddon:

Crynodeb

Mewn Cymraeg Cyfoes Safonol, cenedl sy’n penderfynu ffurfiau ymadroddion rhifol, h.y. mae ansoddeiriau yn newid eu ffurf neu’n treiglo i adlewyrchu cenedl y prif enw.

Mae tri eithriad amlwg i’r rheol hon.

  1. Mae dau a dwy ill dau’n achosi’r treiglad meddal.
  2. Y defnydd o ddangosolion lluosog hyn a hynny gyda rhifolion, e.e. y tri chi hyn, y tair cath hyn.
  3. Ffurf rifol arbennig yw blynedd.

Dadl Willis (2019) yw fod y rheolau tu ôl i ymadroddion rhifol yn wahanol mewn Cymraeg Canol. Yn ei ôl ef, roedd pum patrwm yn bosib:

1.  rhifol + enw unigol (fel mewn Cyfraeg Cyfoes)

2.  rhifol + enw ‘rhifol’ arbennig: blwydyn (rhif. blyned), brawt (rhif.  broder), buwch (rhif.  bu),  chwaer (rhif.  chwiored), llwdyn (rhif.  llydyn), a hwch ‘mochyn’ (rhif. hych)

3.  rhifol + enw ‘rhifol’ nas defnyddir ond ar ôl rhifolion uwch na 2: dyd (rhif. dieu), mab (rhif. meib), a gwas (rhif. gweis)

4.  rhifol + enw lluosog ar ôl pob rhifol: abostol (rhif./llu. ebystyl), gwraig (rhif./llu. gwraged), iarll (rhif./llu. ieirll), merch (rhif./llu. merchet), tarw (rhif./llu. teirw), ych (rhif./llu. ychen), ac weithiau  hefyd  carw  (rhif./llu.  keirw)  a  morwyn  (rhif./llu.  morynyon).

5.  rhifol + enw lluosog ar ôl rhifolion uwch na 2 yn unig: gwr (rhif./llu. gwyr) a march (rhif./llu. meirch).

Treiglo ansoddeiriau

Mewn Cymraeg Canol, treiglir yr ansoddair ar ôl y rhifol dau/dwy:

  • dwy uorynyon vonhedic ereill (YCM, t. 55, ll. 10–11)
  • deu vackwy _wineuon (BM, t. 3, ll.  7–8)
  • y deu deirw burwynnyon (YSG, ll.  3054)

(Willis, 2019)

 Dengys y patrymau hyn nad cenedl fenywaidd sy’n achosi’r treiglad, ond yn hytrach, y rhif deuol. Ond Mae absenoldeb treiglo cyson yn yr orgraff yn awgrymu mai peidio â threiglo oedd y rheol yma:

  • pump gwraged beichawc (PKM, t. 47, ll. 27–t. 48, ll.   1)
  • y pedeir gwyl pennaduryaf (YCM, t.  39)

                                                          (Willis, 2019)

  • y dwy uam uelynyo
  • y dwy uerchet uelynyo
  • y deu uroder uelynyo
  • y deu uab uelynyon
  • y teir mam melynyon
  • y teir merchet melynyon
  • y tri broder melynyon
  • y tri meib melynyon
                             (Willis, 2019)

Unwaith eto, nid cenedl sy’n pennu’r treigladau yn yr achosion  hyn.

enw/ans.

brawt

merch

hwn

mab

gwr

kath

da

unigol

brawt

merchet

hwn, hon

mab

gwr

kath

da

deuol

broder

merchet

hyn

mab

gwr

kath

da

rhifol

broder

merchet

hyn

meib

gwyr

kath

da

lluosog

brodyr

merchet

hyn

meibyon

gwyr

katheu

da

Datblygiadau hanesyddol

Tua diwedd y cyfnod Cymraeg Canol, dechreuodd system y ffurfiau rhifol chwalu. Yn rhannol, digwyddodd hyn gan i rai o’r enwau a chanddynt ffurfiau rhifol neilltuol ymddangos yn llai aml. Yn sicr, erbyn yr 16g., cymerasai ceffyl lle march, ac felly, daeth ffurf rifol a lluosog meirch yn llai perthnasol. Gall hyn hefyd fod yn wir yn achos hwch, gair oedd yn golygu ‘mochyn (yn gyffredinol)’ mewn Cymraeg Canol, ond a gyfyngwyd i’w ystyr cyfoes, sef ‘mochyn benywaidd’, erbyn diwedd cyfnod Cymraeg Canol.

Os yw ffurf rifol yr enw yn debyg i’w ffurf luosog, mae’r ffurf hon yn dal i ymddangos ar ôl rhifolion drwy’r 16g. Gwelir hyn yn gwragedd  a merched ar ôl rhifolion gyda’r hen system, sydd yn y mwyafrif, a’r eithriadau, sef gwraig a merch, ar ôl rhifolion gyda’r system newydd.

  • vgain gwragedd (YK, ff.  5b)
  • a ffedair gwragedd (YK,  t. 117,  ll.  10)
  • ddwy ferched (YK, ff. 7a; t. 18, ll. 15; t. 21, ll. 11;  t. 21,  ll. 15) tair merched (YK,  ff. 6b)
  • dair merched (YK, t. 17, ll. 1) naw merched (YK, t. 24, ll.   9)
  • dwy ferched (Beibl, Genesis 19:8, 29:16)
  • ddwy ferched (Beibl, Genesis 19:15, 19:30, 31:41) thair merched (Beibl, Job  1:2)
  • ond dwy wraig eraill (TMC, ll. 2252)
  • dwy ferch (Y  Beibl, Diarhebion 30:15)

        (Willis, 2019)

Y sustem newydd

  1. Digwyddodd nifer o ddatblygiadau i gyrraedd y sustem rifol bresennol:
  2. Colli’r ffurf rifol enwau – ac eithrio blynedd.
  3. Ad-drefnu’r sustem dreiglo, gan dreiglo ansoddeiriau benywaidd yn feddal ar ôl y rhifol 2.
  4. Peidio â threiglo ansoddeiriau gwrywaidd ar ôl mewn ymadroddion rhifol deuol.
  5. Ad-drefnu cytundeb ansoddeiriol o ran rhif a chenedl.

