Wednesday, 7 February 2024

Y defnydd o’r acen ddisgynedig

 


Yr acen ddisgynedig (a elwir yn ‘acen drom’ yn Orgraff yr Iaith Gymraeg (Lewis, C.) ac yn Gramadeg y Gymraeg (Thomas P.W., IV.39)) yw’r marc diacritig a ddefnyddir leiaf yn y Gymraeg. Ei phrif swyddogaeth yw dangos fod llafariad yn ‘fyr’ mewn cyd-destun lle y gellid disgwyl iddi hi fod yn ‘hir’. Gellir dosbarthu’r defnydd o’r acen ddisgynedig fel a ganlyn:


1.  i wahaniaethu rhwng llafariad ‘fer’ a llafariad ‘hir’ mewn geiriau unsill:

 

bỳs (“bus”): bys (“finger”)

clòs (“close”): clos (“farmyard”)

drẁg (“drug”): drwg (“bad”)

còb (“math o geffyl”): cob (“cloak”)

hòb (“limp”): hob (“sow”)

hẁd (“hood”): hwd (“vommit”)

jòb (“job”): Job (“Job”)

mỳg (“mug”): myg (“glorious”)

nòd (“nod”): nod (“aim”)

pàs (“pass, permit”): pas (“whooping cough”)

pìn (“pin”): pin (“pine”)

pìl (“pill”): pil (“peel”)

plàd (“plaid, tartan”): plad (“plate”)

plỳg (“plug”): plyg (“fold”)

pỳg (“discolured”): pyg (“bitumin”)

sgìl (“skill”): sgil (“back”)

 

Ond nid yw’r rheol hon yn gyson, mae OIG yn awgrymu defnyddio’r acen grom mewn parau fel od (“odd”) ac ôd (“snow”), a pwl (“bout”) a pŵl (“pool”) (Lewis, 17).

 

2. uwchben ail elfen deusain ddisgynedig:

 

siẁt ([ʃəʊt] ) (“suit (of clothes)”)

 

3. mewn benthyceiriau (o’r Saesneg gan mwyaf), i ddangos fod safle’r acen bwys yn wahanol i’r disgwyl:

 

còridor[1]

 

Ond ymddengys mai eithriad yw hwn o ystyried sillafiad y benthyceiriau canlynol:

 

cabinet ([ˈkɐbɪnɛt]), cilomedr ([ˈkɪlomɛdr]), continwwm ([kɔnˈtɪnʊ.ʊm]), crocodeil ([ˈkrɔkodəɪl]), eliffant ([ˈɛlifɐnt]), Libanus ([ˈlɪbɐˑnɪs]), logarithm ([ˈlɔɡɐrɪðm]), ocsigen ([ˈɔksɪd͡ʒɛn]), octagon ([ˈɔktɐgɔn]), octopws ([ˈɔktopʊs]), paradeim ([ˈpɐrɐdəɪm]), paralacs ([ˈpɐrɐlɐks]), paralel ([ˈpɐrɐlɛl]), sensitif ([ˈsɛnsɪtɪv]), terapin ([ˈtɛrɐpɪn]), topograffi ([tɔpˈɔɡrɐfi])

 

Yn palindrôm ([ˈpɐlɪndɹoːm]), ceir acen grom ar y sillaf olaf er mai ar y sillaf gyntaf y mae’r acen bwys.

 

Ac, wedyn, acen ddyrchafedig sydd yn býngalo ([ˈbəŋgɐlo]) a cárnifal  ([ˈkɐrnivɐl]).

 

Tybed a yw’n bryd ailystyried yr acen ddisgynedig yn y Gymraeg bellach? O’r dadansoddiad uchod, categori 1―i wahaniaethu rhwng llafariad ‘fer’ a llafariad ‘hir’ mewn geiriau unsill―yw’r un mwyaf cynhyrchiol. Ond, ynddo, benthyceiriau diweddar o’r Saesneg yw pob un o’r enghreifftiau sy’n dwyn yr acen ddisgynedig. Yn waeth na hynny, dim ond un enghraifft o’r un o’r acen ddisgynedig sydd yn y ddau gategori arall!

 

Cyfeirnodau

Lewis C. (1987) Orgraff yr Iaith Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Lewis G.D. (2016) Geiriadur Cymraeg Gomer, Gwasg Gomer.

Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Thomas, R.J. (1950-) Geiriadur Prifysgol Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru. 



[1]   Yn wahanol i’r hyn a geir yn Geiriadur Prifysgol Cymru (Thomas, R.J.), ceir coridor heb acen yn Geiriadur Cymraeg Gomer.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.