Tuesday, 8 August 2023

Meddai

 


Mae ‘meddai’ yn cael ei ystyried yn ferf ddiffygiol sy’n cyfleu’r gorffennol syml, sef ‘said’ yn y Saesneg. Mewn Cymraeg llenyddol, mae’r ‘meddai’ yn meddu ar baradeimiau cyflawn yn yr amser presennol a’r amser amherffaith syml:

PRESENNOL SYML

Un.

1. meddaf (i)

2. meddi (di)

3. medd (ef/hi)

Llu.

1. meddwn (ni)

2. meddwch (chi)

3. meddant (hwy)

Amhers.: meddir

AMHERFFAITH SYML

Un.

1. meddwn (i)

2. meddit (di)

3. meddai (ef/hi)

Llu.

1. meddem (ni)

2. meddwch (chi)

3. meddent (hwy)

Amhers.: meddid

Hefyd mae 3 pers. llu. pres. yn cyfateb i’r Saesneg “so they say”:


Mae’r peth yn amhosib ei wneud, meddan nhw.

Am ragor o wybodaeth, gw. Gramadeg y Gymraeg (§ 2.43).


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.