Thursday, 23 January 2025

Gwreiddiau Ewropeaidd

 


Mae Celtyddion fel John Koch, cyd-olygydd y gyfrol enwog Celtic from the West, (Koch J. , Celtic from the West, 2013), yn troi fwyfwy at feysydd geneteg ac archaeoleg i geisio creu damcaniaeth integredig ynghylch tarddiad yr ieithoedd Indo-Ewropaidd gorllewinol (Koch J. , Celto-Germanic Later Prehistory, 2020). Hyd yn gymharol ddiweddar, roedd unrhyw astudiaethau genetig yn seiliedig ar geneteg poblogaethau cyfoes (Hay M. , Yamna Culture, 2017). Ond mae darganfyddiadau diweddar ym maes DNA hynafol wedi taflu goleuni newydd ar yr ymfudo dynol i Ewrop, a’r gobaith yn y pen draw, yw y bydd hefyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’i hanes ieithyddol.