O’r 22 o achosion perthnasol a gasglwyd gan Willis (2019) o destunau o’r 16g., mae mwyafrif bach (13) heb dreiglad. O’r 14 o achosion perthnasol yng nghyfieithiad 1588 y Beibl, ni cheir treiglad mewn naw achos, a cheir treiglad mewn pum achos:

  • a’r saith dwysen têg (Y Beibl, Genesis 41:26)
  • y saith muwch tewon cyntaf (Y Beibl, Genesis 41:20)
  • a phedair olwyn brês (Y Beibl, 1 Brenhinoedd 7:30)
  • y saith dwysen dêg (Y Beibl, Genesis  41:24)

(Willis, 2019)

Mae’r wyth enghraifft tu allan i gyfieithiad y Beibl yn rhannu 5:3 yn erbyn treiglo:

  • y tair dinas boneddicaf … yn yr ynis (YK, t. 67,    ll. 20–21)
  • Ef a wnaeth Beli vab Dyfnwal bedair priffordd frenhinol… (RhY (llsg. 1543), t. 12, ll. 18) (Willis, 2019)
Er bod y newid yng nghystrawen ansoddeiriau ar ôl rhifolion wedi ei gwblhau erbyn heddiw, mae dangosolion yn cadw at yr hen drefn, felly hyn, hynny a geir mewn ymadroddion rhifol:

y ddau fachgen hyn, y tair merch hynny

Treiglo’r rhifol ar ôl y fannod

Yn  olaf, mewn system wedi ei seilio ar genedl, y disgwyl yw i rifolion benywaidd dreiglo, ac i rifolion gwrywaidd beidio â threiglo. Ond, ar y cyfan, nid dyna sy’ digwydd mewn Cymraeg Cyfoes. Cedwir sustem dreiglo Cymraeg Canol. Mae’r rhifolyn gwrywaidd dau yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod (y ddau), ond nid yw’r rhifolyn benywaidd tair yn treiglo (y tair), yn union fel mewn Cymraeg Canol.

Casgliadau

Dengys Willis (2019) i gystrawen ymadroddion rhifol yn y Gymraeg ddatblygu’n hanesyddol. Mae hefyd yn cynnig ffordd newydd o ddadansoddi ymadroddion o’r fath mewn Cymraeg Canol trwy adnabod pedwar gwerth rhif ar gyfer enwau:

  1. unigol
  2. deuol
  3. rhifol
  4. lluosog

Er bod rhif y rhifolyn yn pennu ffurf ymadroddion rhifol mewn Cymraeg Canol, y ffactor penderfynol mewn Cymraeg Cyfoes Safonol yw cenedl yr enw. Mae’n debyg i’r treigladau sy’n gysylltiedig ag ymadroddion rhifol newid i gydymffurfio â’r sustem newydd cyn i gytundeb ansoddeiriau ddigwydd. Y treigladau (neu’r diffyg treiglo) ar y rhifolion eu hunain sydd wedi parhau’n fwyaf digyfnewid, ac, yma, mae sustem Cymraeg Canol yn goroesi hyd heddiw yn yr iaith safonol.

Pwynt trafod

Ar lafar, clywir ffurfiau fel y dair fuwch, y beder ferch, yn aml iawn. Meddyliais mai dylanwad patrwm ymadroddion trefnol oedd yn gyfrifol am y patrwm ‘llygredig’ hwn. Ond, gallai fod wedi datblygu’n organig, ond ryw ffordd, rywsut, nis mabwysiadwyd gan Gymraeg safonol. Byddai hi’n braf petai modd cynnal astudiaeth academaidd o’r ffenomen hwn mewn Cymraeg llafar.

Cyfeirnodau

Beibl.Y Beibl Cyssegr-lan (1588) (London: Christopher Barker).

BM. Breuddwyd Maxen (1908), gol. Williams, I. (Bangor: Jarvis a Foster).

YCM. Ystorya  de  Carolo Magno (1930),  gol. Williams, S. J. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

YK. ‘Astudiaeth  destunol a beirniadol o Ystorie  Kymru  neu  Cronigl Kymraeg (Ifan Llwyd ap Dafydd)’  (1967), gol. Lewis, N. (traethawd MA, Prifysgol   Cymru).

Willis, D. (2019, Mawrth). Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg. Adferwyd o Gwerddon: https://gwerddon.cymru/storfa-erthyglau/datblygiad-cystrawen-y-rhifolion-yn-y-gymraeg/


Darllen pellach

Borsley, R. D., Tallerman, M., a Willis, D. (2007) The Syntax of Welsh, Gwasg Prifysgol Gaer-grawnt).

Evans, D. S. (1964) Grammar of Middle Welsh, Athrofa Dulyn er Astudiaethau Uwch.

Lewis C. (1987) Orgraff yr Iaith Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Morris-Jones J. (1928) Orgraff yr Iaith Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer

Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.


Gellir lawrlwytho PDF o'r erthygl hon yma.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.