Yn
ôl y ddamcaniaeth draddodiadol, dechreuai Proto-Gelteg, sef y famiaith dybiedig
i’r holl ieithoedd Celtaidd a ddaeth ar ei hôl, yng Nghanolbarth Ewrop, ac fe’i
cysylltir â’r diwylliant Urnfield, a flodeuai oddeutu 1200 cog, ar ddiwedd Oes yr Efydd. Mae’r
ddamcaniaeth hon hefyd yn cysylltu’r Celtiaid â diwylliant Hallstatt, (c.
1200–500 cog), ynghyd ag â
diwylliant La Tène (c. 450 cog
ymlaen), a’i dilynodd yn ystod Oes yr Haearn, gan ledu Proto-Gelteg tua’r
gorllewin a’r dwyrain. Ond, yn 2010, cyhoeddwyd Celtic from the West
Mae a wnelo’r blog hwn â gramadeg y Gymraeg yn bennaf. Bob hyn a hyn, byddaf yn trafod pynciau sydd tu allan i'r maes hwnnw ond sy'n dal yn berthnasol i deithi’r Gymraeg.
Sunday, 20 August 2023
A yw'r Darteseg yn iaith Geltaidd?
Tuesday, 8 August 2023
Sa i, sana i, sdimo fi, smo fi
Yn nhafodieithoedd De-orllewin Cymru, ceir ffurfiau negyddol arbennig
ar gyfer amser presennol ‘bod’. Gellir rhannu’r ffurfiau hyn yn fras yn ddaearyddol:
i. Sa i (De-ddwyrain Sir Gaerfyrddin)
ii. Sana i (Gogledd Sir Benfro)
iii. Sdimo fi (Canolbarth
Ceredigion)
iv. Smo fi (Gorllewin Morgannwg)
Yn fy marn i, mae dau beth i’w hystyried yma:
1.
Tarddiad
y ffurfiau
2.
Sut
i’w hysgrifennu
Meddai
Mae
‘meddai’ yn cael ei ystyried yn ferf ddiffygiol sy’n cyfleu’r gorffennol
syml, sef ‘said’ yn y Saesneg. Mewn Cymraeg llenyddol, mae’r ‘meddai’ yn
meddu ar baradeimiau cyflawn yn yr amser presennol a’r amser amherffaith syml:
PRESENNOL SYML
Un.
1.
meddaf (i)
2.
meddi (di)
3.
medd (ef/hi)
Llu.
1.
meddwn (ni)
2.
meddwch (chi)
3.
meddant (hwy)
Amhers.: meddir
Braidd y, prin y vs braidd na, prin na
Pan fônt yn rhagflaenu cymal perthynol anunion, mae
ystyr yr adferf “braidd” a’r ansoddair “prin”, yn dibynnu ar y geiryn perthynol
sy’n eu dilyn. Os daw y geiryn perthynol anunion cadarnhaol “y” ar eu hôl, ‘o’r
braidd’ (“barely”) yw’r ystyr a gyfleir, e.e.
Braidd y medrai gyfaddef hyd yn oed iddi’i hun.
(“She could barely admit it even to herself.”
Prin y gwelai wlith y bore.
(“He could barely see the morning dew.”)
(Daw’r ddau ddyfyniad o Am Newid gan Dana Edwards)
Bathu geiriau Cymraeg newydd
Cwestiwn
Pwy sy’n penderfynu sut i gyfieithu geiriau technologol fel laptop
neu smartphone i’r Cymraeg?
Ateb
Mae pwyllgor dan Gomisiynydd y Gymraeg sy’n ceisio safoni enwau
lleoedd Cymraeg. Ond, does dim corff cyfatebol sy’n ceisio bathu termau
newydd yn yr iaith.
Y dyddiau hyn, yn y Saesneg y bethir geiriau newydd gyntaf gan
mwyaf, a bydd unigolion sy’n siarad ieithoedd eraill yn eu cyfieithu, neu ynteu
eu haddasu, i’w hieithoedd eu hunain. Wedyn, mae’n dibynnu ar siaradwyr yr
ieithoedd hynny os cân nhw eu defnyddio ar lafar neu beidio. Er enghraifft, yn
y Gymraeg, rydym wedi derbyn penwythnos fel cyfieithiad o’r Saesneg weekend,
ond cedwir y sillafiad Saesneg yn y Ffrangeg.
Monday, 7 August 2023
Rhagenwau mewnol gwrthrychol
Yn
yr iaith lenyddol, mae gan y rhagenwau mewnol gwrthrychol eu set eu hunain o
reolau treiglo:
Un.
1. ’m (dim tr.; <h> o flaen llafariad), e.e.
fe’m gwelwyd, fe’m hatebwyd
2. ’th (tr. meddal), e.e. fe’th welwyd, fe’th
atebwyd
3. ’i (dim tr.; <h> o flaen llafariad, e.e.
fe’i gwelwyd (ef), fe’i gwelwyd hi, fe’i hatebwyd (ef), fe’i hatebwyd (hi)
Llu.
1. (dim tr.; <h> o flaen llafariad), e.e.
fe’n gwelwyd, fe’n hatebwyd
2. (dim tr.) fe’ch gwelwyd, e.e. fe’ch gwelwyd,
fe’ch atebwyd
3. (dim tr.; <h> o flaen llafariad), e.e. fe’u
gwelwyd, fe’u hatebwyd
NODIADAU
1. Yn
ddamcaniaethol, ceir yr un rheolau’n yn achos mi pan fo’n gweithredu fel
geiryn rhagferfol, ond, yn ymarferol, dim ond fe a ddefnyddir gyda
rhagenwau mewnol yn yr iaith lenyddol.
2. Does dim gwahaniaeth rhwng y 3 pers. un gwr. a’r 3 pers. un. ben.
Y goddefol vs yr amhersonol
Y STAD ODDEFOL
Yn gyntaf, hwyrach mai da o beth fyddai esbonio’r gwahaniaeth
rhwng y stad oddefol (“passive
voice”) a’r stad weithredol (“active
voice”):
Y STAD WEITHREDOL
Yma y goddrych sy’n cyflawni
gweithred y ferf, e.e.
|
Berf |
Goddrych |
Gwrthrych |
|
Trawodd |
car |
gerddwr |
Y STAD ODDEFOL
Yma y goddrych sy’n derbyn
gweithred y ferf, e.e.
|
Berf |
Gwrthrych |
Berf |
Adferfol |
|
Cafodd |
cerddwr |
ei
daro |
gan gar |






