Tuesday, 8 August 2023

Sa i, sana i, sdimo fi, smo fi

 

Yn nhafodieithoedd De-orllewin Cymru, ceir ffurfiau negyddol arbennig ar gyfer amser presennol ‘bod’. Gellir rhannu’r ffurfiau hyn yn fras yn ddaearyddol:

 

         i.    Sa i (De-ddwyrain Sir Gaerfyrddin)

        ii.    Sana i (Gogledd Sir Benfro)

      iii.    Sdimo fi (Canolbarth Ceredigion)

       iv.    Smo fi (Gorllewin Morgannwg)

 

Yn fy marn i, mae dau beth i’w hystyried yma:

 

1.    Tarddiad y ffurfiau

2.    Sut i’w hysgrifennu

 

1. TARDDIAD

O does dim o y daw’r ffurfiau llafar hyn. Ac mae hynny’n amlwg yn ffurfiau Canolbarth Ceredigion, er bod y defnydd ohonynt wedi cyfyngu i’r to hynaf erbyn hyn.

 

2. SUT I YSGRIFENNU ‘SA I’

Fel arfer, defnyddir y collnod ’ i ddynodi fod llythyren yn eisiau, ond yn Y Golygiadur, awgryma Rhiannon Ifans ddefnyddio’r collnod cyn lleied â phosib, a hynny am resymau esthetig. Rwy’n digwydd cytuno â hi. Gan hynny, rwy’n awgrymu ysgrifennu’r ffurfiau canlynol:

 

Un.

De-ddwy. Sir Gâr

Gog. Sir Benfro

Can. Ceredigion

Gor. Morgannwg

Dwy. Morgannwg

1.

sa i

sana i

sdimo fi

smo fi

gw i ddim

2.

so ti

sanat ti

sdimot ti

smo ti

ti ddim

3. (g.)

so fe

sano fe

sdimo fe

smo fe

gyw a ddim

(b.)

so hi

seni hi

sdimo hi

so hi

gyw (h)i ddim

Llu.

 

 

 

 

 

1.

so ni

sanon ni

sdimon ni

smo ni

gŷn ni ddim

2.

so chi

sanon chi

sdimon ni

smo chi

chi ddim

3.

so nhw

senon nhw

sdimon nhw

smo nhw

gŷn n(h)w ddim

 

Er gwybodaeth, yn nhafodiaith Sir Benfro, ceir ffurfiau negyddol arbennig yn y gorffennol cwmpasog yn ogystal ag yn y presennol:

 

Un.

1. wena i (do’n i ddim)

2. wenot ti

3. wêno fe (gwr.)

    weni hi (ben.)

 

Llu.

1. wenon ni

2. wenoch chi

3. wenon nhw


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.