Pan fônt yn rhagflaenu cymal perthynol anunion, mae
ystyr yr adferf “braidd” a’r ansoddair “prin”, yn dibynnu ar y geiryn perthynol
sy’n eu dilyn. Os daw y geiryn perthynol anunion cadarnhaol “y” ar eu hôl, ‘o’r
braidd’ (“barely”) yw’r ystyr a gyfleir, e.e.
Braidd y medrai gyfaddef hyd yn oed iddi’i hun.
(“She could barely admit it even to herself.”
Prin y gwelai wlith y bore.
(“He could barely see the morning dew.”)
(Daw’r ddau ddyfyniad o Am Newid gan Dana Edwards)
Ond pan ddônt o flaen y geiryn perthynol negyddol na(d), maen nhw’n cadarnhau gweithred y ferf (sy’n gallu cyfateb i “hardly” yn y Saesneg), e.e.
….braidd na allai hi ei weld yn tynnu’n ôl oddi
wrthi.
(“….she could hardly see him pulling back from her.”)
(o I Hela Cnau gan Marion Eames)
Prin nad oedd hi’n teimlo piti dros Rhodri Puw.
(“He hardly felt pity for Rhodri Puw.”)
(o Jazz yn y Nos gan Rowan Edwards)
Mae bron na(d) yn cyfleu ‘bron â/ag’
(“almost”):
Bron na theimlai’n fodlon.
(“He almost felt satisfied.”)
Fodd bynnag, noder mai dim ond y geiryn negyddol na(d)
y gall bron ei ragflaenu.
Trafodir blaenu adferfolion yn Gramadeg y Gymraeg (§ 6.113).

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.