Tuesday, 8 August 2023

Bathu geiriau Cymraeg newydd

Cwestiwn

Pwy sy’n penderfynu sut i gyfieithu geiriau technologol fel laptop neu smartphone i’r Cymraeg?


Ateb

Mae pwyllgor dan Gomisiynydd y Gymraeg sy’n ceisio safoni enwau lleoedd Cymraeg. Ond, does dim corff cyfatebol sy’n ceisio bathu termau newydd yn yr iaith.

 

Y dyddiau hyn, yn y Saesneg y bethir geiriau newydd gyntaf gan mwyaf, a bydd unigolion sy’n siarad ieithoedd eraill yn eu cyfieithu, neu ynteu eu haddasu, i’w hieithoedd eu hunain. Wedyn, mae’n dibynnu ar siaradwyr yr ieithoedd hynny os cân nhw eu defnyddio ar lafar neu beidio. Er enghraifft, yn y Gymraeg, rydym wedi derbyn penwythnos fel cyfieithiad o’r Saesneg weekend, ond cedwir y sillafiad Saesneg yn y Ffrangeg.


Yn hyn o beth, mae’r Gymraeg yn ddyledus i William Owen Pughe (1759–1835), a gyfieithodd lawer o eiriau i’r Gymraeg yn A Dictionary of the Welsh Language, geiriau fel pwyllgor a cawrfil. Ond, fel y gwyddys, cydiodd y cyntaf, ac mae hyd yn oed wedi ei fabwysiadu gan chwaer-iaith y Gymraeg, sef y Llydaweg ar ffurf poellgor, ond ni lwyddodd yr ail i ddisodli eliffant.

 

Yn fwy diweddar, rwy’n cofio Arfon Haines Davies, mewn rhaglen ar S4C yn yr 80au, yn ‘bathu’ y gair llywgoden fel cyfieithiad o’r Saesneg mouse yng nghyswllt cyfrifiaduron, ond ni chydiodd hwnnw chwaith.

 

Ac eto, rydym wedi derbyn y gair cyfrifiadur yn lle compiwtar, ond ‘camgyfieithiad’ yw hwnnw mewn gwirionedd; trefniadur fyddai cyfieithiad mwy cywir, ac yn wir, dyna a geir mewn Llydaweg safonol, sef chwaer-iaith y Gymraeg: urzhiataer < urzh ‘trefn’ + ‑iataer (terfyniad sy’n dynodi dyfais neu adnodd defnyddiol).

 

O ran y geiriau a grybwyllir uchod, gliniadur sydd wedi ei dderbyn fel cyfieithiad laptop (computer) erbyn hyn, ynghyd â ffôn clyfar am smartphone.

 

Os am wirio termau technegol, mae gwefan Llywodraeth Cymru, BydTermCymru, yn lle da iawn i ddechrau.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.